Mwy o Newyddion

RSS Icon
26 Chwefror 2016

Lansio ymgyrch newydd wrth i ddementia ddod ar frig rhestr o bryderon iechyd

Mae ffigurau newydd Llywodraeth Cymru yn dangos bod 76% o bobl yn poeni am ddatblygu dementia yn hwyrach yn eu bywydau. Hefyd, mae dros hanner (60%) y bobl a holwyd yn meddwl y byddant hwythau'n datblygu dementia os oes rhywun yn eu teulu yn dioddef ohono.

Cafodd canfyddiadau arolwg am ddementia eu cyhoeddi ddoe wrth i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol lansio ymgyrch newydd i helpu pawb i gymryd camau syml i leihau eu risg o ddatblygu dementia.

Mae pobl yn cael eu hannog i weithredu yn awr i leihau eu risg wrth i'r ffigurau diweddaraf ddangos bod 42,000 o bobl 30 neu'n hŷn yn byw â dementia. Mae'r risg o ddatblygu dementia yn cynyddu wrth fynd yn hŷn. Wrth i bobl fyw'n hirach, bydd nifer y bobl sy'n datblygu dementia yn cynyddu.

Er bod hanner y bobl a gymerodd ran yn yr arolwg (48%) yn credu nad oes modd gwneud dim i leihau'r risg o ddatblygu dementia, mae tystiolaeth yn dangos bod ffordd fwy iach o fyw yn gallu lleihau'r risg hyd at 60%. Bydd gwneud newidiadau syml i'n ffordd o fyw, a fydd yn yr un modd yn dda i'r galon a'r ysgyfaint, yn dda i'r ymennydd yn ogystal.

Mae'r ymgyrch yn annog pobl i gymryd chwe cham syml i leihau'r risg o ddementia:

  • Gwiria dy iechyd yn gyson
  • Wyt ti’n cadw at dy bwysau?
  • Na! i ysmygu
  • Alcohol o fewn y canllawiau, os o gwbl
  • Fedri di gerdded mwy bob dydd?
  • Edrych am hobi newydd

Un person sydd wedi ymdrechu i newid ei ffordd o fyw er mwyn gwella ei hiechyd a lleihau ei risg o ddementia yw Debbie James, 51 oed, o Ben-y-bont ar Ogwr.

Meddai: "Rwyf bob amser wedi mwynhau bod yn yr awyr agored. Ychydig flynyddoedd yn ôl fe ymunais â grŵp ffitrwydd awyr agored sef Forces Fitness lle roeddem yn gwneud hyfforddiant cylchol yn y parc lleol.

"Roedd hyn fy helpu i fod yn heini ac roedd ochr gymdeithasol dda iawn iddo hefyd. Trwy hyn, fe ddechreuais feicio ac ymunais â Rhwydwaith Beicio Breeze lle'r oedd grŵp o ferched yn mynd i feicio.

"Yna, fe sefydlais fy ngrŵp beicio fy hun i ferched sef Broadlands Ladies and Bikes. Ond fyddwn i ddim yn dweud fy mod i'n hoff iawn o chwaraeon. Rwy'n ymwybodol fy mod am ofalu am fy iechyd a'm lles i helpu i gynyddu fy ngobaith o fyw'n hirach, yn fwy iach ac yn hapus.

"Am gyfnod, bu'n rhaid i mi roi llai o flaenoriaeth i  ymarfer corff wrth i mi ofalu am fy mam a oedd yn dioddef o ddementia.

"Roedd yn ymdrech fawr i mi ac roeddwn wirioneddol yn colli agweddau corfforol a chymdeithasol y dosbarthiadau roeddwn wedi bod yn rhan ohonynt.

"Yn anffodus, bu farw fy mam fis Hydref y llynedd. Ers hynny rwyf wedi dechrau beicio eto gyda grŵp o fenywod lleol. Rydyn ni'n cyfarfod yn rheolaidd i feicio, a bob tro yn stopio am goffi a sgwrs.

"Rwy'n beicio i gadw'n heini, ond hefyd i gymdeithasu. Mae'n wych treulio amser gyda phobl debyg a chael rhywun i siarad â nhw a rhannu pethau. Rwy'n teimlo ei fod yn helpu fy lles yn gyffredinol.

"Wedi gweld dementia drosof fy hun, a hefyd yn gweld fy mam yng nghyfraith yn ei ddioddef ar hyn o bryd, byddwn yn argymell i bawb waeth pa mor ifanc ydych chi, i fod yn fwy actif.

"Does dim rhaid i chi fod yn athletwr i ymuno â grŵp lleol, ac mae 'na lawer o fanteision cymdeithasol hefyd. Pwy a ŵyr beth sydd o'n blaenau. Y cwbl y gallwn ni ei wneud yw cadw ein hunain mor heini ac iach â phosibl."

Y llynedd, fe wnaeth Llywodraeth Cymru ymrwymo £5.5m y flwyddyn mewn cyllid ychwanegol i wella gwasanaethau cymorth dementia ac i osod targedau diagnosis uchelgeisiol newydd. Eleni, bydd £30m ychwanegol yn cael ei fuddsoddi yn iechyd meddwl pobl hŷn, gan gynnwys cymorth newydd ar gyfer dementia.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Mark Drakeford: “Mae'r risg o ddatblygu dementia yn cynyddu wrth fynd yn hŷn. Wrth i bobl fyw'n hirach, bydd nifer y bobl sy'n datblygu dementia yn cynyddu. Dydych chi byth yn rhy ifanc i gymryd camau syml i wella eich iechyd corfforol a meddyliol wrth i chi fynd yn hŷn, gyda'r gobaith o leihau eich risg o ddementia a chlefydau eraill.

"Rydym wedi ymrwymo i leihau effaith dementia. Dyma pam rydyn ni'n buddsoddi arian ychwanegol yn awr gan weithredu i gynyddu cyfraddau diagnosis a gwella'r cymorth sydd ar gael i bobl â dementia." 

Rhannu |