Mwy o Newyddion
Cynllun newydd Dewis Fferyllfa i gael ei gyflwyno ar draws Cymru
Fydd fferyllfeydd ar draws Cymru yn darparu gwasanaethau GIG newydd i bobl sydd â mân anhwylderau, cyhoeddodd Vaughan Gething, y Dirprwy Weinidog Iechyd, heddiw.
O dan y gwasanaeth Dewis Fferyllfa, bydd fferyllwyr yn cymryd cyfrifoldeb am reoli cyfres o fân anhwylderau. Bydd pobl yn gallu gweld eu fferyllydd i gael triniaeth ddi-dâl yn hytrach na gwneud apwyntiad i weld eu meddyg teulu.
Bydd y cynllun yn helpu i ryddhau amser meddygon teulu i ddelio a phobl sydd ag anghenion mwy cymhleth. Yn ôl yr amcangyfrifon, mae hyd at 18% o lwyth gwaith meddygon teulu ac 8% o ymgyngoriadau mewn adrannau damweiniau ac achosion brys ysbytai yn gysylltiedig â mân anhwylderau. Mae’r mân anhwylderau hyn yn cynnwys peswch, annwyd, poen yn y glust, clefyd y gwair, llid pilen y llygad (conjunctivitis) a llai pen.
Fel rhan o Dewis Fferyllfa, bydd fferyllwyr hefyd yn cynnal adolygiadau o feddyginiaethau pan fydd pobl yn cael eu rhyddhau o’r ysbyty ac yn darparu cyflenwadau brys o feddyginiaethau ar bresgripsiwn gyda'r hwyr ac ar benwythnosau. Bydd y gwasanaethau hyn hefyd yn helpu i leddfu’r galw sydd ar feddygon teulu y tu allan i oriau ac ar adrannau damweiniau ac achosion brys.
Bydd fferyllfeydd cymunedol yng Nghymru yn cael eu hintegreiddio’n llawn â phractisau meddygon teulu ac ysbytai fel rhan o fuddsoddiad o £750,000 gan Gronfa Effeithlonrwydd drwy Dechnoleg Llywodraeth Cymru.
Bydd hyn yn:
- Rhoi mynediad i fferyllfeydd cymunedol yng Nghymru at gofnodion meddygon teulu unigolion neu at Gofnodion Iechyd Unigol gyda chaniatâd, er mwyn galluogi iddynt rannu gwybodaeth am gleifion i ddarparu gofal ddi-dor a mwy diogel i gleifion
- Galluogi fferyllfeydd cymunedol i gadw cofnodion electronig o ymgyngoriadau â chleifion sydd ag anhwylderau cyffredin, sy’n cynnwys eu hasesu a rhoi triniaeth iddynt o restr o feddyginiaethau. Bydd yr wybodaeth hon ar gael hefyd i fferyllfeydd eraill ledled Cymru i gefnogi gofal clinigol
- Galluogi i wybodaeth electronig am ryddhau claf gael ei throsglwyddo o’r ysbyty i’r fferyllfa gymunedol a enwyd gan y claf ac i’r fferyllfa gynnal adolygiad electronig o feddyginiaethau pan fydd claf yn cael ei ryddhau
- Galluogi fferyllwyr cymunedol i ddarparu gwasanaeth y tu allan i oriau ar gyfer rhoi cyflenwad brys o feddyginiaethau y mae claf yn eu cael yn barod ar bresgripsiwn.
Mae Dewis Fferyllfa yn cefnogi nodau cynllun cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer gofal sylfaenol, drwy ddefnyddio sgiliau ac arbenigedd y tîm gofal sylfaenol ehangach, gan gynnwys fferyllwyr, fel bod gan feddygon teulu fwy o amser i ganolbwyntio ar bobl sydd â chyflyrau iechyd mwy cymhleth.
Dywedodd Mr Gething: “Rwy’n falch o gyhoeddi, fel rhan o gymorth parhaus Llywodraeth Cymru ar gyfer fferyllfeydd cymunedol yng Nghymru a buddsoddiad o £750,000 drwy ein Cronfa Effeithlonrwydd drwy Dechnoleg, fod y gwasanaeth Dewis Fferyllfa yn mynd i gael ei gomisiynu gan fyrddau iechyd yn hwyrach eleni.
“Drwy ganiatáu i unigolion â mân anhwylderau weld fferyllwyr medrus i gael cyngor a thriniaeth, bydd amser rhydd gan feddygon teulu i ganolbwyntio ar bobl sydd ag anawsterau mwy cymhleth a bydd hefyd yn lleihau amseroedd aros i gleifion.
“Bydd rhoi mynediad i fferyllwyr at gofnodion meddygol cryno cleifion yn lleihau’n sylweddol nifer y bobl sydd angen eu hatgyfeirio at y meddyg teulu, gwasanaethau y tu allan i oriau ac adrannau damweiniau ac achosion bryd a bydd yn gwella diogelwch cleifion yn fawr.
“Mae’r Gronfa Effeithlonrwydd drwy Dechnoleg yn arwydd clir o’n hymrwymiad parhaus i fuddsoddi mewn darpariaeth gofal o safon uchel yn y lleoliad ac ar yr amser sydd fwyaf cyfleus i’r unigolyn.”
Yn dilyn cynllun peilot llwyddiannus mewn 19 o fferyllfeydd yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac 13 o fferyllfeydd yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, bydd y gwasanaeth Dewis Fferyllfa ar gael i fyrddau iechyd ei gomisiynu.
Un buddsoddiad o nifer drwy’r Gronfa Effeithlonrwydd Drwy Dechnoleg yw’r arian sy’n cael ei roi fferylliaeth gymunedol. Mae’r buddsoddiadau eraill yn cynnwys gwella’r ddarpariaeth gofal cymunedol i fenywod beichiog ym Mhowys a system genedlaethol i Gymru ar gyfer monitro a chadw golwg ar heintiau.