Mwy o Newyddion

RSS Icon
08 Mawrth 2016

Ffrindiau pedair coes newydd i breswylwyr cartref gofal

Mae preswylwyr cartref gofal yng Nghaernarfon wedi cael ffrindiau pedair coes newydd - gan gynnwys Gem y cocker spaniel.

Mae Gem y ci deuddeg oed yn ymwelydd rheolaidd â Bryn Seiont Newydd, y ganolfan ragoriaeth dementia sydd wedi ei hadeiladu ar safle hen ysbyty cymunedol ar gyrion y dref.

Ci Megan Roberts yw Gem sy’n aelod o Grŵp Hyfforddi Cŵn Dyffryn Nantlle Vale.

Ymysg yr ymwelwyr wythnosol eraill mae cyd-aelodau’r clwb Jayne Grove a’i labrador du, Madog ac Elly Hale a’i chi defaid Almaenig, Persephone.

Yn ôl i Megan, cafodd ei synnu ar y dechrau pa mor awyddus oedd rhai preswylwyr i ddod i nabod ei chi cocker spaniel hoffus, Gem.

Dywedodd Megan: “Mae wedi bod yn anhygoel; mae’r preswylwyr yn bywiogi pan fyddwn yn ymweld. Bydd rhai yn siarad am gŵn maent wedi bod yn berchen arnynt yn y gorffennol. Efallai ei bod yn anodd iddynt gofio, ond mae’n rhaid iddo fod yn beth da os yw’n ysgogi atgofion.

“Mae’n brofiad gwirioneddol arbennig clywed preswylwyr yn hel atgofion am eu hen anifeiliaid anwes. Ac mae Gem yn mwynhau’r sylw yn arw. Mae hi’n 12 oed bellach ac yn dechrau heneiddio ac mae ganddi ambell i flewyn llwyd ond mae hi’n llawn bywyd er gwaethaf ei hoedran.

“Mae cŵn cocker spaniel a labrador yn ddelfrydol ar gyfer ymweld â chartrefi gofal gan eu bod mor addfwyn. Ac mae Persephone, ci defaid Almaenig Elly, hefyd yn gi mor addfwyn a chyfeillgar. Ni fyddem yn dod â nhw yma pe bai’r cŵn ddim yn mwynhau.

“A dweud y gwir byddwn yn mynd mor bell â dweud bod y cŵn yn mwynhau’r profiad gymaint â’r preswylwyr. Maent yn sicr yn cael llawer o sylw a llawer o  ddanteithion hefyd. “

Nia Lloyd-Roberts, artist preswyl a chydlynydd cyfoethogi Bryn Seiont, feddyliodd am y syniad o gael cŵn anwes i ymweld â’r cartref gofal newydd sbon 71 gwely sy’n rhan o sefydliad gofal Parc Pendine.

Meddai: “Mi wnaeth Megan, Elly a Jayne wirfoddoli’n garedig i ddod â’u cŵn i mewn yn wythnosol ac rydym mor ddiolchgar. Gallwch weld wynebau rhai preswylwyr yn goleuo cyn gynted ag y maent yn gweld y cŵn. Mae yno lawenydd a hapusrwydd go iawn.

“Maen nhw’n hoffi dangos cariad ac anwyldeb tuag at y cŵn ac mae’n ymddangos bod y cŵn yn barod iawn i ymateb. Mae gweld hynny yn rhywbeth arbennig.

“Bydd llawer o breswylwyr yn siarad am y cŵn a’r anifeiliaid anwes y maent wedi bod yn berchen arnynt yn y gorffennol, a bydd rhai yn rhannu straeon a siarad am eu profiadau eu hunain. Mae’n beth da cael preswylwyr i feddwl am y cŵn a’r anifeiliaid anwes y maent wedi eu cael eu hunain.

“Ond mae hefyd yn dda gweld preswylwyr yn rhyngweithio gyda’r cŵn boed yn rhoi mwytho neu dim ond siarad â nhw.

“Mae hefyd yn braf cael anifeiliaid anwes yn yr adeilad. Rydym am i Bryn Seiont fod yn gartref go iawn i’n preswylwyr nid dim ond cartref gofal. Mae’n bwysig bod ein preswylwyr yn teimlo mai dyma yw eu cartref a’i fod yn rhywle lle gallant ymlacio a theimlo’n ddiogel.

“Rwy’n falch iawn ein bod wedi meithrin perthynas gyda Megan, Jayne ac Elly ac rydym mor ddiolchgar iddynt am roi o’u hamser i ddod i ymweld â Bryn Seiont a chaniatáu i’r preswylwyr i gyffwrdd a rhoi mwythau i’w cŵn annwyl.”

Dywed Patricia Swift un o breswylwyr Bryn Seiont ei bod wrth ei bodd yn gweld y cŵn pan fyddant yn ymweld.

Meddai: “Roeddwn i’n arfer cael ci fy hun, ci hardd iawn. Rwy’n hoffi cŵn ac mae’n braf rhoi mwythau iddyn nhw ac edrych arnyn nhw.”

Ychwanegodd ei chyd-breswylydd Ella Owen: “Amser maith yn ôl roedd gen i gi. Rwyf wrth fy modd bod y cŵn yn dod i mewn i’n gweld ni a gadael i mi roi mwythau iddynt. Y drafferth yw eu bod yn cael eu sbwylio ac yn bwyta gormod o fisgedi. “

Dywed Megan Roberts bod Clwb Hyfforddi Cŵn Dyffryn Nantlle yn cyfarfod yn y Neuadd Goffa, ym Mhenygroes ar nos Fawrth a nos Iau.

Meddai: “Mae yna nifer o wahanol ddosbarthiadau i adlewyrchu’r ystod gallu eang y cŵn sy’n mynychu. Mae gennym ddosbarthiadau lefel un ar gyfer cŵn bach er mwyn dysgu  sgiliau sylfaenol a sut i gymdeithasoli i fyny at ddosbarthiadau ystwythder a lefel uwch.

“Mae’r clwb yn tyfu ac rydym yn rhedeg cynllun Gwobr Dinasyddiaeth Dda y Kennel Club sy’n helpu i wneud perchnogion cŵn yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau a dysgu cŵn sut i fod yn hapus, yn iach ac i ymddwyn yn dda mewn llefydd cyhoeddus.

“Mae Persephone yn enillydd gwobr aur tra bod Madog wedi ennill gwobr arian ac yn gweithio tuag at aur. Dydw i ddim yn mynd â Gem draw i’r dosbarthiadau gan ei bod yn tynnu ymlaen bellach. Ond rwyf yn mynd â fy nghŵn eraill iau draw.”

“Mae’n glwb gwych ac yn ogystal â chael llawer iawn o hwyl mae’n ddigwyddiad cymdeithasol da hefyd, wrth i ni gyfarfod â llawer o bobl ddiddorol a dymunol. Ac mae’r cŵn yn sicr yn cael amser da. “

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â Grŵp Hyfforddi Cŵn Dyffryn Nantlle ffoniwch call 01286 831092 neu ewch i www.facebook.com/NantlleValeDogTrainingClub

Rhannu |