Mwy o Newyddion

RSS Icon
26 Chwefror 2016

#dathludarllen ar Ddiwrnod y Llyfr 2016

Eleni eto, mae disgwyl mawr am Ddiwrnod y Llyfr a gynhelir ddydd Iau, 3 Mawrth. Bydd amryw o ddathliadau a digwyddiadau ledled Cymru ar y diwrnod yma yn nodi’r achlysur pwysig – y dathliad blynyddol mwyaf o lyfrau a darllen yn y Deyrnas Gyfunol ac Iwerddon.

Mae’r ŵyl ddarllen boblogaidd hon yn mynd o nerth i nerth, ac mae Cyngor Llyfrau Cymru yn annog darllenwyr o bob oed trwy Gymru benbaladr i ymuno yn yr hwyl a #dathludarllen.

Yn ôl Angharad Tomos, Rheolwr Cynlluniau Hyrwyddo Darllen y Cyngor, mae Diwrnod y Llyfr yn ddiwrnod arbennig yn y calendr o ddigwyddiadau darllen ac yn ysgogi pobl i afael mewn llyfr.

Meddai: “Mae llyfrau a darllen wedi’u plethu i’n bywydau trwy gydol y flwyddyn, ond mae Diwrnod y Llyfr yn gyfle arbennig i ddathlu darllen ac mae’n codi calon rhywun i weld plant ac oedolion ar draws Cymru yn cael hwyl a sbri yng nghwmni llyfr da!”

Ychwanegodd Elwyn Jones, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru: “Mae Diwrnod y Llyfr, bellach, wedi dod yn ddigwyddiad pwysig yng Nghymru ac yn cael ei ddathlu mewn ysgolion, llyfrgelloedd ac ar y cyfryngau. Pwrpas y diwrnod yw rhoi sylw i lyfrau ac i ddarllen a phwysleisio’r dewis gwych o ddeunydd darllen sydd ar gael. Unwaith eto, fe fydd gweithgareddau amrywiol yn cael eu cynnal ledled Cymru gan annog y cyhoedd i brynu llyfr a’i fwynhau.”

Yn ogystal â chefnogaeth Llywodraeth Cymru, mae ymgyrch Diwrnod y Llyfr yng Nghymru yn derbyn nawdd gan y llyfrwerthwyr Waterstones.

Meddai Steve Gane ar ran y cwmni: “Mae Waterstones yn falch o gefnogi’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru ar y cyd â Chyngor Llyfrau Cymru ar Ddiwrnod y Llyfr. Mae’r Cyngor yn chwarae rhan hanfodol yn y sector lenyddol, ac mae’n partneriaeth barhaus ar Ddiwrnod y Llyfr yn brawf o hynny.”

Yn barod, yn arwain at ddathliadau Diwrnod y Llyfr, cynhaliwyd digwyddiad mawreddog i ddathlu’r achlysur yn Abertawe. Sioe Lyfrau Fwyaf y Byd oedd enw’r digwyddiad a gwelwyd 600 o blant yn ei mynychu yn Theatr y Grand.

Mewn partneriaeth â Chyngor Llyfrau Cymru, roedd y sioe undydd rad ac am ddim yn gyfle i weld rhai o sêr mwyaf y byd llyfrau plant, gan gynnwys Steven Butler, Nick Arnold, Tony De Saulles, Knife and Packer, Huw Aaron a Dan Anthony.

“Roedd yn gyfle ardderchog i blant ddarganfod rhagor am eu hoff awduron a darlunwyr a dysgu rhai o gyfrinachau’r grefft,” esboniodd Angharad. “Roeddem wrth ein bodd bod Sioe Lyfrau Fwyaf y Byd wedi dod i Theatr y Grand. Roedd yn gyfle arbennig i blant lleol gael eu difyrru a’u hysbrydoli gan awduron gwych. Rydym yn falch iawn fod y daith wedi cychwyn yng Nghymru eleni.”

Yn dilyn y sioe lyfrau yn y bore, roedd y cyffro’n parhau yn Neuadd y Brangwyn, Abertawe, lle gwelwyd Diwrnod y Llyfr yn ceisio torri Record Byd Guinness am y nifer fwyaf o blant yn cymryd rhan mewn cwisiau llyfrau ar yr un pryd. Bu dros 200 o blant rhwng 9 a 13 mlwydd oed o ysgolion ledled de Cymru yn cymryd rhan yn y digwyddiad yn y Brangwyn, a miloedd mwy yn cymryd rhan dros Brydain gyfan! Tybed a wnaethant lwyddo i dorri’r record? Cewch wybod y canlyniad ar Ddiwrnod y Llyfr!

Rhywbeth arall fydd yn cael ei lansio ar Ddiwrnod y Llyfr, 3 Mawrth, fydd sioe theatr mewn addysg newydd ar gyfer ysgolion a llyfrgelloedd sydd yn dathlu gwaith y storïwr byd-enwog, Roald Dahl. Menter ar y cyd rhwng Cyngor Llyfrau Cymru a chwmni theatr i blant Mewn Cymeriad / In Character yw hon, a bydd y sioe yn rhan o ddathliadau swyddogol canmlwyddiant yr awdur yng Nghymru.

Yn dilyn llwyddiant creu sialens #hunlyfr am y tro cyntaf i ddathlu Diwrnod y Llyfr llynedd, roeddem eisiau ysgogi’r un bwrlwm eto eleni a cheisio casglu mwy fyth ohonynt!

“Ein bwriad yn syml,” meddai Angharad, “yw annog plant, disgyblion ysgol, rhieni a phobl ledled Cymru i dynnu hunlun yn eu dangos yn darllen neu’n dal llyfr, ac i lwytho’r llun ar ffrwd Twitter @DYLLCymruWBDWales. Wrth greu casgliad helaeth o hunluniau #hunlyfr, gallwn ddangos i’r byd bod Cymry o bob oed am ddathlu darllen, a’u bod wrth eu bodd â llyfrau o bob math.”

Yr actor Chris Kinahan o sioe theatr Mewn Cymeriad fydd yn lansio ein sialens #hunlyfr eleni, a chewch gipolwg ar gymeriad newydd y bydd Chris yn ei bortreadu yn ystod 2016. Caiff y sialens ei chyhoeddi ar Ddydd Gŵyl Dewi, ychydig ddyddiau cyn Diwrnod y Llyfr ei hun.

Un o uchafbwyntiau Diwrnod y Llyfr yw’r ddarlith flynyddol a gynhelir eleni yn y Pierhead, Bae Caerdydd, nos Fawrth, 1 Mawrth. Y siaradwr gwadd fydd Meilyr Rowlands, y Prif Arolygydd Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru. Testun ei sgwrs fydd ‘Beth sydd werth ei ddysgu? Hanes personol drwy lyfrau’. Darperir lluniaeth ysgafn am 6.00 pm a’r ddarlith i ddechrau am 6.30 pm. Mae hon yn ddarlith i wahoddedigion yn unig wedi ei noddi gan Huw Lewis AC. Bydd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates, hefyd yn mynychu’r digwyddiad.

Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn falch o gydnabod cyfraniad hael tuag at y ddarlith gan Mererid ac Angharad Puw Davies er cof am eu rhieni, Roger a Catrin Puw Davies, a gyfrannodd gymaint i’r byd llyfrau yng Nghymru. Cysylltwch â Menai Williams ar 01970 624151 am ragor o wybodaeth: menai.williams@llyfrau.cymru

Rhannu |