Mwy o Newyddion

RSS Icon
26 Mai 2011
Karen Owen

Dim bwriad ail sefydlu adran Ddiwinyddiaeth

Mae Prifysgol Bangor yn ystyried sefydlu Canolfan newydd sbon a fyddai’n cynnig cyfle i fyfyrwyr wneud ymchwil ym maes Diwinyddiaeth – a hynny lai na blwyddyn wedi iddyn nhw benderfynu cau yr Ysgol Ddiwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefydd yn y coleg.


Ym mis Gorffennaf y llynedd y torrodd y newydd bod pennaeth yr adran, yr Athro D Densil Morgan, a thri aelod o staff academaidd yn symud oddi yno er mwyn ymuno â Ysgol Diwinyddiaeth, Astudiaethau Crefyddol ac Astudiaethau Islamaidd, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn Llanbedr Pont Steffan.


Hyd yn oed cyn i’r Dr Robert Pope, y Dr Catrin Haf Williams a’r Dr Bettina Schmidt benderfynu dilyn eu pennaeth am y de orllewin, roedd sôn bod Cyngor Prifysgol Bangor ar fin pleidleisio o blaid rhoi’r gorau “yn raddol” i ddysgu Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefydd fel pwnc gradd.


Dim ond dau ddarlithydd llawn-amser sydd ar ôl yn yr adran ym Mangor ers y llynedd – sef y Dr Eryl Wynn Davies, sy’n darlithio yn Gymraeg, a’r Dr Lucy Huskinson sy’n arbenigo mewn Athroniaeth a Seicoleg Crefydd, ac sy’n cyflwyno’r pwnc trwy gyfrwng y Saesneg. Mae dau ddarlithydd rhan-amser hefyd at wasanaeth yr adran fel ag y mae hi erbyn hyn, sef y Dr Gareth Lloyd Jones, awdurdod ar yr Hen Destament, a Dr John Parry o Fanceinion sy’n ddi-Gymraeg ac yn arbenigo ar grefyddau eraill y byd.


Ers y cyhoeddiad fis Gorffennaf diwethaf, fe fu peth protestio yn erbyn cau’r adran ym Mangor, ac fe gafwyd datganiad ar y cyd gan Ysgrienyddion Cyffredinol y tri enwad anghydffurfiol yng Nghymru – yr Annibynwyr, y Bedyddwyr ac Eglwys Bresbyteraidd Cymru – yn datgan eu siom.


Yr wythnos hon, mae llefarydd ar ran Prifysgol Bangor wedi cadarnhau unwaith ac am byth wrth Y Cymro na fydd yr adran yn cael ei hail-sefydlu ond, yn hytrach, mae’n bosibl y bydd “arbenigedd ymchwil yr Ysgol” yn dod yn rhan o fenter newydd. Ac mae’n debygol mai o fewn i Ysgol y Dyniaethau y bydd hyn yn digwydd.


“Ar hyn o bryd, does dim newid i’r penderfyniad a gymerwyd y flwyddyn diwethaf i ddarfod dysgu Diwinyddiaeth hyd at lefel gradd yn raddol,” meddai llefarydd ar ran Prifysgol Bangor.

I ddarllen mwy CLICIWCH YMA

Rhannu |