Mwy o Newyddion

RSS Icon
26 Chwefror 2016

Ysgoloriaeth ar gyfer pobl ifainc y Wladfa

Yn dilyn marwolaeth ei dad T.B. Gravell rai blynyddoedd yn ôl penderfynodd David Gravell o Gwmni Gravells Cydweli sefydlu Ysgoloriaeth ar gyfer pobl ifainc y Wladfa i astudio am dymor yng Ngholeg Llanymddyfri.

Eleni dewiswyd bachgen deunaw oed o'r enw Ryan Lloyd sy'n dod o dref Esquel yn yr Andes.

Mae Ryan wedi mynychu'r dosbarthiadau Cymraeg a gynhelir yn y Ganolfan yn Esquel ers nifer o flynyddoedd ac yn mwynhau pob cyfle a gaiff i sgwrsio yn y Gymraeg.

Yn ystod ei arhosiad yn y coleg yn Llanymddyfri mae'n astudio Cymraeg, Sbaeneg a Saesneg.

Mae hefyd yn ymweld yn wythnosol ag Ysgol Rhys Pritchard ac yn cynorthwyo'r plant gyda'u Cymraeg.

Yn y llun caiff gwmni Hazel Charles Evans, Llandybïe, yr athrawes gyntaf i fynd i'r Andes o dan y Cynllun Dysgu a ddaeth i fod ym 1997 a Ceris Gruffudd, ysgrifennydd Cymdeithas Cymru-Ariannin.
 

Rhannu |