Mwy o Newyddion
Ffigurau newydd yn dangos bod practisau meddygon teulu yng Nghymru ar agor yn hirach
Mae ffigurau newydd a gafodd eu cyhoeddi heddiw yn dangos bod mwy o bractisau meddygon teulu yng Nghymru ar agor yn hirach. Mae hyn yn golygu ei bod hi’n haws i bobl gael mynediad at wasanaethau iechyd.
Dywedodd Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, fod y ffigurau yn dangos yn glir bod Llywodraeth Cymru yn cyflawni un o brif flaenoriaethau ei rhaglen lywodraethu.
Mae’r ystadegau a gafod eu cyhoeddi heddiw yn dangos yn 2015 fod:
- 82% o bractisau meddygon teulu ar agor ar gyfer yr oriau craidd dyddiol (8am i 6.30pm o ddydd Llun i ddydd Gwener) neu o fewn un awr i’r oriau craidd, o ddydd Llun i ddydd Gwener, i fyny o 60% yn 2011
- 97% o bractisau yn cynnig apwyntiadau ar unrhyw amser rhwng 5pm a 6.30pm o leiaf ddau ddiwrnod yr wythnos, i fyny o 92% yn 2011
- 79% o bractisau yn cynnig apwyntiadau ar unrhyw amser rhwng 5pm a 6.30pm bob dydd, i fyny o 63% yn 2011
- Canran y practisau sydd ar gau am hanner diwrnod yn ystod yr wythnos wedi syrthio o 19% yn 2011 i 4% yn 2015.
Dywedodd yr Athro Drakeford: “Yn 2011, gwnaethom ni ymrwymiad i bobl Cymru y byddem ni yn ei gwneud hi’n haws iddyn nhw gael mynediad at wasanaethau meddygon teulu.
"Mae’r ffigurau a gafodd eu cyhoeddi heddiw yn dangos ein bod ni’n dal i gyflawni ar yr ymrwymiad hwnnw.
“Mae meddygon teulu yn arwain y ffordd i ddiwallu anghenion pobl yn lleol, yn enwedig y rheini sydd ag anghenion cymhleth.
"Mae’n glir bod practisau meddygon teulu ar hyd a lled Cymru yn gweithio’n galed i ymestyn eu horiau agor ar ôl 5pm ac i osgoi cau am hanner diwrnod yr wythnos. Maen nhw’n sicrhau bod apwyntiadau ar gael i bawb.
"Mewn cyfnod o galedi, yr wyf yn falch ein bod wedi gallu buddsoddi arian newydd ym maes gofal sylfaenol, drwy ein cynllun gofal sylfaenol.
"Mae’n bwysig bod mynediad i wasanaethau yn gwella er mwyn sicrhau fod pobol yn derbyn y gofal cywir, ar yr amser cywir, gan y person cywir.
"Efallai mai gweithiwr proffesiynol arall, fel fferyllydd, ffisiotherapydd, nyrs neu weithiwr cymdeithasol neu gynrychiolydd o sefydliad gwirfoddol lleol yw’r person cywir hwnnw.”
Mae Llywodraeth Cymru yn dal i weithio gyda chynrychiolwyr meddygon teulu a byrddau iechyd i annog mesurau i wella mynediad i gleifion.
Mae mwy na £40 miliwn wedi cael ei fuddsoddi yn 2015-16 i ddatblygu gwasanaethau gofal sylfaenol ar hyd a lled Cymru.
"Bydd hyn yn adeiladu ar gynllun gofal sylfaenol Llywodraeth Cymru i symud gofal o’r ysbyty i’r gymuned leol ac i wella mynediad at wasanaethau gofal sylfaenol, cymunedol a gwasanaethau cymdeithasol ataliol ac integredig."