Mwy o Newyddion

RSS Icon
04 Mawrth 2016

Hwb i Gymru - disgwyl i 2015 fod yn flwyddyn arall ragorol i dwristiaeth

Yn ystod ymweliadau i nodi Wythnos Twristiaeth Cymru datgelodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates, fod y ffigurau diweddaraf ynghylch twristiaeth yn dangos bod 2015 yn flwyddyn ragorol i Gymru, hyd yn oed o’i chymharu â llwyddiant 2014. 

Yn ôl Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr, a gyhoeddwyd ddoe, croesawodd Cymru 9.5 miliwn o ymwelwyr yn ystod un ar ddeg mis cyntaf 2015 a gwariodd yr ymwelwyr hyn £1.8 biliwn.  

Dywedodd y Dirprwy Weinidog: “Mae diwydiant twristiaeth Cymru’n mynd o nerth i nerth.

"Mae nifer yr ymwelwyr a’u gwariant yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn, o farchnadoedd o fewn Prydain Fawr a marchnadoedd rhyngwladol.

"Yn 2014 daeth 10 miliwn o ymwelwyr i Gymru, sef y nifer mwyaf erioed, ac roedd hyn yn newyddion gwych i Gymru.

"Er nad oes mis o ffigurau ar gyfer 2015 wedi’u cyfrifo eto gallwn eisoes weld fod y gwariant yn uwch na’r ffigur uchaf erioed a gofnodwyd yn 2014, sef £1.735 biliwn.

"Mae hyn yn tystio i holl waith caled y diwydiant ac yn dangos bod ein strategaeth twristiaeth ar gyfer Cymru’n effeithiol.

“Ni allwn orffwys ar ein rhwyfau, fodd bynnag. Mae’n rhaid sicrhau ein bod yn parhau’n gystadleuol o fewn marchnad byd eang sy’n prysur newid.

"Mae’r ymateb i ymgyrch marchnata rhyngwladol newydd Croeso Cymru wedi bod yn galonogol iawn.

"Mae’r ymgyrch mawr gwerth £4 miliwn yn cynnwys hysbysebion ar y teledu ac mewn sinemâu o fewn y DU a Gweriniaeth Iwerddon, a rhaglen hysbysebu gyntaf erioed Croeso Cymru mewn sinemâu yn yr Almaen.”

Mae mesur arall o berfformiad twristiaeth hefyd yn dangos y bu 2015 yn flwyddyn lwyddiannus iawn. Dengys yr arolwg deiliadaeth twristiaeth ar gyfer Ionawr – Rhagfyr fod lefelau deiliadaeth mewn tai llety, llety gwely a brecwast a hosteli wedi cynyddu 3 phwynt canran yn ystod 2015.  

Ychwanegodd y Dirprwy Weinidog: ”Pleser yw ymweld â rhai o atyniadau Cymru yn ystod Wythnos Twristiaeth Cymru, gan hyrwyddo’r holl anturiaethau amrywiol a chyffrous sy’n cael eu cynnig yng Nghymru."
 

Rhannu |