Mwy o Newyddion
Galwad ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod am fwy o sylw i chwaraeon merched
Mae ymgeisydd Cynulliad Plaid Cymru dros etholaeth Gorllewin Caerdydd a rhanbarth Canol De Caerdydd, y Cynghorydd Neil McEvoy, heddiw wedi nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod drwy alw am fwy o sylw yn y cyfryngau i chwaraeon merched.
Dywedodd Neil McEvoy y byddai llywodraeth Plaid Cymru yn gweithredu i hyrwyddo cyfranogaeth mewn chwaraeon ar bob lefel ac i bob oed ledled Cymru, gan weithio i annog mwy o ddiddordeb ymysg merched ifanc a rhai yn eu harddegau yn enwedig.
Anogodd ddarlledwyr cyhoeddus i ymrwymo mwy o amser darlledu a chyllid i chwaraeon menywod - galwad sydd wedi ei chefnogi gan yr athletwraig enwog, Non Evans.
Dywedodd Neil McEvoy ymgeisydd Cynulliad Plaid Cymru: "Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn gyfle da i dynnu sylw at y bwlch rhwng sylw i chwaraeon merched a dynion.
"Mae Cymru'n gartref i athletwyr benywaidd byd-enwog ond nid yw eu llwyddiannau yn cael hanner cymaint o sylw a'r hyn sy'n cael ei roi i'w cyfoedion gwrywaidd.
"O Non Evans i Lowri Morgan i Becky James a llawer mwy, nid oes prinder merched llwyddiannus sydd a'r potensial i ysbrydoli cenhedlaeth gyfan o ferched ifanc yng Nghymru.
"Ond ni fydd hyn yn cael eu wireddu os nad yw'r hyn mae'r athletwyr anhygoel yma wedi ei gyflawni yn cael proffil llawer uwch a sylw ehangach. Dyna pam fy mod yn galw ar ddarlledwyr cyhoeddus i roi canran uwch o amser darlledu a chyllid i chwaraeon menywod er mwyn taclo'r anghydraddoldeb hyn.
"Mae Plaid Cymru wedi ymrwymo i hyrwyddo cyfranogaeth chwaraeon ar bob lefel ac i bob oed ledled Cymru, ond yn enwedig ymysg merched ifanc a rhai yn eu harddegau. Rwy'n falch gweld y byddwn yn taclo'r mater o ddarlledu yn ein maniffesto fydd yn cael ei gyhoeddi'n fuan.
"Credwn drwy roi hwb i sylw chwaraeon merched y gallwn roi mwy o ysbrydoliaeth bositif i fenywod ifanc a gobeithio eu hannog i gymryd rhan er mwyn meithrin y genhedlaeth nesaf o athletwyr benywaidd Cymreig fydd yn sicrhau llwyddiant rhynglwadol."
Wrth gefnogi galwad Neil McEvoy, dywedodd yr athletwraig Non Evans:
"Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, rwy'n llwyr gefnogi Neil McEvoy a pholisi Plaid i roi sylw cyfartal i chwaraeon menywod.
"Nid yw jysd yn fater o chwaraeon menywod ddim yn cael chwarae teg - nid oes gennym hyd yn oed gyfarwyddiadau i'r maes chwarae ar hyn o bryd!
"Ers blynyddoedd, rwyf wedi brwydro i roi rygbi menywod a holl chwaraeon menywod ar y map, a chredwch fi, mae'n parhau i fod yn her, yn enwedig yn y cyfryngau.
"Heb os, mae pethau'n gwella, ond nid cymaint yng Nghymru â mewn gwledydd eraill. Mae hi'n hen bryd am newid i ferched, nid yn unig mewn chwaraeon ond ym mhob agwedd o fywyd."