Mwy o Newyddion
Gwaith adeiladu i ddechrau ar ffordd osgoi’r Drenewydd
Mae’r Gweinidog Trafnidiaeth, Edwina Hart wedi cyhoeddi y bydd y gwaith adeiladu ar ffordd osgoi’r Drenewydd, gwerth £53 miliwn, yn dechrau ddydd Llun, 7 Mawrth.
Mae’r contract ar gyfer y cynllun manwl, y gwaith adeiladu a gofal dilynol amgylcheddol wedi’i roi i Alun Griffiths (Contractors) Ltd (AGC).
Bydd y ffordd osgoi 6.5km yn dilyn llwybr o’r gorllewin i’r dwyrain i’r de o’r Drenewydd. Bydd y lonydd arfaethedig yn caniatâu cyfleoedd i oddiweddu yn ddiogel yn y ddau gyfeiriad, gan ddarparu lôn gerbydau 2+1.
Meddai Mrs Hart: “Bydd y ffordd osgoi yn gwella ansawdd bywyd pobl y Drenewydd ac yn gwella amseroedd teithio a diogelwch ar hyd yr A483, A489 a ffyrdd lleol y dref.
"Yn ogystal â chreu hyd at 90 o swyddi a phrentisiaethau newydd yn ystod y cyfnod adeiladu, bydd y prosiect hwn hefyd yn rhoi hwb economaidd hirdymor i’r ardal.
"Fel llywodraeth sydd o blaid busnesau, rydym yn cydnabod pwysigrwydd buddsoddi yn ein rhwydwaith cefnffyrdd i wella mynediad i safleoedd gwaith a lleihau amseroedd teithio.
"Mae’r rhan hon o’r ffordd yn cynnig cysylltiadau trafnidiaeth pwysig rhwng Gogledd a De Cymru a’r Canolbarth a gorllewin canolbarth Lloegr.”
Bydd y ffordd osgoi yn:
- dechrau ar gylchfan newydd yr A489 Llanidloes Road i’r gorllewin o’r Drenewydd
- croesi Nant Mochdre Brook a rhedeg i’r de o Ystâd Diwydiannol Mochdre
- cysylltu â’r A483 Ffordd Dolfor ar gylchfan, a fyddai hefyd yn cysylltu ag Ystâd Diwydiannol Mochdre
- croesi tir amaethyddol i gyffordd yr A489 Kerry Road
- parhau i’r de o Ystadau Diwydiannol Vastre a Dyffryn yna croesi rheilffordd Cambrian
- dod i ben ar gylchfan yr A483 Pool Road i’r dwyrain o’r Drenewydd.
Mae’r cynllun hefyd yn cynnwys gwelliannau i’r ffyrdd lleol.
Mae manylion llawn y cynllun i’w gweld ar
http://gov.wales/topics/transport/roads/schemes/a483/a483newtown
Byddai’n parhau tua’r de o Ystadau Diwydiannol Vastre a Dyffryn cyn croesi rheilffordd Cambrian, gan ddod i ben wrth gylchfan ar A483 Pool Road i’r Dwyrain o’r Drenewydd.
Byddai’r lonydd cerbydau yn cynnig cyfleoedd ysbeidiol i oddiweddyd yn ddiogel i’r ddau gyfeiriad. Yn ogystal, mae’r cynllun yn cynnwys rhai gwelliannau ar linell ar hyd Pool Road a Ffordd Newydd drwy’r Drenewydd.