Mwy o Newyddion

RSS Icon
26 Chwefror 2016

Cymryd camau yn San Steffan i bwyso am gydnabyddiaeth ffurfiol i ddiwydiant llechi gogledd Cymru

Mae ymgyrch gan Blaid Cymru i ddyfarnu i ddiwydiant llechi gogledd Cymru Statws Treftadaeth y Byd UNESCO wedi ennill cefnogaeth trawsbleidiol gan Aelodau Seneddol, yn dilyn Cynnig a gyflwynwyd gan Arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan ac AS dros Arfon, Hywel Williams, sy’n awyddus i gyfraniad y diwydiant i ogledd Cymru gael cydnabyddiaeth ffurfiol.

Mae Hywel Williams yn galw ar yr Adran Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon i ystyried ardaloedd y diwydiant llechi fel Llanberis, Bethesda, Dyffryn Nantlle, Blaenau Ffestiniog a Chorris ar gyfer gwerthusiad technegol, i ennill statws Treftadaeth y Byd mewn cydnabyddiaeth o'u rôl wrth siapio tirlun hanesyddol, diwydiannol, economaidd, daearyddol a diwylliannol gogledd Cymru. 

Mae ei alwad wedi cael cefnogaeth Aelodau Seneddol o’r SNP, y Blaid Lafur a’r Ceidwadwyr.

Dywedodd Hywel Williams: “Byddai cydnabyddiaeth ffurfiol cyfraniad aruthrol y diwydiant llechi i ogledd Cymru yn deyrnged addas i bawb sy'n ymwneud â'r diwydiant, a byddai'n darparu cenedlaethau'r dyfodol o bob cwr o'r byd, gyda'r cyfle i ddysgu am gyfraniad gwerthfawr y meysydd hyn wrth ddiffinio hanes, diwylliant a thirwedd gogledd Cymru.

“Mae'r creithiau gweledol trawiadol sydd ar fryniau gogledd Cymru yn dyst i lafur miloedd o weithwyr dros lawer o genedlaethau, a dorrodd llechi â llaw, mewn amodau gwaith peryglus iawn ar gyfer ychydig iawn o elw ariannol.

“Nid yw cyflawni y fath statws mawreddog â hyn heb ei heriau, ond os bydd y cais yn llwyddiannus, byddai'n rhoi hwb economaidd sylweddol i ogledd Cymru ac i economi ehangach Cymru hefyd.

“Mae rhai o'n safleoedd treftadaeth byd presennol yng ngogledd Cymru eisoes yn cael cydnabyddiaeth byd-eang, megis Castell Caernarfon. Byddai'n wych pe gallai hyn gael ei gyfateb gan roi’r un statws i ddiwydiant llechi gogledd Cymru.

“Bydd Plaid Cymru yn parhau i gynnig cefnogaeth i'r gwaith caled a wnaed eisoes gan Gyngor Gwynedd a’u partneriaiad i droi y prosiect uchelgeisiol hwn yn realiti.” 

Rhannu |