Mwy o Newyddion
Ras Cefnfor Volvo yn datgelu manylion am ei hymweliad â Chaerdydd
Bydd ras ar y môr fwyaf blaenllaw'r byd yn ymweld â Chymru am y tro cyntaf yn 2018 ar ôl i Gaerdydd gael ei dewis fel cyrchfan cyntaf Ras Cefnfor Volvo ar ôl i'r cychod groesi'r Iwerydd. Hwn fydd y tro cyntaf i'r ras ddod i'r Deyrnas Unedig ers 12 mlynedd.
Yn draddodiadol, mae'r daith dros yr Iwerydd yn un o'r uchafbwyntiau dros 9 mis y digwyddiad ac yn un o'r profion caletaf y bydd morwyr yn eu hwynebu o dan amodau heriol.
Yn ystod cynhadledd i'r wasg, ymunodd Adolfo Rodriguez o Ras Cefnfor Volvo â Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, Edwina Hart ac Arweinydd Cyngor Sir Caerdydd, y Cynghorydd Phil Bale, i gyhoeddi y bydd y ras yn galw heibio Caerdydd rhwng 25 Mai a 10 Mehefin ar ôl croesi'r Iwerydd.
Bydd morwyr yn gadael Newport, Rhode Island, yr Unol Daleithiau, ar 20 Mai ac yn croesi ryw 2,900 o filltiroedd morol cyn cyrraedd Caerdydd. Bydd dyddiad cyrraedd Cymru yn dibynnu ar y tywydd.
Bydd cychod y ras yn 2017-18 hefyd yn galw heibio Alicante (Sbaen), Cape Town (De Affrica), Auckland (Seland Newydd), Caerdydd (y Deyrnas Unedig), Lisbon (Portiwgal) a Gothenburg (Sweden).
Mae Ras Cefnfor Volvo wedi bod yn rhedeg er 43 mlynedd ac mae'n un o ddigwyddiadau chwaraeon mwyaf mawreddog y byd. Cynhelir y ras cychod hwylio ledled y byd bob tair blynedd ac mae'n cael ei hystyried yn un o'r digwyddiadau mwyaf heriol ym myd chwaraeon.
Dywedodd Antonio Bolanos Lopez, Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol, Ras Cefnfor Volvo: "Bydd mynd i Gaerdydd yn un o uchafbwyntiau Ras Cefnfor Volvo 2017-18.
"Mae'r digwyddiad yn dychwelyd i'r Deyrnas Unedig am y tro cyntaf er 12 mlynedd, ond dyma'r tro cyntaf y bydd ein fflyd o'r radd flaenaf yn ymweld â Chymru, er gwaethaf traddodiad morio cyfoethog y wlad.
“Harbwr Caerdydd fydd y cefndir perffaith i'n cychod wedi mordaith wefreiddiol dros yr Iwerydd o Newport, Rhode Island.
"Rydym yn hyderus iawn y bydd cefnogwyr y ras o Gymru - a llawer mwy o dramor - yn heidio i Gaerdydd yn ystod y cyfnod i weld y digwyddiad ysblennydd hwn, i gwrdd â'r morwyr ac i weld ein cychod drostynt eu hunain. Bydd yn brofiad bythgofiadwy."
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, Edwina Hart: “Mae'n newyddion gwych bod Cymru wedi'i dewis fel y lleoliad dros yr Iwerydd ar gyfer y ras benigamp hon. Mae Ras Cefnfor Volvo'n ddigwyddiad byd-eang a bydd yr ymweliad hwn yn codi proffil Cymru ar lwyfan y byd.
"Bydd croesawu'r cychod ar ben arall yr Iwerydd yn golygu y bydd cyfryngau'r byd yn rhoi sylw inni a bydd yn gyfle gwych inni edrych ar gyfleoedd busnes allweddol yn yr Unol Daleithiau. Bydd yn nodi carreg filltir hanesyddol arall ym mhroffil Cymru fel cyrchfan gwych ar gyfer digwyddiadau o'r radd flaenaf.
"Bydd hefyd yn rhoi hwb mawr i economi Caerdydd a Chymru."
Dywedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Phil Bale: “Mae Caerdydd wrth ei bodd i gael ei dewis fel porthladd ar gyfer y digwyddiad byd-enwog hwn. Mae'r newyddion yn atgyfnerthu'r ffaith bod y ddinas yn gallu cynnal digwyddiadau chwaraeon mwyaf y byd.
"Gan weithio gyda'i gilydd, llwyddodd y Cyngor, Llywodraeth Cymru, Awdurdod Harbwr Caerdydd a Chymdeithas Porthladdoedd Prydain i drechu cystadleuaeth frwd i gynnal y digwyddiad am y tro cynaf erioed yng Nghymru, a'r tro cyntaf yn y DU ers dros ddegawd. Bydd y digwyddiad yn gyfle i'r byd weld Caerdydd, ei diwylliant, ei thirluniau a'i phobl ac effeithio'n gadarnhaol ar economi'r ddinas a'r wlad.
"Mae'n fraint i Gaerdydd gynnal digwyddiad hwylio o'r safon yma ac rydym wrth ein boddau i weithio gyda Ras Cefnfor Volvo i greu digwyddiad anhygoel yma yng Nghaerdydd."
Yn dilyn cylch ceisiadau cystadleuol yn 2012 a chyda chymorth gan Lywodraeth Cymru, dyfarnwyd yr hawl i groesawu Ras Cefnfor Volvo 2017-18 i Gaerdydd. Hwn fydd yr unig doriad i'r ras yn y Deyrnas Unedig.
Llun gan Carlo Borlenghi / Volvo Ocean Race