Mwy o Newyddion
Rhoi microsglodyn ar gŵn – pedair wythnos i fynd
MAE’R Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, Rebecca Evans, wedi atgoffa perchnogion cŵn mai dim ond ychydig wythnosau sydd i fynd tan y bydd yn orfodol rhoi microsglodyn ar bob ci yng Nghymru.
O 6 Ebrill, bydd yn orfodol rhoi microsglodyn ar bob ci dros 8 wythnos oed yng Nghymru a chofrestru manylion y perchennog ar gronfa ddata gymeradwy.
Dywedodd Rebecca Evans: “Drwy roi microsglodyn ar gi, bydd gan y perchennog y siawns orau o gael hyd i’w anifail os yw’n mynd ar goll neu’n cael ei ddwyn.
“Mae rhif cyfeirnod unigryw ar bob microsglodyn ac mae’n rhaid i’r perchennog gofrestru ei fanylion cyswllt ar un o’r cronfeydd data awdurdodedig.
“Mae hyn yn creu cyswllt unigryw rhwng y ci a’i berchennog a dylai helpu perchnogion i ddod o hyd i’w hanifeiliaid anwes.
“Dylai hefyd ddiogelu lles cŵn drwy annog perchnogion a bridwyr i fod yn gyfrifol a dylai helpu i reoli cŵn peryglus.
“Perchnogion cŵn sy’n gyfrifol am sicrhau bod yr wybodaeth ar y gronfa ddata’n gyfoes.
“Os nad ydyn nhw wedi rhoi microsglodyn ar eu cŵn eto, neu os nad yw’r manylion ar y gronfa ddata eto, rhaid iddyn nhw wneud hynny cyn 6 Ebrill.”
Dywedodd Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, yr Athro Christianne Glossop: “Mae microsglodynnu’n broses syml lle defnyddir nodwydd i fewnblannu microsglodyn bach i war y ci.
“Bydd y ddeddfwriaeth yn effeithio ar bob ci heblaw’r cŵn hynny sydd wedi cael eu heithrio gan filfeddyg am resymau iechyd.
“Bydd yn dal yn ofynnol o dan y gyfraith i gi nad yw’n gi gwaith wisgo coler ac arno dag sy’n nodi enw a manylion cyswllt y perchennog pan fydd mewn lle cyhoeddus ar ôl i’r ddeddf ddod i rym.”
I gael rhagor o wybodaeth am ficrosglodynnu, dylai perchnogion cŵn siarad â’u milfeddyg.