Mwy o Newyddion

RSS Icon
03 Mawrth 2016

Cynllun newydd i fynd i'r afael â chamfanteisio'n rhywiol ar blant yng Nghymru

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Mark Drakeford wedi lansio'r cynllun gweithredu cenedlaethol cyntaf i fynd i'r afael â chamfanteisio'n rhywiol ar blant yng Nghymru.

Mae'r Cynllun Gweithredu Cenedlaethol i Fynd i'r Afael â Chamfanteisio'n Rhywiol ar Blant Cymru yn darparu fframwaith cynhwysfawr sy'n galluogi amrywiaeth eang o bartneriaid diogelu i weithredu'n gydlynol ar draws asiantaethau i atal cam-drin a chamfanteisio'n rhywiol ar blant ac i amddiffyn plant.

Mae'n gosod y safonau gofynnol y bydd y byrddau diogelu plant ac asiantaethau partner yn gweithio ar y cyd ac yn unigol tuag atynt ac adeiladu arnynt er mwyn:

  • Atal cam-drin a chamfanteisio'n rhywiol ar blant a phobl ifanc, a'u hamddiffyn
  • Darparu cymorth ymatebol, priodol a chyson i gefnogi'r rheini y nodwyd eu bod yn dioddef camfanteisio'n rhywiol, neu mewn perygl o ddioddef camfanteisio o'r fath 
  • Cyfrannu at ganfod pobl sy'n camfanteisio'n rhywiol ar blant a'u herlyn.

Caiff y cynllun ei lansio yn dilyn penodiadau i'r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol a fydd yn chwarae rôl bwysig yn sicrhau bod gennym y polisïau a'r mentrau cywir ar waith i ddiogelu plant ac oedolion trwy Gymru. 

Dywedodd yr Athro Drakeford: "Mae camfanteisio'n rhywiol ar blant yn enghraifft o gam-drin plant ac yn drosedd. Mae mynd i'r afael â'r math hwn o gam-drin yn flaenoriaeth i'r llywodraeth hon, ac mae angen i bawb sy'n ymwneud â diogelu gydweithio.

"Mae'r cynllun cenedlaethol newydd hwn yn nodi'r hyn rydyn ni'n disgwyl i asiantaethau ei wneud i atal camfanteisio'n rhywiol ar blant ac amddiffyn plant, ac i ganfod pobl sy'n camfanteisio'n rhywiol ar blant, a'u herlyn.

“Nid yw'r ffaith bod cynllun gweithredu cenedlaethol yn cael ei ddatblygu yn golygu bod y gwaith yn dod i stop. Y dechrau yn unig yw hyn. Rydyn ni'n parhau i gydweithio i amddiffyn ein plant a'n pobl ifanc.” 

Mae'r cynllun wedi'i lunio mewn partneriaeth â chomisiynwyr heddlu a throseddu Cymru, y Comisiynydd Plant, heddluoedd, y Gwasanaeth Cenedlaethol Rheoli Troseddwyr – Cymru, Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru, Cwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru, byrddau iechyd, Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, y trydydd sector a llywodraeth leol.

Rhannu |