Mwy o Newyddion

RSS Icon
09 Mawrth 2016

250,000 o blant yn byw mewn arswyd mewn ardaloedd o dan warchae yn Syria

Datgela adroddiad newydd gan Achub y Plant mai bomiau casgen, cyrchoedd awyr a pheledu yw’r problemau mwyaf ar gyfer yr amcangyfrif o dros chwarter miliwn o blant sydd yn byw mewn ardaloedd sydd o dan warchae yn Syria.

Mae rhieni yn tystiolaethu i erchyllder bywyd teuluol o dan warchae, gan orfod ymdrîn â’r effaith seicolegol ar blant sydd wedi eu arswydo gan ffrwydradau, yn ogystal a chanlyniadau truenus diffyg bwyd, meddyginiaeth sylfaenol a dŵr glân.

Croesewir symudiadau diweddar i gynyddu cymorth ar gyfer ardaloedd o dan warchae, ond canfyddwyd bod dosbarthiadau yn ad-hoc, yn dameidiog ac yn aml mae nwyddau hanfodol gan gynnwys offer meddygol wedi cael eu tynnu oddi arnynt.

Cyflwelwyd â dros 125 o famau, tadau a phlant sy’n byw o dan warchae mewn 22 o grwpiau ffocws ar gyfer yr adroddiad, ‘Plentyndod o Dan Warchae’, a ryddhawyd heddiw i nodi 5 mlynedd o ryfel yn Syria. Ymhob grŵp cyfweld, dywedodd  plant eu bod yn byw mewn ofn cyson o ymosodiad a dywedodd y rhieni bod ymddygiad eu plant wedi newid – gan fynd yn fewnblyg, ymosodol neu ag iselder.

Roedd eu tystiolaeth yn rhoi darlun ysgytiol o fywyd bob dydd yn nhrefi o dan warchae Syria. Cafwyd adroddiadau gan staff meddygol o gynnal llawdriniaethau yng ngolau cannwyll, rhedeg allan o feddyginiaethau a babis sal yn marw mewn rheolfeydd oherwydd yr oedi mewn cyrraedd gofal meddygol. Mae plant yn cael eu gorfodi i fwyta dail wedi eu berwi a bwyd anifeiliaid ar gyfer eu unig bryd bwyd dyddiol, ac mae athrawon yn sefydlu ysgolion mewn selerau er mwyn amddiffyn disgyblion rhag bomiau. Disgrifiodd y bobl leol sut mae saethwyr cudd yn ceisio saethu unrhywun sy’n ceisio gadael, gan gaethiwo’r boblogaeth mewn carchar awyr-agored.

“Arswyd sy’n rheoli bellach. Mae plant nawr yn aros eu tro i gael eu lladd. Aros am eu tro nhw i farw mae’r oedolion hyd yn oed,”  medd Rihab, mam yn Nwyrain Ghouta.

Ymddangosir i’r ymosodiadau waethygu dros y chwe mis diwethaf. Awgryma gwybodaeth newydd bod bomiau casgen yn cael eu gollwng ar ardaloedd o dan warchae yn fwy nag unrhyw ran arall o Syria, a bod y duedd yma wedi cynnyddu’n sylweddol yn ail hanner 2015. Mae ymosodiadau yn cynnwys peledu maes chwarae yn Al Wa’er ym mis Medi lle roedd dwsinau o blant yn chwarae, a chyrchoedd awyr a laddodd o leiaf 29 o blant yn Nwyrain Ghouta dros bythefnos ym mis Rhagfyr yn unig.

Dywedodd Hassan, tad o Deir Ezzor: “Roedd fy mhlant wedi arswydo pan roedd y peledu yn digwydd. Fe welais i bedwar o blant gafodd eu taro gan y bomiau. Roedd yn drasiedi, doeddwn i ddim yn gallu gwylio’r hyn oedd yn digwydd. Collodd rhai plant eu breichiau neu goesau.”

Cynhaliwyd y grwpiau ffocws eleni mewn wyth o ardaloedd o dan warchae, lle canfyddwyd diffyg bwyd, dŵr glân, meddyginiaeth a gofal meddygol helaeth ac angeuol:

  • Ymhob grwp ffocws o oedolion ond un (16 allan o 17) cafwyd adroddiadau bod plant yn eu cymuned wedi marw o ddiffyg meddyginiaethau neu fynediad i ofal meddygol.
  • Dywedodd atebwyr ymhob grwp eu bod wedi gorfod o leiaf hanneru y nifer o brydau bwyd y maent yn eu bwyta bob dydd.
  • Mewn pedwar grŵp, adroddwyd bod plant yno wedi marw o ddiffyg maeth ac achosion eraill sy’n ymwneud â newyn.

Er gwaethaf i Gyngor Diogelwch y CU basio chwe chynnig er 2014 yn galw am fynediad dyngarol di-rwystr i Syria – un bob pedwar mis – mae’r nifer o bobl sy’n byw o dan warchae wedi mwy na dyblu yn y flwyddyn diwethaf.

Croesawir yr ymdrechion diweddar i ddosbarthu cymorth i rai o’r ardaloedd sydd wedi eu taro galetaf, ond dim ond cyfran fechan iawn o’r hyn sydd ei angen sydd wedi ei ddosbarthu.

Mae rhai meddyginiaethau, tanwydd a bwyd maethlon yn cael eu tynnu oddi ar y confoi, ac nid yw pobl yn cael gadael ar gyfer triniaeth meddygol. Ni fydd nwyddau all achub bywyd yn cyrraedd pawb sydd yn daer eu hangen, hyd nes bod mynediad llawn yn cael ei roi.

Dywedodd Mary Powell-Chandler, Pennaeth Achub y Plant yng Nghymru: “Mae plant yn marw o ddiffyg bwyd a meddyginiaethau mewn rhannau o Syria, rai cilometrau yn unig o warysau sy’n llawn dop o gymorth. Nhw sy’n talu’r pris am ddiffyg gweithredu byd eang.

“Mae teuluoedd a gyfwelwyd ar gyfer yr adroddiad hwn yn sôn am fabis yn marw mewn rheolfeydd, milfeddygon yn trîn pobl, a plant yn cael eu gorfodi i fwyta bwyd anifeiliaid wrth iddynt guddio mewn seleri rhag cyrchoedd awyr. Digon yw digon. Wedi bron i bum mlynedd o ryfela yn Syria, mae’n amser dod â’r gwarchaeae i ben.”

Gorwedda’r prif gyfrifoldeb dros ddioddefaint plant Syria gyda’r rheiny sydd yn rhan o’r gwrthdaro – mae Achub y Plant yn galw arnyn nhw i atal y gwarchaeae ac i roi mynediad diymatal a pharhaol ar unwaith i gymorth dyngarol ar gyfer pob ardal, ac i stopio’r ymosodiadau ar ysgolion, ysbytai ac isadeiledd sifiliaid hanfodol eraill.

Yn ôl Achub y Plant, Dylai’r gymuned ryngwladol fod yn gwneud llawer iawn mwy er mwyn achub bywydau plant o dan warchae Syria. Mae’n hanfodol eu bod yn dal pob un sy’n rhan o’r gwrthdaro yn atebol, er mwyn sicrhau mynediad llawn a di-rwystr i’r ardaloedd sydd o dan warchae ar hyn o bryd.

Maent yn gofyn i arweinwyr byd-eang i ddad-gyplysu cymorth dyngarol o drafodaethau heddwch ac i atal rhag defnyddio cymorth fel sglodyn bargeinio ar gyfer trafodaethau gwleidyddol. 

Rhannu |