Mwy o Newyddion
Cyhoeddi manylion llawn 'Gŵyl y Llais' Caerdydd
Bydd Bryn Terfel, Charlotte Church, John Cale, Van Morrison, Rufus Wainwright a llawer mwy yn perfformio ym mlwyddyn gyntaf yr ŵyl gelfyddydol ryngwladol newydd.
Mae rhaglen lawn o sêr, gyda chyd-gynyrchiadau a chomisiynau mawr newydd, wedi ei chyhoeddi yn lansiad Gŵyl y Llais – gŵyl gelfyddydol ryngwladol newydd sbon a fydd yn digwydd yng Nghaerdydd bob dwy flynedd o hyn ymlaen.
Wedi'i threfnu a'i chynhyrchu gan Ganolfan Mileniwm Cymru, bydd yr ŵyl eleni yn digwydd mewn lleoliadau ledled Caerdydd rhwng 3 a 12 Mehefin.
Bydd cynyrchiadau ac artistiaid nodedig o Gymru yn rhan o'r ŵyl deg diwrnod. Yn eu plith mae Charlotte Church, Bryn Terfel, John Cale, Georgia Ruth, Gwyneth Glyn, Scritti Politti a Gwenno, gyda chynyrchiadau mawr newydd gan National Theatre Wales, Opera Cenedlaethol Cymru a Patrick Jones.
Nod y digwyddiad sylweddol yma yw gweddnewid Caerdydd a'i throi yn un o ganolfannau gŵyl mawr Ewrop, ar yr un lefel â Gŵyl Ryngwladol Caeredin, Gŵyl Ryngwladol Manceinion, Gŵyl Holand a Gŵyl Avignon.
Bydd yr ŵyl yn adeiladu ar dreftadaeth unigryw Cymru fel 'gwlad y gân' – cenedl sy'n adnabyddus am ei thraddodiad dwfn o ganu corawl a'i llu o artistiaid lleisiol byd-enwog. Nod y rhaglen yw adlewyrchu'r dreftadaeth yna a chreu gŵyl o fath newydd sy'n chwalu ffiniau, gan roi llwyfan i bob math o fynegiant lleisiol: opera ynghyd â grime, theatr gerdd ynghyd â roc, cabaret ynghyd â gospel, a swing ynghyd â cherddoriaeth gorawl ddigyfeiliant.
Mae Canolfan Mileniwm Cymru wedi cyd-gynhyrchu a/neu gomisiynu sawl prosiect mawr newydd ar gyfer Gŵyl y Llais. Mae'r rhain yn cynnwys:
- The Last Mermaid – darn newydd o theatr gerdd wedi'i gomisiynu sy'n seiliedig ar stori'r Fôr-forwyn Fach, gyda Charlotte Church yn y brif ran. Mae'r gwaith yma wedi ei gyd-guradu gan Charlotte Church, Jonathan Powell a Siôn Trefor. Gyda Bruce Guthrie yn cyfarwyddo, bydd y sioe yn cael ei pherfformio i gynulleidfaoedd 8 oed a throsodd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.
- La Voix Humaine – dyma lwyfaniad prin o opera un act ddeugain munud Francis Poulenc. David Pountney sy'n cyfarwyddo La Voix Humaine, sy'n cael ei chyd-gynhyrchu gydag Opera Cenedlaethol Cymru. Yn seiliedig ar y ddrama o'r un enw gan Jean Cocteau, bydd Claire Booth yn serennu yn y cynhyrchiad, a gaiff ei berfformio mewn fflat modern yng Nghaerdydd i gynulleidfa o 35 ar y tro.
- Before I Leave – drama newydd gan Patrick Jones, wedi'i chyfarwyddo gan Matthew Dunster a'i chyd-gynhyrchu gyda National Theatre Wales. Mae'r ddrama wedi'i hysbrydoli gan stori go iawn Côr Cwm Taf, côr o ddynion a menywod sy'n byw gyda demensia, a bydd yn cynnwys fersiynau o ganeuon artistiaid mor amrywiol â Tom Jones a'r Sex Pistols, a cherddoriaeth newydd gan ddau o'r Manic Street Preachers, Nicky Wire a James Dean Bradfield.
- Opera for the Unknown Woman – cipolwg gwyddonias ar y Ddaear yn yr unfed ganrif ar hugain a'r ail ganrif ar hugain. Darn wedi'i gyd-gomisiynu gyda Gŵyl Efrog mewn cydweithrediad â Chanolfan Gelfyddydau Warwick. Dyma waith sain newydd ar gyfer lleisiau sydd wedi'i greu a'i gyfarwyddo gan Melanie Wilson gyda'i chyd-gyfansoddwr Katarina Glowicks a'r cynllunydd taflunio Will Duke. Gan asio cerddoriaeth glasurol gyfoes a cherddoriaeth electronig, canu corawl, ffilm a choreograffi, mae'r cynhyrchiad yn cyfuno'r ffurfiau yma i greu gwaith newydd dewr sy'n llawn mynegiant.
- Ffatri Vox – Bydd y cerddor Inge Thomson o Ynysoedd Shetland yn cyflwyno première o waith newydd, 'Ffatri Vox' sydd wedi'i gomisiynu'n ecsgliwsif ar gyfer Gŵyl y Llais. Mae'r gwaith yn cynnwys ac wedi dod o dan ddylanwad 'Lleisiau o Lawr y Ffatri', casgliad anhygoel o straeon gan weithwyr ffatri rhwng 1945 ac 1975, wedi'u casglu gan Archif Menywod Cymru. Yn ymuno â Thomson ar y llwyfan bydd ei phartner cerddorol arferol, Fraser Fifield (chwibanau, kaval, sacs ac effeithiau) gyda Julie Murphy (llais) a Tom Cook (electroneg a thrin sain byw).
- Choir Clock – prosiect canu cymunedol newydd ar raddfa fawr, wedi'i greu i gofnodi penwythnos olaf yr ŵyl ac wedi'i gynhyrchu gan Serious gyda Chanolfan Mileniwm Cymru. Yn cynnwys ugain o gorau gwahanol mewn ugain lleoliad ledled canol Caerdydd, bydd perfformiadau mewn lleoliad gwahanol bob awr ar yr awr, gan ddod â lliw i'r brifddinas a'i chymunedau. Uchafbwynt y diwrnod fydd cyfle i bawb gyd-ganu 'Myfanwy' yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ddiwedd y nos.
- Lawrence Abu Hamdan – mewn prosiect unigryw ar y cyd ag Artes Mundi, bydd yr artist nodedig o Beirut, Lawrence Abu Hamdan, yn creu gwaith sain newydd i'r ŵyl.
Yn ogystal â'r cyd-gynyrchiadau a'r comisiynau mawr yma, bydd rhes o sêr yn perfformio yn yr ŵyl. Bydd y cerddor roc chwedlonol John Cale, gydag ensemble a chorws, yn agor yr ŵyl ar 3 Mehefin, gydag enillydd y Wobr Gerddoriaeth Gymreig y llynedd, Gwenno, yn cefnogi.
Bydd John Grant yn perfformio ar 9 Mehefin a Meilyr Jones yn cefnogi. Yn y cyfamser bydd gwestai arbennig yn ymuno â Van Morrison yn ei gyngerdd ar 7 Mehefin, sef Bryn Terfel. Bydd Bryn ei hunan yn perfformio mewn dau gyngerdd arbennig yng Nghadeirlan Llandaf.
Mae Beyond Borders – Songs of Separation & Songs of Unity, dan gyfarwyddyd Karine Polwart, yn gywaith ac yn ddathliad prin o ieithoedd ac arddulliau lleisiol Cymru, yr Alban, Lloegr ac Iwerddon, a bydd yn cynnwys unawdwyr o fri, gan gynnwys y ddwy gantores werin Georgia Ruth a Gwyneth Glyn.
Mae Rufus Wainwright, Juliette Gréco, Laura Mvula, Ben Folds, Ronnie Spector, Les Mystere des Voix Bulgares, Femi Kuti, Mbongwana Star, Hugh Masekela, Juliet Kelly, Sianed Jones, Jamie Woon, Flavia Coelho, Scritti Politti ac Alexis Taylor (Hot Chip), Mariza, Lera Lynn, Woman’s Hour, yMusic, Fatima, Côr Gospel House, Candi Staton, Anna Calvi, The Hot Sardines, Keaton Henson, Lleisiau Rustavi Georgia, Anne Carrere ac Amartuvshin Enkhbat ymhlith yr artistiaid ar y rhaglen ryngwladol ar gyfer Gŵyl y Llais.
Bydd Gŵyl y Llais yn annog cyfranogiad – gyda chyfleoedd i bobl o bod oed, pob arddull o gerddoriaeth a phob lefel o brofiad gymryd rhan. Bydd yn cynnwys dros 12,000 o gyfranogwyr mewn 78 perfformiad dros y cyfnod o ddeg diwrnod.
Bydd y cynyrchiadau arloesol fydd yn dathlu diwylliant Cymru yn cynnwys Access all Arias – lle bydd Corws Opera Cenedlaethol Cymru yn camu i strydoedd Caerdydd a Wales 1000 – A Millennium of Welsh Music for Male Voices – cyflwyniad ar y cyd gan Ganolfan Mileniwm Cymru ac Aloud, wedi'i guradu gan Tim Rhys-Evans MBE, lle bydd rhai o gorau meibion gorau Cymru yn dod ynghyd i ddathlu ein treftadaeth gerddorol a diwylliannol.
Prosiect gydag ysgolion ledled Cymru yw Gwlad y Gân lle mae Canolfan Mileniwm Cymru ac Elusen Aloud wedi dod ynghyd i annog ysgolion cynradd ledled Cymru i ddathlu gwaith Roald Dahl drwy gân. Bydd ysgolion yn dod ynghyd i gyd-ganu mewn cyngherddau yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Venue Cymru a'r perfformiad clo yng Ngŵyl y Llais.
Fyddai gŵyl yng Nghymru i ddathlu'r llais ddim yn gyflawn heb Gymanfa Ganu. Gyda Caryl Parry Jones yn curadu a thrwy gefnogaeth Tŷ Cerdd, bydd y canu cynulleidfaol pedwar llais yn Neuadd Dewi Sant yn siŵr o godi'r to.
Noson o ganu Hip-hop tanddaearol fydd Higher Learning, yn cael ei chynnal yn Tramshed ac yn cynnwys rhai o MCs mwyaf ffres Prydain gydag ymddangosiad prin gan Frenin hip hop gwledydd Prydain, Rodney P gyda'r chwedlonol DJ Skitz, yn ogystal â'r arloeswyr hip hop modern 4 Owls.
Yn Peski Nacht bydd y label recordio a'r curadwyr diwylliannol Peski yn dathlu lleisiau hen a newydd o dirlun celfyddydau gweledol a cherddorol amgen Cymru, mewn noson arbennig ym Marchnad Jacobs a fydd yn cynnwys Anelog, ACCÜ (cyn aelod Trwbador Angharad Van Rijswijk), y Pencadlys a Plyci.
Bydd lleoliadau Gŵyl y Llais yn cynnwys Canolfan Mileniwm Cymru, Chapter, Neuadd Dewi Sant, y Theatr Newydd, Tramshed, Sherman Cymru a lleoliadau llai ledled y brifddinas. Bydd clwb symudol yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yn cael ei lansio yn yr ŵyl – gan greu gofod ymlaciedig i artistiaid a mynychwyr yr ŵyl fwynhau cerddoriaeth fyw, DJ's a choctels bendigedig.
Mae Gŵyl y Llais yn cael ei chynhyrchu a'i churadu gan Ganolfan Mileniwm Cymru mewn cydweithrediad â Serious, Opera Cenedlaethol Cymru, National Theatre Wales, Artes Mundi a sefydliadau a lleoliadau eraill ledled Caerdydd. Mae'n derbyn cefnogaeth gan Ymddiriedolaeth Tregolwyn, Cyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Dinas Caerdydd a rhoddion preifat. Mae'n cael ei chyfarwyddo gan Graeme Farrow a'i churadu gan Sarah Dennehy.
Meddai Graeme Farrow, Cyfarwyddwr Artistig Canolfan Mileniwm Cymru a Chyfarwyddwr Gŵyl y Llais: "Mae Cymru yn falch o'i thraddodiad canu yn fwy na dim arall. Roedden ni eisiau mynd â'r traddodiad yma mor bell ymlaen ag y gallen ni, gan wasgaru llawenydd y gân ar hyd gorwelion Caerdydd a gwahodd y byd i ddod i ganu gyda ni ac i rannu emosiwn drwy'r ffurf buraf yma ar fynegiant artistig a mynegiant dynol.
"Rydyn ni'n canolbwyntio ar geisio darparu profiadau y bydd pobl yn teithio i Gaerdydd o bell i'w gweld – fel unig ddyddiad Rufus Wainwright yng ngwledydd Prydain eleni hyd yma, a chyfle unwaith mewn oes i weld Juliette Gréco. Ond, ar yr un pryd, rydyn ni am sicrhau bod yr ŵyl yn dathlu holl ystod tirlun cerddorol cyfoethog Cymru – o'r corau meibion a'r Gymanfa Ganu i artistiaid ifanc Cymraeg fel Gwenno, Georgia Ruth a Meilyr Jones fydd yn rhan o'r rhaglen ochr yn ochr â John Cale, Van Morrison a'u tebyg.”
Bydd modd archebu tocynnau o ddydd Iau 25 Chwefror ymlaen drwy wefan yr ŵyl, http://www.gwylyllais.cymru