Mwy o Newyddion

RSS Icon
26 Mai 2011

Rheoli treth corfforaeth

DYLAI’R gallu i reoli a chodi treth gorfforaeth gael ei ddatganoli i Lywodraeth Cymru, yn ôl Jonathan Edwards AS Plaid Cymru.

Daeth ei alwad yn union wedi casgliadau Pwyllgor Materion Gogledd Iwerddon ar dreth gorfforaeth yng Ngogledd Iwerddon a gyhoeddwyd ddydd Mawrth.

Dywedodd Mr Edwards fod yr adroddiad yn cydnabod manteision gallu gosod treth gorfforaeth yn rhanbarthol, ac y buasai hyn yn fodd i hybu economi Gogledd Iwerddon. Anogodd Mr Edwards lywodraeth y DG i drosglwyddo’r un cyfrifoldebau i Gymru.

Yng Nghymru, mae treth gorfforaeth yn cyfrif am ryw £1.5bn o gyfanswm y derbyniadau treth, tua 9%, yn ôl Comisiwn Holtham.

Meddai Mr Edwards: “Gyda Phrif Weinidog yr Alban yn cyfarfod y Canghellor yn Llundain yr wythnos yma, a’r adroddiad hwn ar dreth gorfforaeth yng Ngogledd Iwerddon heddiw, mae’n amlwg fod pethau yn symud ymlaen yn gyflym ar bwerau ariannol.

“Mae datganoli treth gorfforaeth i Gynulliad Gogledd Iwerddon wedi ei gydnabod fel cam cadarnhaol. Bydd yn help i’w heconomi ac yn caniatau i’r llywodraeth ymdrin â gofynion penodol busnesau yng Ngogledd Iwerddon.

“Dylai Cymru allu manteisio yn yr un modd. Mae hyd yn oed Comisiwn Economaidd y Blaid Geidwadol yng Nghymru yn fy nghefnogi yn hyn o beth, felly rwy’n gobeithio y bydd eu penaethiaid yn Llundain yn gwrando. Mae llywodraeth y DG wedi derbyn egwyddor amrywiad rhanbarthol yn y dreth trwy wyliau Yswiriant Gwladol i fusnesau newydd y tu allan i Lundain, de-ddwyrain a dwyrain Lloegr.

“O’i roi yn syml, nid yw polisi treth ‘run-fath-i-bawb’ yn rhoi dim cefnogaeth i ranbarthau tlotach.

“Buasai cyfradd is o dreth gorfforaeth yn gwneud Cymru yn fwy deniadol i fuddsoddiadau o’r tu allan ac yn helpu busnesau Cymru trwy dorri rhai o’u costau.

“Cam rhesymegol yw caniatau i Gymru ymaddasu i anghenion ei busnesau, ac fe fuaswn i’n gobeithio y byddai’r llywodraeth Lafur ym Mae Caerdydd yn cefnogi’r alwad hon.

“Waeth heb i Gymru gael Prif Weinidog sydd â ‘meddwl agored’ am sut i wella cyllid Cymru. Mae arnom angen gweledigaeth a gweithredu.”

Rhannu |