Mwy o Newyddion
Drama gerdd gyfoes, Gymraeg am fod yn ifanc
Mae tocynnau ar gyfer y cynhyrchiad Cysgu'n Brysur bellach ar werth ymhob canolfan a’r cast wedi eu cadarnhau.
Mae Cysgu’n Brysu’ yn ddrama gerdd gyfoes, Gymraeg am fod yn ifanc yn yr unfed ganrif ar hugain – yr affêrs a’r fflirtio, angst y dosbarth, y gangiau a’r partïon gwyllt yn y goedwig, moesau ac anfoesoldeb, rhwystredigaeth gydag oedolion a’r ofnau a'r gobeithion.
Dyma gynhyrchiad mentrus graddfa fawr gyda chast o 11 actor ifanc egnïol, sgript fachog Bethan Marlow a choreograffi eiconig Eddie Ladd wedi’i seilio ar ganeuon gwych y band Cymraeg Bromas.
Y cast llawn ar gyfer y cynhyrchiad yw Tom Conwy, Anni Dafydd, Aaron Davies, Guto Wynne Davies, Gareth Elis, Mirain Fflur, Osian Garmon, Gwawr Keyworth, Rhianna Loren, Caitlin McKee a Lynwen Haf Roberts.
Byddent yn ymuno â gweddill y criw artistig, sef yr awdur Bethan Marlow, y Cyfarwyddwr Jeremy Turner, y Coreograffydd Eddie Ladd a’r Cyfarwyddwr Cerdd Rhys Taylor.
Perfformir ‘Cysgu’n Brysur’ yn y canolfannau canlynol:
CANOLFAN CELFYDDYDAU ABERYSTWYTH 8 + 9 Mawrth 7.30pm
Y LYRIC, CAERFYRDDIN 11 Mawrth 10.00am a 7.30pm
PAFILIWN Y RHYL 16 + 17 Mawrth 16eg - 7pm / 17eg - 10.30am
GALERI, CAERNARFON 18 Mawrth 1pm a 7pm
CANOLFAN MILENIWM CYMRU, CAERDYDD / WALES MILLENNIUM CENTRE CARDIFF 21-26 Mawrth 21-23: 1pm / 23–25: 7pm / 26: 2pm + 8pm
Cyhoeddir cyfeiriad gwefan arbennig y cynhyrchiad yn y man lle bydd modd dilyn hynt a helynt y cymeriadau, yr ymarferion a’r straeon diweddar o’r cynhyrchiad.
Mae Cysgu'n Brysur yn gynhyrchiad gan gwmni theatr Arad Goch mewn partneriaeth â Canolfan Mileniwm Cymru a Canolfan Celfyddydau Aberystwyth Arts Centre.