Mwy o Newyddion

RSS Icon
04 Mawrth 2016

Band eang cyflym iawn ar gael i dros 99 y cant o gartrefi a busnesau yn Ffestiniog

Mae Julie James, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg wedi dweud bod band eang cyflym iawn bellach ar gael i dros 99 y cant o gartrefi a busnesau yn ardal cyfnewidfa Ffestiniog. Daw hynny o ganlyniad i raglen Cyflymu Cymru.

Yn ychwanegol at hynny, mae dros 85 y cant o safleoedd yn ardal gyfagos cyfnewidfa Blaenau Ffestiniog hefyd yn gallu gwneud yn fawr o'r manteision lu y mae'r cysylltiadau ar-lein cyflymach yn eu cynnig.

Yn y cartref, mae band eang cyflym iawn yn golygu bod pawb yn y tŷ yn gallu gwneud fel y mynno ar-lein, ar yr un pryd ? boed yn wylio ffilmiau manylder uwch a lawrlwytho ffeiliau mwy o faint megis albymau cerddoriaeth a gemau, ynghyd â chysylltu ag anwyliaid.

Mae band eang cyflym iawn yn galluogi busnesau i ddatblygu a thyfu, i gystadlu mewn marchnadoedd rhyngwladol a denu cwsmeriaid newydd.

Partneriaeth yw Cyflymu Cymru rhwng Llywodraeth Cymru a BT, ac mae cyllid ychwanegol yn cael ei ddarparu gan Broadband Delivery UK (BDUK) a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF). 

Mae’r rhaglen yn dod â band eang cyflym iawn i ardaloedd lle na fyddai modd ei ddarparu fel arall.  Nid oedd y cwmnïau preifat sy'n darparu band eang cyflym iawn yn bwriadu cyflwyno’r gwasanaeth yn unrhyw un o ardaloedd cyfnewidfeydd ffôn Gwynedd oherwydd eu bod o'r farn na fyddai'n fasnachol hyfyw iddyn nhw wneud hynny ar eu pen eu hunain. 

Ledled Gwynedd, mae Cyflymu Cymru eisoes wedi sicrhau bod gan 45,000 o gartrefi a busnesau fand eang cyflym iawn drwy gyfuniad o dechnoleg band eang cyflym iawn sef cysylltiad ffeibr i'r adeilad (FTTP) a chysylltiad ffeibr i’r cabinet (FTTC).

Meddai Julie James, Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg Llywodraeth Cymru: “Mae’r ffaith bod dros 99 y cant o gartrefi a busnesau yn ardal cyfnewidfa Ffestiniog a dros 85 y cant yn ardal cyfnewidfa Blaenau Ffestiniog bellach yn gallu cael band eang cyflym iawn yn newyddion arbennig. I raglen Cyflymu Cymru y mae'r diolch am hynny.

“Mae'r ffigurau hyn yn ardderchog ac yn tystio i waith caled y peirianwyr. Mae'r gwaith yn parhau i fynd rhagddo er mwyn sicrhau bod hyd yn oed mwy o safleoedd yn yr ardaloedd hyn yn gallu cael band eang cyflym iawn.

"Mae awdurdod lleol Gwynedd yn un o’r awdurdodau lleol yng Nghymru na fyddai wedi gallu cael band eang cyflym iawn pe na bai rhaglen Cyflymu Cymru wedi ymyrryd. Rydyn ni wedi ymyrryd er mwyn sicrhau bod gwasanaethau cyflym iawn ar gael, a hynny am fod cwmnïau preifat wedi penderfynu nad oedd yn fasnachol hyfyw iddyn nhw fynd ati ar eu pen eu hunain i gyflwyno gwasanaethau ffibr yn yr ardaloedd hyn.

“Rydym eisiau gweld Cymru'n datblygu i fod yn un o'r cenhedloedd digidol gorau yn y byd drwy sicrhau ei bod bod ganddi gysylltiadau o’r radd flaenaf . Mae’r rôl sydd gan raglen Cyflymu Cymru yn hanfodol o ran gwireddu'r weledigaeth honno.”

Dywedodd Ed Hunt, cyfarwyddwr rhaglen BT ar gyfer Cyflymu Cymru: "Mae band eang cyflym iawn yn cael effaith enfawr ar fywydau pobl yng Nghymru.

“Ar y cyd â phroses gyflwyno fasnachol BT, rydym eisoes wedi galluogi dros 1.24 miliwn o gartrefi a busnesau yng Nghymru i fanteisio ar fand eang ffeibr cyflym iawn. Rydym yn edrych ymlaen at gydweithio â’n partneriaid er mwyn estyn y gwaith hwn hyd yn oed ymhellach ar draws y wlad.

"Wrth i ni barhau i adeiladu’r seilwaith hoffem annog pobl i fanteisio ar y dechnoleg hon a chofrestru gyda darparwr gwasanaeth band eang."

Mae’r rheoleiddiwr Ofcom wedi cydnabod mai yng Nghymru y ceir y nifer mwyaf o gartrefi a busnesau a all fanteisio ar gyswllt band eang cyflym iawn o’i chymharu â gweddill y gwledydd datganoledig**.

Mae rhaglen Cyflymu Cymru yn brosiect enfawr. Bydd peirianwyr Openreach yn gosod 17,500 o gilometrau o geblau ffibr optig a rhyw 3,000 o flychau gwyrdd newydd wrth ochr y ffordd. Ar gyfartaledd, bydd dros 100 o adeiladau ar draws Cymru yn cael eu cysylltu â band eang cyflym iawn bob awr.

I weld a yw band eang iawn cyflym iawn ar gael iddyn nhw, gall aelwydydd a busnesau fynd i www.superfast-cymru.com

Os yw band eang cyflym iawn ar gael i aelwydydd a busnesau, ni fyddant yn cael eu huwchraddio'n awtomatig, a dylent gysylltu â'u Darparwr Gwasanaethau Rhyngrwyd er mwyn uwchraddio. 

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu grantiau hefyd er mwyn i fusnesau fanteisio ar fand eang gwibgyswllt, ac mae hyd at £10,000 ar gael er mwyn gosod y gwasanaeth hwnnw. Os nad yw cartrefi a busnesau'n gallu cael band eang cyflym iawn drwy raglen Cyflymu Cymru, mae grantiau ar gael iddyn nhw hefyd er mwyn iddyn nhw gael band eang cyflym iawn mewn ffyrdd eraill, megis drwy loeren.  Gellir cael mwy o fanylion am y cynlluniau hynny drwy fynd i: llyw.cymru/bandeang
 

Rhannu |