Mwy o Newyddion

RSS Icon
10 Mawrth 2016

Hogia’ Ni yn Ffrainc - Caneuon ar gyfer Ewro 2016

Gydag ychydig llai na chan niwrnod cyn cychwyn cystadleuaeth Ewro 16 mae’r cynnwrf wedi cychwyn a’r edrych ymlaen bron yn anioddefol!

Eisoes gwelwyd rhaglenni radio a theledu, cyhoeddi llyfrau, casglwyd sticeri ac yn fuan gellir gyd-ganu efo Gwerinos i gefnogi hogia’ Chris Coleman yn Ffrainc ym mis Mehefin.

Ie, dydd Llun, Mawrth 14 bydd Gwerinos yn rhyddhau sengl newydd ar label Sain a hynny yn Gymraeg a Saesneg, sef Hogia’ Ni ac All The Way.

“Fues i’n ddigon ffodus i gael dilyn Cymru i’r rhan fwyaf o’r gemau rhagbrofol a hynny wedi oes o siom yn dilyn Cymru,” meddai Ywain Myfyr aelod o’r grŵp.

“Wedi gweld Cymru’n curo Israel ro’n i’n teimlo reit hyderus bod ni’n mynd i gyrraedd Ffrainc, a thra’n eistedd ar y traeth allan yn Hafia death y syniad.”

Mae Hogia Ni wedi bod yn ran boblogaidd o set fyw y band, ac addasiad o’r gân honno yw’r traciau newydd a fydd ar gael i’w llawrlwytho ar iTunes o Fawrth 14 ymlaen.

Cafodd Gwerinos gymorth o sawl lle wrth roi’r traciau at ei gilydd yn Stiwdio Sain yn ystod mis Ionawr.

Mae Yws Gwynedd yn canu un bennill ar y traciau a cheir lleisiau soniarus criw Ar Y Marc, BBC Radio Cymru yn gymorth yn y gytgan.

Ychwanegwyd seiniau offerynnau prês gan aelodau o Fand Prês Deiniolen.

Daeth syniad y clawr oddi ar un o grysau T ‘Spirit of 58’ o’r Bala sy’n arbennigo ar ddylunio dillad i gefnogwyr pêl droed Cymru.

Bydd holl elw’r traciau yn mynd i’r Elusen Gôl, elusen a sefydlwyd gan gefnogwyr Cymru ac sy’n mynd a rhoddion i blant dan anfantais yn y gwledydd tramor y bydd Cymru yn ymweld â hwy.

Mae’r traciau felly yn gywaith go iawn o sawl agwedd o bêl droed yng Nghymru a’r gobaith ydy y clywir y gân yn cael ei bloeddio yn Ffrainc dros yr haf.

Bydd Gwerinos yn canu’r fersiwn newydd o Hogia Ni yn fyw am y tro cyntaf yn Nhŷ Siamas, Dolgellau a hynny ar nos Sadwrn, Mawrth 19.

Mae tocynnau i’r gig arbennig yma ar gael trwy ffonio 07860934722 neu 01341421800.

 

Rhannu |