Mwy o Newyddion

RSS Icon
26 Chwefror 2016

Hebogiaid i gadw llygad barcud dros Farchnad Abertawe

Bydd adar yn fuan yn cadw llygad barcud dros Farchnad Abertawe.

Mae Cyngor Abertawe'n trefnu i hebogiaid sydd wedi cael hyfforddiant arbennig gael eu hanfon uwchben to'r atyniad hanesyddol i atal y gwylanod trafferthus.

Mae'r cyngor yn dweud bod gwylanod yn nythu ac yn ysglyfaethu wedi bod yn broblem ar do'r farchnad ers nifer o flynyddoedd. Mae'r problemau parhaol yn cynnwys baw adar, difrod i'r to a chafnau wedi'u blocio.

Bydd Hawksdrift, cyflenwr rheoli adar trwyddedig cenedlaethol y mae'r cyngor yn ei ddefnyddio, yn fuan wrth law yn y farchnad i ateb cwestiynau sydd gan fasnachwyr am eu gwaith.

Meddai'r Cyng Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fenter, Datblygu ac Adfywio: "Buddsoddon ni'n drwm yn ddiweddar mewn prosiect sylweddol i ailwampio to Marchnad Abertawe er lles masnachwyr a siopwyr am flynyddoedd lawer i ddod, felly mae'n hanfodol i ni barhau i wneud popeth yn ein gallu i gadw'r atyniad mewn cyflwr da.

"Mae gwylanod wedi bod yn broblem y tu allan i'r adeilad ger to'r farchnad ers sawl blwyddyn erbyn hyn, gan effeithio ar ei wedd ac achosi difrod a phryderon cynnal a chadw.

"Mae'r cwmni rydyn ni'n ei ddefnyddio'n arbenigo yn y maes hwn ac mae wedi datrys problemau tebyg yn llwyddiannus mewn llawer o adeiladau mewn rhannau eraill o'r DU.

"Mae'r hyn mae'n ei gynnig yn ateb blaengar, effeithiol, naturiol ac ecogyfeillgar i broblem barhaol.

"Nid yw hyn yn golygu niweidio'r gwylanod ger to'r farchnad oherwydd does neb am wneud hynny.

"Mae'n golygu defnyddio hebogiaid sydd wedi cael hyfforddiant dwys i atal y gwylanod a'u cadw draw o'r adeilad. Bydd masnachwyr yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am effeithiolrwydd y cynllun dros y misoedd nesaf."

Bydd Hawksdrift yn darparu adroddiadau ac ystadegau ymweliadau safle rheolaidd trwy system rheoli gwybodaeth ar-lein fel y gall y cyngor fonitro'r cynnydd.

Roedd gwaith gwella diweddar ym Marchnad Abertawe'n cynnwys ailwampio'r to baril presennol ac adnewyddu'r to a'r talcen gwydr. Cafodd y prosiect ei ariannu gan Gyngor Abertawe a'r Rhaglen Gwella Adeiladau a gefnogir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru.

Rhannu |