Mwy o Newyddion
Galw ar lywodraeth y DU i symud ymlaen â buddsoddiad seilwaith er mwyn rhyddhau potensial economi Gwynedd
Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts wedi annog Ysgrifennydd Gwladol Cymru i wneud popeth o fewn ei allu i ddod â buddsoddiad seilwaith sylweddol i Ddwyfor Meirionnydd a rhyddhau potensial enfawr yr ardal, wrth i ffigurau diweddar ddatgelu fod cyflogau wythnosol cyfartalog yn yr etholaeth wedi gostwng yn sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf.
Yn ystod Cwestiynau Cymru yn Nhŷ'r Cyffredin, anogodd Liz Saville Roberts AS y Llywodraeth i gadarnhau pa gynnydd sy’n cael ei wneud i ddatblygu Porth Gofod cyntaf-erioed y DU yn Llanbedr ac Adweithydd Modiwlar Bach (SMR) yn Nhrawsfynydd, y ddau brosiect â’r potensial i greu canoedd o swyddi yn lleol.
Dywedodd Liz Saville Roberts: “Mae cyflog gweithwyr llawn amser cyfartalog yn Nwyfor Meirionnydd wedi gostwng 12.0% i £400 yr wythnos yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.
"Mae'r gostyngiad yma yng nghyflogau gweithwyr wedi cael ei gymhlethu gan farchnad swyddi ansicr a gorddibyniaeth ar gyflogaeth dymhorol. Mae diffyg buddsoddiad y Llywodraeth mewn swyddi o ansawdd sy’n talu’n dda wedi cyfrannu at y sefyllfa fregus.
“Mae Dwyfor Meirionnydd yn dioddef yn anghymesurol pan ddaw i gyflogau da a chyfleoedd cyflogaeth uchel a medrus.
"Byddai sicrhau prosiectau seilwaith allweddol fel Porth Gofod ac Adweithydd Modiwlar Bach yn Nhrawsfynydd yn helpu i ryddhau potensial economaidd yr etholaeth ac yn cyfrannu at gymysgedd amrywiol yr ardal o ran cyflogwyr.
“Mae dadl economaidd gadarn ar gyfer datblygu Porth Gofod yn Llanbedr a’r Adweithydd Modiwlar Bach yn Nhrawsfynydd.
"Mae'r etholaeth yn syrthio y tu ôl i ardaloedd eraill o ran cyflogau gweithiwyr ac mae'n debygol y bydd y duedd hon yn parhau oni bai fod ymrwymiad difrifol ac uniongyrchol yn cael ei addo gan y Llywodraeth i fuddsoddi yn seilwaith Dwyfor Meirionnydd.
“Mae'n rhaid i Lywodraeth y DU ddarparu y meini prawf gweithredol ar gyfer y Porth Gofod a'r Adweithydd Modiwlar Bach yn Nhrawsfynydd fel bod y rhai sy'n gweithio yn lleol i sicrhau y buddsoddiad enfawr hwn yn gallu ymrwymo adnoddau pellach i ddod â’r buddsoddiad mawr yma i'r ardal gan roi cyfle i bobl lleol geisio am swyddi tymor hir ac o safon da.”