Mwy o Newyddion
Mynd i’r afael â firws Zika
Mae ymchwil newydd ym Mhrifysgol Abertawe wedi dangos y gellir defnyddio bacteria ym mherfeddyn pryfed sy'n cario clefydau – gan gynnwys y mosgito, sy'n cario'r firws Zika – fel ceffyl pren Troea i helpu i reoli poblogaeth y pryfed.
Dangosodd y canlyniadau ostyngiad o hyd at 100% mewn ffrwythlondeb a chynnydd o 60% yng nghyfradd marwolaeth larfau, ymhlith y pryfed a astudiwyd.
Daw'r canfyddiadau, a gyhoeddir heddiw yn Proceedings of the Royal Society B, wrth i Sefydliad Iechyd y Byd ofyn am archwilio pob dull, gan gynnwys ymchwil sy'n defnyddio technoleg enynnol, wrth fynd i'r afael â'r firws Zika.
Mae canfyddiadau tîm Abertawe'n cynnig y posibilrwydd o ymagwedd dargedu at reoli pryfed, gan dargedu'r pryfyn dan sylw yn unig, heb anfanteision sylweddol plaladdwyr cemegol, megis niwed amgylcheddol, risgiau iechyd a chynnydd ym ymwrthedd y pryfed.
Enw'r dechnoleg sydd wrth wraidd gwaith y tîm yw RNAi, sef proses naturiol sy'n defnyddio celloedd i leihau, neu atal, gweithgarwch genynnau penodol, er enghraifft, y genynnau sy'n rheoli ffrwythlondeb. Defnyddia'r dechneg, a elwir yn RNAi symbiont-gyfryngol, facteria cyfeillgar (symbiotig) ym mherfeddyn y pryfyn fel ceffyl pren Troea i orchymyn genynnau targed y pryfyn i "ddifodd".
Yn arwyddocaol, adrodda'r tîm y byddai'r dechneg yn drosglwyddadwy i nifer o rywogaethau pryfed, gan gynnwys mosgitos y dwymyn, sy'n cario'r firws Zika.
Mae'r dull yn cynnwys adnabod bacteriwm priodol ym mhob pryfyn i weithredu'r RNAi. Mae'r bacteria yn benodol i'r pryfyn hwnnw, ac ni allant fyw y tu allan iddo.
Mae nifer o fanteision amrywiol i'r dechneg o'i chymharu â phlaladdwyr eraill:
- Mae'n targedu'r rhywogaeth dan sylw yn benodol, ac nid yw'n niweidio pryfed eraill, fel gwenyn a pheillwyr eraill.
- Nid oes risg o niwed amgylcheddol a niwed i iechyd dynol.
- Nid yw pryfed yn magu ymwrthedd iddi yn yr un ffordd ag y gwnânt i blaladdwyr cemegol.
Meddai’r Athro Paul Dyson o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe: “Mae'r dechnoleg hon yn ein galluogi i dargedu pryfed yn llawer mwy effeithiol na plaladdwyr confensiynol, ac heb y sgîl-effeithiau.
"Mae defnyddio bacteria fel ceffyl pren Caerdroea yn ffordd o oresgyn y problemau mewn cyflwyno RNAi i’r pryfed. Mae’n symudiad sylweddol. Gall gynorthwyo i drin rhai o’r plâu pryfed a chnydau sy’n cael cymaint o effaith ddinistriol ar iechyd dynol a’r gadwyn fwyd. Mae gan mosgito’r dwymyn, sydd â’r firws, facteria a fyddai’n addas.”