Mwy o Newyddion

RSS Icon
04 Mawrth 2016

Gwasanaeth awtistiaeth newydd i Gymru

Bydd gwasanaeth awtistiaeth newydd yn cael ei sefydlu yng Nghymru i ddarparu cymorth gydol oes i blant ac oedolion, cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Mark Drakeford, heddiw.

Mae'r gwasanaeth yn rhan allweddol o'r diweddariad o Gynllun Gweithredu Strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer Anhwylderau’r Sbectrwm Awtistig, sy'n cael ei lansio heddiw. Bydd yn destun ymgynghoriad 12 wythnos.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chynllun gweithredu strategol gwreiddiol yn 2008, y cyntaf o'i fath yn y DU.

Mae'r diweddariad o'r Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Anhwylderau’r Sbectrwm Awtistig, yn canolbwyntio ar y canlynol: codi ymwybyddiaeth o anhwylderau’r sbectrwm awtistig (ADS); sicrhau bod gwybodaeth, cyngor a hyfforddiant ar gael i bawb; gwella asesu, gwneud diagnosis a darparu cymorth i bobl sydd ag ADS; mynd i'r afael ag anghenion cymorth a sicrhau bod pobl yn gallu cael addysg dda a chyngor a chymorth o ran gyrfa.

Bydd y gwasanaeth awtistiaeth integredig newydd yn cael ei lansio eleni a'i gyflwyno ar draws Cymru erbyn 2019. Bydd yn cael ei ariannu yn ystod y tair blynedd nesaf gan £6 miliwn o Lywodraeth Cymru i wella gwasanaethau cymorth i blant, pobl ifanc ac oedolion.

Bydd y gwasanaeth newydd yn seiliedig ar safonau arferion gorau'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal.  Bydd yn cynnwys ffocws ar weithio amlasiantaethol ac amlddisgyblaethol i sicrhau bod pobl sydd ag awtistiaeth yn cael gwasanaethau cydgysylltiedig a chymorth. 

Bydd y gwasanaeth awtistiaeth integredig newydd yn:

  • Dwyn ynghyd timau niwroddatblygiadol ASD i blant, sy'n bodoli eisoes o fewn byrddau iechyd, i ddarparu asesiadau diagnostig ac ymyriadau arbenigol (therapïau) i blant sydd ag ASD 
  • Datblygu timau arbenigol i oedolion a fydd yn cynnig darpariaeth ddiagnostig
  • Datblygu timau cymorth cymunedol newydd yn ardaloedd y byrddau iechyd i ddarparu cyngor ar ymddygiad, cymorth lefel isel, mynediad i wasanaethau cymunedol, rhaglenni cymorth, a chyfeirio  Bydd y gwasanaeth hwn hefyd yn darparu hyfforddiant i rieni a gofalwyr o bob oedran
  • Adeiladu ar y gwasanaethau presennol drwy ddatblygu capasiti proffesiynol a gwella sgiliau, er mwyn gwella asesiadau diagnostig a chymorth ar ôl diagnosis

Dywedodd Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:
 "Mae'r Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Anhwylderau’r Sbectrwm Awtistig yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gefnogi plant, pobl ifanc ac oedolion sydd ag ASD drwy gydol eu bywydau. Rydym am sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu deall a bod gwybodaeth a chymorth ar gael i'w galluogi i fyw bywydau hapus. 

"Bydd y gwasanaeth awtistiaeth integredig newydd i Gymru yn rhoi'r cymorth iawn gan y gweithiwr proffesiynol iawn, yn y lleoliad iawn, ar yr adeg iawn er mwyn sicrhau y caiff pobl eu cefnogi i gyflawni eu canlyniadau llesiant eu hunain. Bydd yn sicrhau bod cysondeb ar draws y wlad i alluogi pobl ag awtistiaeth i ddefnyddio gwasanaethau tebyg ledled Cymru.

"Caiff y gwasanaeth ei gyflwyno i bob ardal bwrdd iechyd erbyn 2019. Wrth inni ddatblygu a chyflwyno'r gwasanaeth byddwn yn cynnwys pobl ag awtistiaeth, er mwyn sicrhau ei fod yn bodloni eu hanghenion."

Bydd mesurau eraill yn y diweddariad o’r Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Anhwylderau’r Sbectrwm Awtistig yn cynnwys:

  • Parhau i gefnogi rôl arweiniol genedlaethol ASD i ddarparu cyngor arbenigol a chanllawiau ar awtistiaeth i Lywodraeth Cymru, grwpiau proffesiynol a rhanddeiliaid
  • Cefnogi a datblygu gwefan ADSinfowales (http://www.asdinfowales.co.uk/home.php?page_id=1&setLanguage=4) i ddarparu ffynhonnell awdurdodol o wybodaeth a chyngor am awtistiaeth yng Nghymru
  • Codi ymwybyddiaeth a darparu hyfforddiant yn y meysydd blaenoriaeth a nodir gan randdeiliaid, gan gynnwys ysgolion, nyrsys, gwasanaethau hamdden a chyflogwyr.

?Llun: Mark Drakeford

Rhannu |