Mwy o Newyddion
Ymgeisyddion parasiwt UKIP 'yn sarhad' i etholwyr Cymreig
Mae ymgeisydd Cynulliad Plaid Cymru dros Aberconwy, Trystan Lewis, wedi rhybuddio heddiw na all pobl Cymru ymddiried yn UKIP am eu bod yn mynnu troi Cymru'n gartref i wleidyddion Ceidwadol methedig o dros y ffin cyn etholiad y Cynulliad fis Mai.
Dywedodd Trystan Lewis fod y modd mae UKIP yn parasiwtio ymgeisyddion i Gymru sydd heb unrhyw wybodaeth na dealltwriaeth o'n cymunedau a'u hanghenion yn 'sarhad' i etholwyr Cymreig.
Tynodd sylw at y cyferbyniad gydag ymgeisyddion cryf Plaid Cymru sydd wedi eu gwreiddio yn eu cymunedau ac sy'n adnabod a charu'r ardaloedd meant yn gobeithio eu cynrychioli.
Wrth siarad cyn Cynhadledd Wanwyn UKIP yn Llandudno sy'n dechrau heno, dywedodd ymgeisydd Cynulliad Plaid Cymru dros Aberconwy, Trystan Lewis: "Os yw UKIP yn mynnu troi Cymru'n gartref i wleidyddion Torïaidd methedig o dros y ffin, yna byddant yn talu'r pris yn y blwch pleidleisio.
"Ni fydd pobl Cymru'n cael eu twyllo gan ymgeisyddion parasiwt sydd a'i bryd, drwy sefyll etholiad, ar droi fyny i'r Cynulliad, casglu eu cyflogau, a dal y trên cyntaf nôl i Lundain ar ddiwedd yr wythnos.
"Mae gorfodi pobl sydd heb unrhyw wybodaeth na dealltwriaeth o'n cymunedau a'u hanghenion ar etholwyr Cymreig yn ddim byd llai na sarhad.
"O gymharu, mae gan Blaid Cymru griw ymroddgar o ymgeisyddion, wedi gwreiddio yn eu cymunedau ac sy'n adnabod a charu'r ardaloedd maent yn gobeithio eu cynrychioli.
"Lles Cymru yw prif flaenoriaeth Plaid Cymru, bob tro. Mae ein haddewidion i gryfhau'r NHS, codi safonau yn ein hysgolion a chreu swyddi a thwf yn yr economi Gymreig yn adlewyrchu hynny.
"Mae cynlluniau UKIP i dynhau gafael San Steffan ar yr economi Gymreig ac i ail-gyflwyno ysgolion gramadeg yn creu atgofion o ddyddiau gwaethaf Thatcher.
"Mae Plaid Cymru'n benderfynol o herio eu rhethreg ranedig a pholisïau difeddwl fyddai'n mynd a Chymru am yn ôl, nid ymlaen.
"Gyda thîm cryf o ymgeisyddion sy'n barod i weithredu fel pencampwyr lleol ym mhob rhan o'r wlad, mae Plaid Cymru'n cynnig y newid sydd ei angen fis Mai."