Mwy o Newyddion

RSS Icon
07 Mawrth 2016

Prifysgol Aberystwyth yn anrhydeddu cyfreithwraig gyntaf India'r Gorllewin

Yn sgìl darganfod cerdyn post â llun o wraig ifanc ddu mewn gŵn prifysgol, mae Prifysgol o Gymru yn anrhydeddu un o’i chyn-fyfyrwyr.

Fel rhan o ddathliadau Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ar ddydd Mawrth 8 Mawrth, mi fydd Prifysgol Aberystwyth yn anrhydeddu Iris de Freitas, y wraig gyntaf i ymarfer y gyfraith yn India'r Gorllewin, ac yn enwi ystafell ar ei hol.

Ganed Iris de Freitas yn 1896, yn ferch i fasnachwr yn Guyana Brydeinig. Cofrestrodd fel myfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 1919 ar ôl cyfnod byr yn astudio yn Toronto.

Tra yn Aberystwyth bu’n astudio botaneg, Lladin ac ieithoedd modern, y gyfraith a chyfreitheg, a bu’n byw yn Neuadd Alexandra, y neuadd breswyl bwrpasol gyntaf i ferched i gael ei hadeiladu gan brifysgol yn y Deyrnas Gyfunol.

Bu hefyd yn Is-Lywydd Cyngor Cynrychioli Myfyrwyr y Brifysgol a Llywydd Cyngor Adrannol y Merched.

Graddiodd gyda BA yn 1922, ond parhaodd ei chysylltiad gyda’r Brifysgol gan gwblhau radd LL.B ym Mehefin 1927.

Yn 1929 cafodd ei derbyn fel y wraig gyntaf i ymarfer y gyfraith yn India'r Gorllewin, a’r gyntaf yno i arwain yr erlyniad mewn achos o lofruddiaeth.

Mewn teyrngedau a gyhoeddwyd iddi yn y Guyana Chronicle yn dilyn ei marwolaeth ym mis Mai 1989,  disgrifiwyd hi fel arloeswraig a ffigwr blaenllaw a fentrodd i broffesiwn a oedd yn llwyr wrywaidd, a rhywun a arweiniodd y ffordd i fenywod ym maes y gyfraith.

Mae aelodau o staff ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi casglu ynghyd wahanol elfennau o’i hanes ar ôl i gyn-fyfyrwyr ddod o hyd i’r cerdyn post ar lein yn Ebrill 1925, gyda’r disgrifiad “Cerdyn post o fenyw ddu mewn gŵn Aberystwyth 1922-23’.

Ar ochr arall y cerdyn ceir yr ychydig eiriau canlynol mewn llawysgrifen, “With love and in memory of an enjoyable session, Iris 1922-23”, a manylion y ffotograffydd, HH Davies o Heol y Wig, Aberystwyth.

Mae’r cerdyn bellach yn archif y Brifysgol.

Dywedodd Eva De Visscher o Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni Prifysgol Aberystwyth, ac un o’r cyntaf i glywed am y cerdyn post: "Mynegodd Archifdy Ceredigion a nifer o gyn-fyfyrwyr ddiddordeb yn y cerdyn post, ond mewn enghraifft hyfryd o undod drwy gyfrwng y cyfryngau cymdeithasol, ni wnaethant gynnig yn erbyn Archifau'r Brifysgol.

“Rydym wrth ein bodd gyda'r canlyniad a'r hyn yr ydym wedi llwydo i’w ddysgu am y wraig hynod hon, ac am ei hamser yma yn Aberystwyth. Mae'n briodol iawn, ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, ein bod yn dathlu ei llwyddiannau a’i chysylltiad gyda Phrifysgol Aberystwyth, ac wrth wneud hynny, bwysigrwydd sicrhau bod addysg ar gael i bawb, waeth beth fo'u rhyw, hil neu grefydd.”

Yn ddiweddar, daeth ymchwilwyr o Brifysgol Aberystwyth i gysylltiad ag aelodau o deulu de Freitas, wrth iddynt geisio dysgu mwy am un o raddedigion mwy neilltuol y Brifysgol, sydd eto i dderbyn y clod sy’n haeddiannol iddi.

Bydd Ystafell Iris de Freitas Ystafell, ystafell astudio yn Llyfrgell Hugh Owen y Brifysgol, yn cael ei hagor yn swyddogol ar ddydd Mawrth 8 Mawrth am 3.30 y prynhawn.

Rhannu |