Mwy o Newyddion

RSS Icon
26 Chwefror 2016

Talu teyrnged i’r sawl a wrthwynebodd y Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru

Can mlynedd i’r diwrnod ers y daeth consgripsiwn a gorfodaeth filwrol i rym, ar yr 2il o Fawrth, bydd Aberystwyth yn cofio ac yn talu teyrnged i wrthwynebwyr cydwybodol gyda dau ddigwyddiad fydd yn talu teyrnged i’r sawl a wrthwynebodd y Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru.

Rhoddir darlith ddadlennol, yn datgelu hyd a lled y gwrthwynebiad i'r Rhyfel yng Nghymru, gan gyn Bennaeth Newyddion a Materion Cyfredol BBC Cymru, Aled Eirug, am 4:30yp ar yr 2il o Fawrth 2016 yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth fydd yn cael ei ddilyn gan lansiad llyfr gan wasg Y Lolfa, ‘A Pilgrim of Peace – A Life of George M Ll Davies’ gan Jen Llywelyn am 6.30yh yn y Drwm yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Wrth drafod y ddarlith, meddai Pennaeth prosiect Cymru dros Heddwch, Craig Owen: “Amserol iawn yw’r ddarlith gan y byddwn, ar yr 2il o Fawrth, yn cofio canmlwyddiant gweithredu Deddf Gwasanaeth Milwrol.

“O’r dyddiad hwn ymlaen roedd tebygrwydd y byddai’r rhan fwyaf o ddynion 18 i 41 oed yn cael eu cyrchu i ymgymryd â gwasanaeth milwrol – nifer ohonynt yn dychwelyd fel enwau yn Llyfr y Cofio, a welir ar hyn o bryd mewn arddangosfa yn y Llyfrgell Genedlaethol.

“Ond mae’r gwrthwynebiad i ryfel yng Nghymru yn agwedd anghofiedig i raddau, ac yn y ddarlith hon, sy’n gyfle i gael rhagflas ar ymchwil blaenllaw Aled Eirug yn y maes, bydd hefyd cyfle i ategu ein hapêl i gasglu hanesion cudd am y Gwrthwynebwyr Cydwybodol. Gobeithio bydd sylweddoli arwyddocâd y gwrthwynebiad yn ysbrydoli cymunedau a theuluoedd i ymchwilio ymhellach a gwirfoddoli i rannu eu hanesion cudd hwythau gyda’r genedl, drwy gynllun Cymru’n Cofio.”

Ychwanegodd Aled Eirug: “Ar achlysur canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru, a’r duedd i roi sylw i’r milwyr, yn y ddarlith yma rwyf yn edrych yn fanwl ar y sawl a wrthwynebodd y Rhyfel trwy Gymru, ac yn enwedig ar y cyfanswm o dros 800 o  wrthwynebwyr cydwybodol o Gymru.

"Tra’i fod yn bwysig cofio’r milwyr a gollodd eu bywydau yn ystod y Rhyfel, mae’n bwysig hefyd cofio bod lleiafrif pwysig ac arwyddocaol wedi dewis llwybr arall oedd yn anodd ac yn aml yn amhoblogaidd.”

Gwrthwynebwr cydwybodol arall enwog, a gaiff ei gofio mewn cofiant newydd sbon, yw’r heddychwyr o Gymro George M Ll Davies.

Yn Pilgrim of Peace gan Jen Llywelyn fe olrheinir hanes bywyd y dyn hwn a gaiff ei gofio yn bennaf fel heddychwr, ond fe adlewyrchai ei fywyd sbectrwm ehangach o ddiddordebau sy’n ei osod yng nghalon bywyd yng Nghymru yn ystod y bedwaredd ganrif a’r bymtheg ac yr ugeinfed ganrif.

“Ymgorfforodd ei fywyd, ynghyd a’i berthynas gymhleth ef gyda chrefydd a gwleidyddiaeth bleidiol, ansicrwydd yn ogystal â chysondeb,” meddai’r athro Paul O’Leary o Brifysgol Aberystwyth. “Roedd yn ffigwr cymhleth, ac mae ei fywyd yn datgelu llawer am heriau ei gyfnod.”

“Roedd gan George gysylltiadau ledled Cymru ac roedd gan Cymru le pwysig iawn yn ei galon. Bu’n Gymro Cymraeg ar hyd ei oes, bu’n siarad mewn protest yn erbyn yr Ysgol Fomio ym Mhenyberth yn 1936, ac roedd yn gynyddol anhapus gyda’r modd yr oedd Cymru yn cael ei thrin,” meddai Jen, sydd yn byw yn Nhrisant yng Ngheredigion.
“Bob tro y caiff George M. Ll. Davies ei drafod yng Nghymru, caiff ei ddisgrifio fel ‘sant’,” eglurodd Jen.

“Nid fy nymuniad i yw tanseilio hynny. Mae gennyf barch ac edmygedd enfawr tuag ato. Ond wrth ddod i’w adnabod, gwelwn bod y ‘sant’ hwn hefyd yn ddyn, yn fod dynol, ac mewn sawl ffordd yn ddiffygiol hefyd.”

Rhannu |