Mwy o Newyddion
Dyma Hugh, y llyfrgellydd robot
Gallai myfyrwyr sy’n chwilio am lyfrau llyfrgell ym Mhrifysgol Aberystwyth fod yn troi at robot am gymorth cyn hir.
Crëwyd Hugh, y llyfrgellydd robot, gan ddau fyfyriwr sy’n astudio roboteg, Pasi William Sachiti ac Ariel Ladegaard.
Cafodd ei gynllunio i dderbyn gorchmynion llais, ac mi fydd Hugh yn medru dweud ble mae’r llyfr ac arwain y myfyriwr i’r silff berthnasol.
Mae’n gyfuniad o dechnoleg robot sydd eisoes yn bodoli a gwybodaeth o PRIMO, catalog llyfrau ar lein y Brifysgol, a bydd Hugh yn gatalog llyfrgell sy’n siarad ac yn cerdded a chyda mynediad i 800,000 o lyfrau.
Bydd Pasi ac Ariel yn cyflwyno eu prototeip yn Sioe Dangos a Dweud y BCS ym Mhrifysgol Aberystwyth heno ac maent wedi gwahodd eu cyd fyfyrwyr ym meysydd roboteg a deallusrwydd artiffisial i gyfrannu at ddatblygiad y prosiect dros y misoedd nesaf.
“Y cam nesaf yw edrych ar sut mae'n symud o gwmpas heb daro i mewn i bobl a dodrefn y llyfrgell, sut y mae'n darganfod ble mae'r llyfrau, sut mae'n dehongli gorchmynion llais, sut y mae'n dangos y wybodaeth, a sut mae’n edrych,” meddai Ariel. "Ac wrth gwrs, mewn awyrgylch dawel, megis llyfrgell, dylai gael ei lais ei hun?"
Yn ôl Pasi, sydd wedi ymddangos ar gyfres y BBC, Dragon’s Den, mi fydd llwyddiant Hugh yn ddibynnol ar gadw pethau’n syml.
"Fel mae llawer sy'n defnyddio apps ffonau symudol yn gwybod, mae mwy o bobl yn debygol o ddefnyddio ap sy’n syml. Rydym wedi mabwysiadu’r un athroniaeth gyda Hugh; ei waith ef fydd gwrando ar eich cais, dod o hyd i'r llyfr ac yn mynd â chi yno ", meddai.
I Pasi, Hugh yw’r cyntaf mewn llinach o ‘robotiaid cyfyng eu deallusrwydd’ a fydd yn gallu ymgymryd â thasgau penodol mewn amgylcheddau fel ysbytai, cartrefi gofal neu archfarchnadoedd.
Meddai Elizabeth Kensler, Rheolwr Gwasanaethau Cwsmeriaid a Chysylltiadau Academaidd yn Adran Gwasanaethau Gwybodaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth: "Mae llyfrgelloedd bob amser yn chwilio am gyfleoedd i ddefnyddio technoleg er mwyn gwella'r gwasanaethau maent yn eu darparu ac mae enghreifftiau llwyddiannus o atebion technolegol sy’n ategu’r gwasanaethau sy’n cael eu darparu gan staff ym mhob llyfrgell.
"Fodd bynnag, gallai llyfrgellydd robot sy'n dod o hyd i lyfr a mynd â chi at y silff berthnasol fod y cyntaf o’i fath yn y byd.
"Mae ymateb staff i'r gwaith sydd wedi ei wneud gan Pasi ac Ariel wedi bod yn wych ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda nhw wrth iddynt brofi'r prototeip dros y misoedd nesaf. Bydd yn ddiddorol iawn gweld sut mae myfyrwyr yn ymwneud ag ef, yn enwedig siarad gyda'r robot mewn ardal astudio dawel."
Gobaith Pasi ac Ariel yw y bydd robot sy’n gweithio yn ei le i gyfarch y garfan newydd o fyfyrwyr ym Medi 2016.
I gael gwybod mwy am Hugh ewch i http://www.hugh.ai/
Llun: Y myfyrwyr roboteg Pasi William Sachiti (chwith) ac Ariel Ladegaard gyda prototeip o Hugh, y llyfrgellydd robot