Mwy o Newyddion

RSS Icon
07 Mawrth 2016

Gwenfair Vaughan yn perfformio nofel Gymreig yn Efrog Newydd

Bydd Gwenfair Vaughan, actor o Gymro yn wreiddiol o Fethesda ond yn byw yn Efrog Newydd ar hyn o bryd, yn un o’r 25 o ferched fydd yn cymryd rhan mewn digwyddiad Diwrnod Rhyngwladol y Merched yn y ddinas ar yr 8fed o Fawrth ble bydd hi’n perfformio darn o nofel Gymraeg yr awdur boblogaidd Bethan Gwanas, I Botany Bay.

Cynhelir Salon Symhpony, digwyddiad a gyflwynir gan Dixon Place a International Women Artists' Salon, nos Fawrth ar yr 8fed o Fawrth yn Dixon Place yn Efrog Newydd. Yno, bydd dwsinau o artistiaid benywaidd wedi eu lleoli yn Efrog Newydd yn cyflwyno gwaith gan artist o ferch o’u mamwlad. Bydd mwy na 25 o wledydd yn cael eu cynrychioli yn y teyrngedau hyn i gelfyddyd merched ar draws y byd ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched.

Bydd y perfformiadau yn amrywio o fonologau , i ganeuon , a dawns – oll gyda’r nod o ddathlu etifeddiaeth a cyfoeth diwylliannol gan ferched o gwmpas y byd sydd yn parhau i gael eu cynnal hyd heddiw gan ferched a dinas Efrog Newydd.

Mae Gwenfair Vaughan, fydd yn cynrychioli Cymru, yn adnabyddus am actio llais Mrs Tiggy-Winkle yn y gyfres Peter Rabbit ar gyfer Nickelodeon.

Mae Gwenfair wedi penderfynu darllen cyfiethiad o lyfr yr awdur poblogaidd o Ddolgellau, Bethan Gwanas, ‘I Botany Bay’.

Mae I Botany Bay yn gymysgedd o ffuglen a ffaith ac yn dilyn bywyd Ann Lewis, 18 oed, o Ddolgellau. Mae Ann yn cael swydd newydd mewn siop ddillad yn y dref ac mae gwas ffarm golygus o'r enw Elis Edwards yn dangos diddordeb mawr ynddi. Beth all fynd o'i le?

Mae’r nofel yn gyfuniad cyffrous o ffeithiau hanesyddol a dychymyg Bethan, “Cefais y syniad ar ôl clywed cyfres ar Radio Cymru yn olrhain hanes y tri chant o ferched gafodd eu halltudio o Gymru i Botany Bay rhwng 1787 ac 1852,” meddai Bethan am ei hysbrydoliaeth ar gyfer y nofel.

“Merched ifainc oedden nhw i gyd, llawer yn eu harddegau a’u hugeiniau cynnar; morynion o bentrefi bychain a ffermydd anghysbell ac eraill fu’n cerdded strydoedd tywyll y trefi mawrion fel Abertawe, Merthyr Tudful a Chaerdydd. Dim ond dwyn bara, bacwn, bresych, hen sgidiau neu ambell ddilledyn oedd camwedd y rhan fwyaf ohonynt, ond yr un oedd y ddedfryd: isafswm o saith mlynedd ym mhen draw’r byd.”

Bu llyfr Deirdre Beddoe, Welsh Convict Women, yn sail i’r gyfres radio ac i waith Bethan hefyd.

“Allwn i ddim peidio â dychmygu’r sgyrsiau, y boen a’r ofn rhwng y llinellau,’ ychwanegodd Bethan, “Yn naturiol, a minnau’n un o’r ardal, cefais fy hudo gan hanes Ann Lewis o Ddolgellau. Cydiodd ei stori yn fy nychymyg yn syth, a bûm yn ceisio cael mwy o’i hanes. Ond dibynnu ar fy nychymyg fu raid yn amlach na pheidio.”

Cynhelir Diwrnod Rhyngwladol y Merched ar yr 8fed o Fawrth 2016.

Mae I Botany Bay gan Bethan Gwanas (£8.99, Y Lolfa) ar gael nawr.

Rhannu |