Mwy o Newyddion

RSS Icon
09 Mawrth 2016

Prif feddyg Cymru yn eich annog i "beidio â mynd i'r ysbyty os ydych yn dioddef o symptomau'r ffliw neu'r norofeirws

MAE pobl sy’n dioddef o symptomau’r ffliw neu haint chwydu’r gaeaf, sef y norofeirws yn cael eu hannog i beidio â mynd i’r ysbyty oni bai ei fod yn gwbl angenrheidiol.

Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Ruth Hussey, yn annog pobl i geisio cyngor trwy wasanaeth ffôn Galw Iechyd Cymru ar sut i reoli’r norofeirws neu i gysylltu â’u fferyllydd neu feddyg teulu i drafod symptomau’r ffliw yn hytrach na mynd i’r adrannau brys.

Mae ysbytai ledled Cymru wedi gorfod cau nifer o welyau i atal y norofeirws rhag lledaenu ymysg cleifion agored i niwed.

Mae hyn wedi effeithio ar allu’r ysbytai i dderbyn cleifion newydd yn gyflym o’r adrannau brys.

Mae adrannau brys a’r gwasanaeth ambiwlans yn parhau i brofi cyfnodau prysur iawn.

Hyd yn hyn eleni, ar ei uchaf, mae’r nifer dyddiol o bobl sy’n galw am eu gwasanaeth wedi bod 25% yn uwch na’r cyfartaledd.

Dywedodd Dr Hussey: “Mae meddygon teulu ledled Cymru wedi gweld cynnydd yn nifer y bobl sy’n dioddef o haint chwydu’r gaeaf neu symptomau’r ffliw, yn ogystal â chynnydd mewn cyflyrau anadlol yn dilyn y tywydd oer diweddar.

“Mae hyn wedi arwain at gynnydd yn y galw am apwyntiadau brys â meddygon teulu, gan ei gwneud yn anoddach i bobl drefnu apwyntiadau arferol.

“Mae staff ysbytai yn adrodd am gynnydd yn nifer yr achosion o’r norofeirws a’r ffliw ar wardiau. 

“Rydyn ni’n gofyn i bobl beidio ag ymweld â ffrindiau neu deulu yn yr ysbyty os ydyn nhw wedi dioddef symptomau fel dolur rhydd neu chwydu yn ystod y 48 awr diwethaf. 

“Mae’r norofeirws yn hynod heintus a gall ledaenu’n gyflym, yn yr un modd â’r ffliw, a gall rhai cleifion mewn ysbytai fod yn fregus iawn.

“Gallwch gael cyngor a gwybodaeth drwy ffonio Galw Iechyd Cymru ar 0845 46 47, drwy ymweld â fferyllfeydd a thrwy gynllun mân anhwylderau Dewis Fferyllfa sy’n cynnwys presgripsiynau ar gyfer cyflyrau penodol.”

Mae pobl ledled Cymru yn cael eu hannog i wneud y ‘dewis doeth’ trwy ddefnyddio’r gwasanaeth iechyd cywir ar gyfer eu hanghenion.

Mae’r rhain yn cynnwys:
• Hunanofal – gofalu am eich hunan os oes gennych gyflyrau fel peswch, dolur gwddf, briw ar y ben-glin, mân faterion eraill
• Meddyg Teulu neu’r gwasanaeth y tu allan i oriau – ar gyfer chwydu, pigyn clust/colli clyw, peswch poenus, symptomau parhaus
• Fferyllfeydd cymunedol – ar gyfer dolur rhydd, trwyn sy’n rhedeg, poen bol, cur pen
• Optegwyr – ar gyfer problemau â’r llygaid
• Unedau Mân Anafiadau – ar gyfer briwiau, sigo tennyn (ee y pigwrn/y ffêr), brathiadau, mân salwch neu anafiadau
• Adrannau brys – ar gyfer tagu, poen yn y frest, llewygu, colli gwaed, anafiadau difrifol a allai beryglu bywyd, amheuaeth o strôc. 

 

Rhannu |