Mwy o Newyddion
AS benywaidd cyntaf Plaid Cymru yn galw ar ei chyd-feynywod i gymryd risgiau, bod yn eofn a chofleidio uchelgais
Yn ystod dadl yn Nhŷ'r Cyffredin i nodi Diwrnod Rhyngwladol Menywod, galwodd AS benywaidd cyntaf Plaid Cymru, Liz Saville Roberts ar ei chyd-fenywod i gofleidio uchelgais, cymryd risgiau ac arwain drwy esiampl.
Galwodd yr Aelod Seneddol dros Ddwyfor Meirionnydd, a gafodd ei hethol gyntaf i Dŷ'r Cyffredin yn Etholiad Cyffredinol mis Mai 2015, am fwy o weithredu i annog mwy o fenywod i mewn i broffesiynau megis swyddi mewn Seneddau cenedlaethol a rolau yn y diwydiant peirianyddol.
Dywedodd Liz Saville Roberts AS: “Yn anffodus, rydym yn dal i fyw mewn cymdeithas lle mae'r gweithleoedd-y busnesau mawr, y siambrau dadlau, y consolau peirianneg, a’r diwydiant awyrlu yn cael eu dominyddu gan ddynion.
“Ond yn y mannau hynny sy'n parhau i gael eu hystyried fel llefydd di-nod i gymdeithas-y meithrinfeydd a'r cartrefi nyrsio-fe ddanrganfyddwch fod merched sy’n cael eu talu’n wael yn ffurfio'r mwyafrif helaeth o'r gweithlu, yn gwneud y pethau nad ydynt yn ymddangos fel bod wir o bwys, megis gofalu am gyd-ddyn.
“Siawns bod yr amser wedi dod i ni fel cymdeithas i addasu ein gwerthoedd. Pam fod gweithgarwch sydd yn draddodiadol yn waith i ferched yn cael ei danbrisio?
“Pam y dylai cynnal a chadw peiriannau a chwarae triciau gydag arian gael statws mor uchel, ac felly yn talu yn well na gofalu am bobl yn eu henaint?
“Mae disgrifio dyn fel uchelgeisiol yn ganmoliaethus, ond mae disgrifio merch fel bod yn uchelgeisiol yn awgrymu beirniadaeth. Dyna pam mae’n rhaid i ni arwain drwy esiampl. Daeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru, am gyfnod, y ddeddfwrfa cenedlaethol cydbwyso-rhyw gyntaf yn y byd yn 2003, gan ddefnyddio gwahaniaethu cadarnhaol.
“Ni ddylai unrhyw berson ifanc fyth gael eu hatal rhag cyrraedd eu potensial oherwydd eu rhyw. Rwy'n credu ein bod ni oll yn cytuno. Ond yr hyn sy'n fwy pwysig yw fod cymdeithas yn galluogi i ferched ddychmygu eu potensial.
“Fel cyn athrawes, byddwn yn dadlau ein bod yn annog pobl eraill-merched a menywod i gymryd risgiau, i fod yn eofn ac i gofleidio uchelgais. Rydym yn gyfyngedig yn unig gan ein dychymyg.”