Mwy o Newyddion

RSS Icon
23 Chwefror 2016

Chwilio am arlunydd y Ddraig Goch

Cafodd baner Ddraig Goch Cymru ei gwneud yn faner swyddogol y wlad mewn cyfarfod cabinet ar y 23 o Chwefror 1959 wedi ymgyrch hir wedi ei harwain gan Orsedd yr Eisteddfod.

Ond, ymddengys y cymerodd hyd at  arwisgo’r Tywysog Siarl yn 1969 cyn i ddyluniad y ddraig goch bresennol gael ei gymeradwyo.

Hoffai Siôn Jobbins, awdur llyfr newydd ar y faner a gyhoeddwyd yr wythnos hon, ddod o hyd i bwy oedd yr arlunydd dirgel a oedd yn gyfrifol am y cynllnu sydd ganddom ni heddiw.

Meddai: "Mae’n amlwg bod sawl cynllun a darlun gwahanol o’r ddraig wedi bod cyn 1969 – rhai gyda’r gynffon a’r grafanc yn pwyntio am i lawr, er enghraifft.

"Ond, wrth i’r paratodau am yr arwisgo agosau mae’n debyg bod penderfyniad wedi bod i greu un cynllun cyffredinol.

"Tybiaf fod y cyfrifoldeb hyn wedi ei roi i gwmni graffeg ac, os felly, mae’n rhaid mai un person sydd yn gyfrifol am greu y ddraig fel mae hi nawr.

"Mae diddordeb mawr gennyf mewn dylunio – yn enwedig y darluniau bob dydd hyn rydym yn dueddol eu cymryd yn ganiataol.

"O safbwynt Cymreig, does dim byd sydd yn fwy hollbresennol na’r Ddraig Goch.

"Byddwn i wrth fy modd ddod o hyd i’r un gynulliodd hi. Mae’n drueni mawr bod dylunydd motif mor eiconig yn anhysbys."S

Cafodd Sion Jobbins ei eni yn Zambia a’i fagu yng Nghaerdydd. Fe hefyd yw awdur y llyfr poblogaidd The Welsh National Anthem: its story, its meaning hefyd wedi ei chyhoeddi gan Y Lolfa.

Mae The Red Dragon – The Story of the Welsh Flag yn gyfrol lliw llawn lluniau ac yn siwr o apelio at ymelwyr a brodorion i Gymru fel ei gilydd (£3.99, Y Lolfa).

Rhannu |