Mwy o Newyddion
Prif Weinidog Llafur yn cael ei 'danseilio'n llwyr' gan ei blaid ei hun dros ddatganoli heddlua
Mae Jonathan Edwards AS Plaid Cymru wedi amlygu sut y mae Prif Weinidog Llafur Cymru wedi ei danseilio'n llwyr gan ei blaid ei hun dros y mater o ddatganoli heddlua o San Steffan I Gymru.
Bore ddoe, cyhoeddodd y Prif Weinidog gynlluniau ar gyfer Mesur Cymru amgen yn cynnwys trosglwyddo cyfrifoldeb dros bwerau heddlua o Whitehall i'r Cynulliad Cenedlaethol.
Oriau yn ddiweddarach, safodd Andy Burnham, yr Ysgrifennydd Cartref Cysgodol yn y Tŷ Cyffredin a chadarnhau nad yw datganoli heddlua yn bolisi i'r blaid Lafur.
Dywedodd Jonathan Edwards AS fod hyn "yn destun cywilidd mawr" i'r Prif Weinidog Llafur ac yn amlygu ei "ddiffyg dylanwad hygrededd" ymysg ei gyfoedion Llafur yn San Steffan.
Dywedodd Jonathan Edwards AS Plaid Cymru dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr:
"Mae'n rhaid mai dyma'r addewid mwyaf byrhoedlog yn hanes y blaid Lafur yng Nghymru.
"Y bore 'ma, roedd Prif Weinidog Llafur yn gwneud mor a mynydd o'i gynlluniau am Fesur Cymru amgen yn cefnogi datganoli heddlua o Whitehall i'r Cynulliad Cenedlaethol.
"Dim ond oriau yn ddiweddarach, safodd Andy Burnham, Ysgrifennydd Cartref Cysgogol Llafur, yn y Ty Cyffredin a chadarnhau nad yw datganoli heddlua yn bolisi i'r blaid Lafur, mewn ymateb i gwestiwn gan Liz Saville Roberts.
"Dyma destun cywilidd mawr i'r Prif Weinidog Llafur sydd unwaith eto wedi cael ei danseilio'n llwyr gan ei gyfoedion yn San Steffan.
"Mae un peth yn gwbl glir - pan fo Carwyn Jones yn siarad, does neb yn gwrnado. Mae ei ddiffyg dylanwad a hygrededd ymysg ei feistri yn Llundain yn dal ein cenedl nol.
"Drwy beidio cymryd y Prif Weinidog o ddifri, nid yw'r blaid Lafur yn San Steffan yn cymryd Cymru o ddifri.
"Mae ar Gymru angen llywodraeth Gymreig fydd yn mynnu sylw a pharch gan Lywodraeth y DU a sicrhau pwerau ystyrlon fydd yn gwella bywydau pobl bob dydd. Dyna mae Plaid Cymru yn ei gynnig fis Mai."