Mwy o Newyddion
Mesur Cymru amgen Llafur: 'Ble mae'r Prif Weinidog wedi bod?'
Mae Arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood wedi ymateb i gyhoeddiad Mesur Cymru amgen gan y Prif Weinidog Llafur gan ddweud ei fod "yn rhy dila, yn rhy ychydig ac yn llawer rhy hwyr" o ystyried "record ddamniol" Llafur o fethu a sicrhau mwy o bwerau i'r Cynulliad Cenedlaethol.
Dywedodd hi fod Llafur wedi colli sawl cyfle i gryfhau'r setliad datganoli sydd ar gynnig i Gymru, gan ychwanegu fod etholiad y Cynulliad yn gyfle i ethol Llywodraeth Plaid Cymru fydd yn fodlon herio San Steffan a mynnnu parch tuag at Gymru a'i phobl.
Wrth ymateb i gyhoeddiad y Prif Weinidog, dywedodd Leanne Wood Arweinydd Plaid Cymru:
"Ble mae Llafur wedi bod? Mae ymyriad hwyr y Prif Weinidog ar ddyfodol Cymru'n codi'r cwestiwn: pam na chafodd y cynlluniau hyn eu cyhoeddi yn ystod trafodaethau gyda Llywodraeth y DU? Gall Cymru fod mewn safle llawer cryfach pe na bai llywodraeth Cymru wedi llaesu dwylo.
"Dylai'r Prif Weinidog hefyd gadarnhau ai ei gynlluniau ef yw rhain yntau cynlluniau Llafur am ei fod wedi methu uno ei blaid ar y mater o ddatganoli pellach i Gymru ar sawl achlysur.
"Y gwir yw fod record ddamniol Llafur o fethu a sicrhau mwy o bwerau yn golygu fod y ddogfen hon fwy neu lai yn ddi-werth. Drwy gysgu wrth y llyw a gwrthod y syniad o dderbyn mwy o gyfrifoldebau mewn llywodraeth, Llafur oedd yn gyfrifol am rwystro sawl agwedd o'r Comisiwn Silk ar fwy o bwerau i Gymru.
"O fewn wythnos ar ol refferendwm yr Alban, cyhoeddodd Blaid Cymru gynlluniau manwl ar sicrhau cydraddoldeb i Gymru gyda gwledydd eraill y DU. Yn ystod trafodaethau gyda Llywodraeth Prydain, daethom a ffordd ymlaen gerbron a fyddai wedi delifro i bobl yng Nghymru.
"Mae Plaid Cymru wedi dadlau'n gyson y dylai Cymru gael cynnig yr un pecyn o bwerau a'r hyn sydd ar y ffordd i'r Alban a Gogledd Iwerddon. Yn wahanol i Lafur a'r Ceidwadwyr, ni fyddwn yn bodloni ar Gymru'n cael ei thrin fel cenedl eilradd.
"Bydd yr adolygiad ffiniau ar waith ymhen tair blynedd, gan dorri cynrychiolaeth Gymreig yn San Steffan o 40 AS i 29 AS. Dyna pam fod yn rhaid cydbwyso hyn ar frys drwy gynyddu cynrychiolaeth a chyfrifoldebau yn y Cynulliad Cenedlaethol.
"Mae cynlluniau'r Prif Weinidog yn rhy dila, yn rhy ychydig ac yn llawer rhy hwyr, gan lywodraeth sydd wedi methu mynnu parch gartref ac wedi methu hawlio sylw yn San Steffan.
"Mae ar Gymru angen llywodraeth fydd yn herio San Steffan ac yn mynnu setliad sy'n parchu ein cenedl a'i phobl. Dyna mae Plaid Cymru yn ei gynnig fis Mai."