Mwy o Newyddion

RSS Icon
24 Chwefror 2016

Y Prif Weinidog yn croesawu Aston Martin i Gymru

Bu Carwyn Jones y Prif Weinidog yn croesawu Aston Martin i Gymru yn swyddogol wrth i’r gwneuthurwr ceir eiconig o Brydain gyhoeddi ei fod wedi dewis Sain Tathan ym Mro Morgannwg fel safle ei ail ganolfan weithgynhyrchu.  

Bydd y ganolfan weithgynhyrchu newydd, a sicrhawyd gyda chymorth Llywodraeth Cymru, yn erbyn cystadleuaeth gref gan dros 20 o leoliadau eraill posibl ledled y byd, gan gynnwys Gogledd America a’r Dwyrain Canol, yn golygu y bydd Aston Martin yn cynhyrchu ei gerbyd newydd DBX yng Nghymru o 2020.

Bydd yn creu mwy na 750 o swyddi hynod ddawnus yn Sain Tathan, gyda 1,000 o swyddi eraill yn cael eu creu ar draws y gadwyn gyflenwi a busnesau lleol o ganlyniad uniongyrchol i’r buddsoddiad.  

Gwnaeth Prif Swyddog Gweithredol Aston Martin, Dr Andrew Palmer y cyhoeddiad heddiw mewn digwyddiad yng nghanolfan Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathys, Caerdydd gyda’r Prif Weinidog Carwyn Jones ac Edwina Hart, Gweinidog yr Economi.  Cafodd prototeip o’r cerbyd DBX newydd ei ddadorchuddio o flaen y swyddfeydd. 

Meddai Carwyn Jones, y Prif Weinidog: “Dwi’n falch o groesawu’r Aston Martin yn swyddogol i Gymru.

"Rydyn ni wedi bod yn cydweithio’n agos â’r cwmni am bron i ddwy flynedd, gan wynebu cystadleuaeth ffyrnig gan safleoedd posibl eraill ledled y byd.

"Mae ein llwyddiant heddiw yn dyst o  enw da, ymroddiad a sgiliau y gweithlu yng Nghymru, y rhagoriaethau sy’n gweddu i frand mor foethus â’r Aston Martin, sy’n cael ei gynhyrchu â llaw.

“Heddiw yw dechrau perthynas hirdymor rhwng Cymru ac Aston Martin.

"Byddwn yn cydweithio i greu sylfaen gref i’n partneriaeth i feithrin dyfodol llewyrchus i’r cwmni eiconig hwn a’i weithlu dawnus yng Nghymru.”

Meddai Edwina Hart, Gweinidog yr Economi: “Mae penderfyniad Aston Martin i fuddsoddi yn ei weithfeydd newydd yn Sain Tathan yn nodi cyfnod pwysig yn hanes y sector moduro yng Nghymru.

"Mae gennym dros 150 o gwmnïau sy’n rhan o’r gadwyn gyflenwi fodurol, gan gyflogi dros 18,000 o bobl a chynhyrchu dros £3biliwn i economi Cymru, ond dyma fydd y tro cyntaf mewn bron i 50 o flynyddoedd inni weld cerbydau yn dod oddi ar linell gynhyrchu yng Nghymru. 

“Rydym wedi  ymrwymo i weithio mewn partneriaeth ag Aston Martin i sicrhau bod y safle, yng nghanol Ardal Fenter Maes Awyr Caerdydd a Sain Tathan, yn parhau i gyd-fynd ag uchelgeisiau’r cwmni o ran unrhyw dwf yn y dyfodol, ac mae’n cynnig gwaith dawnus iawn a phrentisiaethau o safon fyd-eang yn y sector moduro am genedlaethau lawer.”

Meddai Dr. Andrew Palmer, Prif Swyddog Gweithredol Aston Martin: “Yn ystod ein 103 o flynyddoedd fel cwmni, mae Aston Martin wedi dod yn enwog am wneud ceir â llaw yn Lloegr.

"Drwy werthuso dros 20 o leoliadau posibl yn fanwl ledled y byd ar gyfer y ganolfan weithgynhyrchu newydd hon, rydym yn cael ein synnu yn aml gan y pwyslais sydd ar ansawdd, cost a chyflymder tîm Llywodraeth Cymru.

"Fel cwmni gwych o Brydain, rydym yn edrych ymlaen at weld Sain Tathan yn ymuno â Gaydon fel ein hail ganolfan weithgynhyrchu â llaw i gyrraedd safon uchel iawn,” meddai Palmer.
 

Rhannu |