Mwy o Newyddion
Dathlu Diwrnod Pi Cymru
Cafodd disgyblion gogledd Cymru flas ar dafell enfawr o pi heddiw wrth ddathlu un o ddamcaniaethau mathemategol mwyaf eiconig y byd a’i chysylltiad unigryw â Chymru.
Dechreuodd disgyblion blwyddyn 8 a 9 yn Ysgol Friars Bangor y dathliadau drwy gynnal eu sesiwn Pi yn yr Awyr eu hunain – lle’r oedd disgyblion yn cymryd rhan mewn gweithdy syllu ar y ser i weld sut mae pi'n cael ei ddefnyddio yn y gofod.
Bydd y genedl gyfan yn clywed am Ddiwrnod Pi Cymru ddydd Llun, 14 Mawrth, gyda phobl o bob oedran yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau i’w hysbrydoli i ddefnyddio mwy ar fathemateg yn eu bywyd bob dydd.
Yn Ysgol Friars, roedd y disgyblion yn cael eu harwain gan Bennaeth Mathemateg yr Ysgol, Chris Parry, y Dirprwy Bennaeth ac Athro Ffiseg, David Healey ac arbenigwyr o Techniquest Glyndŵr mewn gwers arbennig ar sut y mae’r ddamcaniaeth fathemategol eiconig wedi helpu i ddarganfod y bydysawd.
Meddai Mr Parry: “Mae mathemateg yn cael ei weld weithiau fel pwnc mewn dosbarth yn unig. Ond, mewn gwirionedd, pan ddaw yn fater o lwyddo ym mhob agwedd o’n bywyd bob dydd, mae’n amhosibl byw hebddo yn y byd go iawn.
“Roedd sesiwn heddiw’n wych, roedd yn helpu i godi brwdfrydedd y plant ynghylch sut i ddefnyddio cyfrifiadau ymarferol fel pi a’u hannog i feddwl yn galed sut beth fyddai bywyd hebddyn nhw - sef, a dweud y gwir, yn anodd iawn.”
Mae gan Gymru yn enwedig le unigryw i hawlio'r ffenomen a ddechreuodd ym 1706; William Jones o Fôn oedd y cyntaf i ddefnyddio'r llythyren Roegaidd π neu pi i gynrychioli’r cysonyn mathemategol.
Syniad yr Athro Gareth Ffowc Roberts, Athro Emeritus ym Mhrifysgol Bangor, oedd Diwrnod Pi Cymru. Y llynedd llwyddodd i ddenu cefnogaeth Llywodraeth Cymru i sefydlu’r dyddiad fel diwrnod swyddogol o ddathlu yng Nghymru.
Mewn mannau eraill yng Nghymru, cymerodd disgyblion Ysgol Gyfun Maes Hafren yng Nghaerdydd ran mewn gêm bêl-droed ‘di-pi’gyda chwaraewyr clwb Cardiff City gan ddefnyddio peli sgwâr a gôl ar ffurf pi. Yn ysgol Glan Afan, Porth Talbot, roedd disgyblion yn gwneud cyfrifiadau enfawr o ffurfiau a gwrthrychau yn nhiroedd yr ysgol.
Roedd y digwyddiadau hyn nid yn unig yn helpu i sefydlu’r dyddiad fel dydd o ddathlu swyddogol ond yn pwysleisio ymhellach gysylltiad dwfn Cymru â’r ddamcaniaeth drwy ddal i ddathlu'r Cymro o roddodd pi i'r byd.
Yn dilyn ymgyrch eleni, dywedodd y Gweinidog dros Addysg a Sgiliau, Huw Lewis AC, ei fod yn cael ei galonogi’n arw fod cymaint o ddysgwyr ledled Cymru wedi nodi'r diwrnod drwy ymchwilio eu hunain i'r ddamcaniaeth gan ddefnyddio nodweddion tir a gwrthrychau eraill yn eu hardal fel canllawiau.
Meddai Huw Lewis, a lansiodd yr ymgyrch eleni: “Fel cenedl sydd mor gyfarwydd â hanes Pi, mae’n hynod bwysig ein bod yn sicrhau bod cenedlaethau’r dyfodol yn gwybod amdani ac yn cael eu hysbrydoli gan ei grym.
“Mae gwybod fod cymaint o’n dysgwyr ifanc wedi bod yn gweithio gyda pi er clod i hynafiad mor ddyfeisgar ac â chymaint o dalent fathemategol nid yn unig yn galonogol ond mae hefyd yn hollol hanfodol i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf i dorri tir newydd ym meysydd mathemateg, gwyddoniaeth a pheirianneg.”
Rhif diderfyn yw pi nad yw hyd yn oed y cyfrifiaduron mwyaf grymus wedi gallu cyfrifo’i union werth ond mae pobl ers blynyddoedd wedi cael hwyl yn ceisio cofio cymaint o’i rifau ag y gallen nhw.
Mae’r Americanwyr wedi dathlu Diwrnod Pi Cenedlaethol ers 1988 a gwledydd eraill wedi’u dilyn ers hynny, i gydnabod rhan ganolog pi mewn peirianneg a thechnoleg.
I ganfod rhagor am Ddiwrnod Pi Cymru, ewch i: