Mwy o Newyddion
'Drwg neu waeth' - Leanne Wood yn amlinellu realiti'r dewis ffug rhwng Llafur a'r Ceidwadwyr
Mae Leanne Wood Arweinydd Plaid Cymru wedi defnyddio ei haraith i Gynhadledd Wanwyn ei phlaid i amlinellu realiti'r dewis ffug rhwng Llafur a'r Ceidwadwyr, gan ddweud fod Plaid Cymru'n cynnig dewis amgen clir i'r dyfodol 'drwg neu waeth' mae'r Gwasanaeth Iechyd yn ei wynebu dan y ddwy blaid honno.
Yn ystod ei haraith, pwysleisiodd Leanne Wood mai blaenoriaeth ei phlaid yn etholiad y Cynulliad yw sicrhau dyfodol y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.
Ychwanegodd hi fod gan Blaid Cymru'r rhaglen orau o blith unrhyw blaid i achub a chryfhau'r NHS, yn cynnwys cynlluniau clir i dorri amseroedd aros, gwella gofal canser a thaclo'r argyfwng prinder staff sy'n wynebu'r gwasanaeth yng Nghymru.
Dywedodd: "Mae'n siwtio'r Ceidwadwyr a Llafur i gyflwyno'r etholiad fis Mai fel dewis rhwng y ddwy blaid honno yn unig. Nid yw hynny'n ddewis o gwbwl.
"Gwyddom beth yw canlyniad dwy flynedd ar bymtheg o un blaid, ond mae pobl yn haeddu gwybod beth fyddai'r Ceidwadwyr yn wneud i'n gwlad pe baent yn cael y cyfle.
"Mewn llywodraeth, maent wedi cymryd pob cyfle i atal cynnydd ein cenedl a'i sefydliadau.
"Ond y bygythiad mwyaf maent yn ei beri, heb os, yw i'n gwasanaeth iechyd cenedlaethol. Ni all Cymru fforddio cael Jeremy Hunt yn rheoli pethau o Whitehall drwy gyfrwng gweinidog iechyd Ceidwadol Cymreig.
"Mae'r goblygiadau hir-dymor yn drychinebus. Nid wyf eisiau gweld doctoriaid ifanc yn cael eu trin yn wael yma fel yn Lloegr. Ni allwn fforddio gadael i'r Ceidwadwyr breifateiddio'r NHS yng Nghymru drwy'r drws cefn fel maent yn ei wneud yn Lloegr.
"Pan ddaw'n fater o'r NHS Cymreig, ni ddylai pobl amau: tra bod Llafur yn ei esgeuluso, mae'r Ceidwadwyr eisiau ei werthu.
"Prif flaenoriaeth Plaid Cymru yw ein gwasanaeth iechyd. Ein huchelgais yw i weld Cymru sy'n iach, gyda gwasanaeth iechyd am ddim wedi ei gynnal i bobl, nid am elw, wedi ei gadw mewn dwylo cyhoeddus er budd cyhoedd.
"Bydd cytundeb canser Plaid Cymru yn atal canser, yn cefnogi'r rhai gyda diagnosis, yn rhoi terfyn ar y loteri cod post ar gyfer triniaethau a chyffuriau ac yn torri amseroedd aros ar gyfer diagnosis fel nad oes rhaid i unrhyw un aros yn hirach na 28 diwrnod am ddiagnosis.
"Byddwn y buddsoddi yn ein gweithlu iechyd hefyd - a byddwn yn torri amseroedd aros drwy hyfforddi a recriwtio mil o feddygon ychwanegol a phum mil o nyrsys.
"Byddwn yn rhoi terfyn ar y rhaniad artiffisial rhwng iechyd a gofal cymdeithasol ac yn darparu gofal am ddim i bobl hyn, gan ddechrau gyda chael gwared ar ffioedd cartref gofal i bobl gyda dementia o fewn y pum mlynedd nesaf.
"Nid oes rhaid i'n Gwasanaeth Iechyd gwerthfawr wynebu dyfodol drwg neu waeth gyda Llafur neu'r Ceidwadwyr. Mae Plaid Cymru yn cynnig y dewis amgen sydd wir ei angen i achub a chryfhau ein NHS."