Mwy o Newyddion
Academi Hywel Teifi yn lansio prosiect Menywod Cymru sy'n dathlu arloeswyr benywaidd y gorffennol a'r presennol
Mewn digwyddiad arbennig ym Mhrifysgol Abertawe yr wythnos yma, lansiodd Academi Hywel Teifi brosiect Menywod Cymru, ar y cyd â chyfres newydd Mamwlad ar S4C.
Prosiect ar ffurf gwefan yw Menywod Cymru, a’i nod yw rhoi gogwydd Cymraeg a Chymreig i Ddiwrnod Rhyngwladol Menywod a ddethlir ar 8 Mawrth bob blwyddyn, gan dynnu sylw at arloeswyr benywaidd y gorffennol a’r presennol.
Bwriad Academi Hywel Teifi yw datblygu’r adnodd hwn, trwy ychwanegu at restr yr arloeswyr, gwahodd blogwyr gwadd un waith y mis, a chroesawu mewnbwn gan y cyhoedd.
Ymhlith yr arloeswyr ar wefan Menywod Cymru, mae:
- Yr Athro Christine James - darlithydd, Prifardd a’r fenyw gyntaf i gael ei hethol yn Archdderwydd Gorsedd y Beirdd Ynys Prydain (2013-2016).
- Elin Rhys - gwyddonydd a sylfaenydd a rheolwr cwmni aml-gyfrwng Telesgop.
- Amy Dillwyn - awdur, diwydianwraig ac ymgyrchydd arloesol.
- Mary Wynne Warner - mathamategydd disglair a lwyddodd i oresgyn llu o anawsterau i wneud cyfraniad nodedig yn ei maes.
Bwriad tebyg i brosiect Menywod Cymru sydd y tu ôl i’r gyfres Mamwlad gyda Ffion Hague, a gynhyrchir gan Tinopolis i S4C. Yn y drydedd gyfres o Mamwlad sy’n cychwyn ar y 6ed o Fawrth, bydd Ffion Hague yn olrhain hanes nifer o ferched gan gynnwys Betsi Cadwaladr, Frances Hoggan a Morfydd Llwyn Owen.
Meddai cydlynydd prosiect Menywod Cymru, Non Vaughan Williams, sy’n Ddarlithydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol mewn Cyfryngau Digidol ym Mhrifysgol Abertawe: “Mae lansio prosiect Menywod Cymru yn ddigwyddiad cyffrous iawn i ni fel Prifysgol, gydag Academi Hywel Teifi ac S4C yn dathlu ar y cyd gyfraniad menywod mewn gwahanol feysydd.
"Ar un llaw bydd gwefan Menywod Cymru yn cynnig adnodd defnyddiol i nodi digwyddiadau megis Diwrnod Rhyngwladol Menywod ac S4C yn darlledu trydedd gyfres o Mamwlad fydd yn cychwyn ddechrau fis nesaf.
"Mae'r mentrau yma yn fodd o gynnig rolau model addas i ferched a phobl ifainc a'u hannog i wireddu eu breuddwydion.”
Dywedodd Llion Iwan, Comisiynydd Cynnwys Ffeithiol S4C:, "Un o'r pethau mae S4C eisiau gwneud mwy ohono ydi gweithio efo sefydliadau addysg a defnyddio ein rhaglenni i gefnogi gwaith yn yr ystafell ddosbarth.
"Mae Mamwlad yn rhaglen sydd yn ffitio'n berffaith ar gyfer hynny, ac rydym yn falch iawn o weithio gyda Phrifysgol Abertawe er mwyn dathlu cyfraniad merched blaenllaw ein hanes.
"Yn anffodus mae nifer o'r straeon hyn yn cael eu hanghofio, ond gyda chyfres fel Mamwlad a'r wefan newydd gan y Brifysgol, bydd eu straeon yn ein hysbrydoli unwaith eto."
Bydd trydedd gyfres Mamwlad yn dechrau ar S4C nos Sul 6 Mawrth am 7.30. Y tro yma byddwn yn clywed straeon Betsi Cadwaladr, Morfydd Llwyn Owen, Jennie Eirian, Frances Hoggan, Gwenllian ferch Gruffydd a Dora Herbert Jones.