Mwy o Newyddion

RSS Icon
08 Mawrth 2016

Cyhoeddi ail Ddiwrnod Rhyngwladol Dylan Thomas

Yn dilyn llwyddiant y Diwrnod Rhyngwladol Dylan Thomas cyntaf yn 2015, mae Llenyddiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi manylion yr ail ddathliad blynyddol ar gyfer llenor enwocaf Cymru, gyda digwyddiadau yn cael eu cynnal ledled y byd mewn lleoliadau fel Perth a Phatagonia.

Cynhelir 'Dydd Dylan' bob blwyddyn ar 14 Mai, sef y dyddiad y darllenwyd Under Milk Wood am y tro cyntaf ar lwyfan enwog 92nd Street Y, The Poetry Center yn Efrog Newydd yn 1953.

Mae Diwrnod Rhyngwladol Dylan Thomas yn rhan o becyn nawdd am dair blynedd gan Llywodraeth Cymru, a sefydlwyd gyda’r nod o ddathlu gwaith Thomas a chodi ei broffil yng Nghymru a thramor drwy amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys digwyddiadau, adnoddau addysgol a gweithgareddau ar y cyfryngau cymdeithasol.

Cynhaliwyd y Diwrnod Rhyngwladol Dylan Thomas cyntaf yn 2015 o ganlyniad i frwdfrydedd y cyhoedd tuag at ddathliadau canmlwyddiant Dylan Thomas 100 a cheisiadau niferus i sefydlu diwrnod cenedlaethol cyhoeddus i ddathlu’r bardd.

Mae Dydd Dylan 2016 yn dechrau yng Nghei Newydd, gyda'r artist tywod Marc Treanor yn creu gwaith celf ar y traeth o 8.00 am. Bydd yn creu gwaith sydd wedi'i ysbrydoli gan logo newydd Dydd Dylan, a gynlluniwyd gan yr artist o ogledd Cymru, Jonathan Edwards

 Dilynir hyn gan raglen o ddigwyddiadau ledled y byd, gan gynnwys yr holl leoliadau allweddol sy'n gysylltiedig â'r bardd: Cei Newydd, Talacharn, Abertawe, Llundain, Efrog Newydd ac, eleni, Cernyw, lle cynhelir teithiau cerdded newydd yn Penzance a Mousehole.

Ar 14 Mai hefyd fy gynhelir seremoni wobrwyo fawreddog Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas 2016 mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe. Bydd y digwyddiad eleni yn dechrau am 1.30 pm yn y Neuadd Fawr ar gampws newydd trawiadol Prifysgol Abertawe, Campws y Bae.

Yn ystod y seremoni fe gyhoeddir enillydd y wobr o £30,000 am y gwaith llenyddol gorau a gyhoeddwyd yn Saesneg gan awdur 39 oed neu iau. Gan fod y Wobr yn dathlu ei phen-blwydd yn ddeg oed eleni, bydd cyfle i'r cyhoedd brynu tocynnau ar gyfer yr achlysur bythgofiadwy hwn.

Bydd nifer o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal ar-lein. Bydd wyres Thomas, Hannah Ellis, yn lansio DiscoverDylanThomas.com, gwefan swyddogol Dylan Thomas ar ran ei deulu a'i ystad. Yn ogystal, caiff yr ap cerdded newydd Return Journey a ddatblygwyd gan Adrian Metcalfe, ei lansio yn Abertawe, a cheir perfformiad ohono gan Theatr Lighthouse.

Yn Efrog Newydd, yn ogystal â darlleniad o berfformiad o Under Milk Wood o dan arweiniad Michael Sheen yn 92nd Street Y, bydd yr artist rap adnabyddus Baba Brinkman yn ysgrifennu ac yn rhyddhau rap gwreiddiol wedi'i ysbrydoli gan y bardd o Gymru, ac fe’i cyhoeddir ar-lein. Ar y cyfryngau cymdeithasol, cynhelir sgwrs Twitter ar Under Milk Wood ddydd Gwener 13 Mai rhwng 10.00 am a 4.00 pm drwy Ganolfan Dylan Thomas @DTCSwansea.

Mae Llenyddiaeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi y bydd Cerdd Fawr Dylan yn dychwelyd eleni. Mae Cerdd Fawr Dylan yn gwahodd plant a phobl ifanc rhwng 7 a 25 oed o bob cwr o’r byd i anfon hyd at bedair llinell o farddoniaeth wedi eu hysgrifennu yn y Gymraeg neu’r Saesneg.

Bydd y beirdd Rufus Mufasa a clare e. potter yn creu cerdd ddwyieithog 100 llinell o hyd gan ddefnyddio cerddi rhai o'r ymgeiswyr. Eleni, mae'r gystadleuaeth wedi uno â Gwobr 'Foyle Young Poets of the Year', a gynhelir gan y Gymdeithas Farddoniaeth. Caiff detholiad o ymgeiswyr sy'n byw yng Nghymru, ac sydd rhwng 11 ac 17 oed, eu gwahodd i ddosbarth meistr ar farddoni.

Dywedodd y Bardd Llawryfog, Carol Ann Duffy: "Mae Diwrnod Rhyngwladol Dylan Thomas yn ffordd ardderchog o ddathlu un o feirdd gorau'r Ugeinfed Ganrif."

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates: “Rwy’n hynod falch o weld bod y dathliad rhyngwladol hwn o fywyd a gwaith Dylan Thomas yn ennill momentwm, a bod y digwyddiadau sydd ar droed ar gyfer yr ail Ddydd Dylan mor ysbrydoledig. Ein gobaith yw y bydd y diwrnod hwn yn sefydlu ei hun fel pwynt ffocws i’r diddordeb eang a fu yn y bardd enwog ac i Gymru yn ystod dathliadau’r canmlwyddiant.”

Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Llenyddiaeth Cymru www.llenyddiaethcymru.org neu dilynwch yr hashnodau #DyddDylan a #DylanDay ar y cyfryngau cymdeithasol. 

Rhannu |