Mwy o Newyddion
Ffigurau newydd yn dangos bod hanner cleifion Cymru yn aros llai nag 11 wythnos cyn dechrau triniaeth
Mae ffigurau newydd a gafodd eu cyhoeddi heddiw yn dangos, ym mis Ionawr, fod hanner y bobl a oedd yn disgwyl am driniaeth wedi aros am lai nag 11 wythnos.
Ym mis Ionawr 2016, 10.7 wythnos oedd yr amser yr oedd yn rhaid i gleifion aros ar gyfartaledd o gael eu hatgyfeirio am driniaeth yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol i dderbyn y driniaeth honno. Mae hyn yn cynnwys yr amser a gafodd ei dreulio yn aros am unrhyw apwyntiad fel claf allanol, am brofion diagnosteg neu am driniaethau eraill y gallai fod ar glaf eu hangen cyn i’r brif driniaeth ddechrau.
Mae’r ffigurau’n dangos hefyd fod y cyfnod aros cyn dechrau triniaeth yn llai na 26 wythnos ar gyfer 84% o lwybrau cleifion – i fyny o 83.5% ym mis Rhagfyr 2015.
Roedd 89,024 o “lwybrau cleifion” ar gau ym mis Ionawr. Mae hyn yn golygu bod y driniaeth wedi’i chwblhau neu nad oedd angen unrhyw driniaeth ar y claf erbyn hynny.
Yn y cyfamser, cafodd 101,027 o atgyfeiriadau eu derbyn ar gyfer apwyntiad cyntaf fel claf allanol gan un bwrdd iechyd ym mis Ionawr 2016. Ar gyfartaledd, cafodd mwy na 5,000 o atgyfeiriadau eu derbyn bob diwrnod gwaith ym mis Ionawr 2016.
Dywedodd Vaughan Gething, y Dirprwy Weinidog Iechyd: “Mae Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru yn trin mwy o bobl nag erioed o’r blaen. Ym mis Ionawr, cafodd mwy na 5,000 o gleifion eu hatgyfeirio ar gyfartaledd bob diwrnod gwaith – mae hynny yn fwy na 101,000 o gleifion yn ystod y mis hwnnw’n gyfan.
“Er gwaetha’r galw sy’n cynyddu, mae’r Gwasanaeth Iechyd yn trin y mwyafrif helaeth o gleifion o fewn yr amser targed. Mae hanner y rheini sy’n disgwyl triniaeth yn aros am lai nag 11 wythnos.
“Dw i’n falch o weld bod perfformiad y Gwasanaeth Iechyd wedi gwella ym mis Ionawr o’i gymharu â mis Rhagfyr, gydag 84% o gleifion yn aros llai na 26 wythnos am driniaeth. Ond, rydyn ni’n gwybod bod angen gwella eto. Dyna pam mae gennym ni gynlluniau clir ar gyfer lleihau amseroedd aros erbyn diwedd mis Mawrth eleni.”