Mwy o Newyddion
Annog y Canghellor i ail-feddwl newidiadau pensiynau menywod
Mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood wedi ysgrifennu at y Canghellor yn galw arno i ddefnyddio’r Gyllideb yr wythnos nesaf i gyflwyno cydraddoldeb yn oed pensiwn y wladwriaeth, er mwyn gwneud yn siŵr na fydd neb ar eu colled.
Dywedodd Leanne Wood fod newidiadau i drefniadau pensiwn wedi eu gosod ar fenywod heb hysbysu yn briodol, ac y dylid cyflwyno newidiadau yn raddol.
Wrth ysgrifennu at y Canghellor cyn y Gyllideb, dywedodd arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood:
“Rwy’n siŵr eich bod yn ymwybodol eisoes fod llawer o fenywod wedi cael newidiadau wedi eu gwneud i’w trefniadau pensiwn heb iddynt gael eu hysbysu fel y dylid o ganlyniad i Ddeddf Pensiynau 2011.
“Yn y Gyllideb yr wythnos nesaf, mae gennych gyfle i gywiro’r camwedd hwn trwy gyflwyno cydraddoldeb newidiadau yn oedran pensiwn y wladwriaeth mewn dull fydd yn sicrhau na fydd neb ar ei golled. Rwy’n gofyn i chi wneud hyn.
“Er y byddai Plaid Cymru yn croesawu trin menywod yn gyfartal o ran oedran pensiwn y wladwriaeth, mae hyn hefyd yn galw am drin menywod yn gyfartal mewn meysydd eraill megis y gweithle, enillion a chyfleoedd mewn bywyd – rhywbeth na chafodd y menywod y mae Deddf Pensiynau 2011 wedi effeithio arnynt.
“Rwy’n pryderu hefyd y bydd codi oedran pensiwn y wladwriaeth yn effeithio’n anghymesur ar fenywod yng nghymru. Mae gan y boblogaeth yma ddisgwyliad oedran is ar gyfartaledd. Mae hyn yn golygu fod pobl yma yn llai tebygol o fanteisio ar fuddion pensiwn y wladwriaeth, yn ogystal â bod yn llai tebygol o allu dibynnu ar gyfoeth fydd wedi crynhoi erbyn iddynt ymddeol.
“Edrychaf ymlaen at eich ymateb i’r pwnc hwn yn y Gyllideb yr wythnos nesaf.”