Mwy o Newyddion
Gweithredu brys ei angen gan y llywodraeth i helpu ffermwyr llaeth Cymru
Mae’r Arglwydd Dafydd Wigley o Blaid Cymru wedi galw ar Lywodraeth y DU i drin yr argyfwng sy'n wynebu'r diwydiant llaeth yng Nghymru gyda'r difrifoldeb y mae'n ei haeddu, ymysg ofnau i hyfywedd y diwydiant yn y dyfodol ac yn arbennig ffermydd llaeth teuluol sy'n dwyn ??baich anwadalrwydd y farchnad laeth.
Yn ystod ymyriad yn Nhŷ'r Arglwyddi, dywedodd yr Arglwydd Wigley: “Hyderaf bod y Gweinidog yn ymwybodol bod ffermydd llaeth teuluol a’u cefnau yn erbyn y wal?
“Mae'r prisiau a dderbynir ffermwyr llaeth nid yn unig yn llai na'r pris llawn o gynhyrchu ond yn llai na phris ymylol o gynhyrchu, a bydd cannoedd yn mynd allan o fusnes.
"Erfynaf ar y Llywodraeth i gymryd y mater hwn o ddifrif a gwneud rhywbeth am y peth?"
Ychwanegodd yr Arglwydd Dafydd Wigley: “Mae'n hen bryd i’r Llywodraeth gydnabod maint yr argyfwng sy'n wynebu ffermwyr llaeth yng Nghymru.
“Mae'r diwydiant llaeth yn rhan annatod o'r economi wledig yng Nghymru. Mae'r sefyllfa bresennol yn anghynaliadwy, ac yn rhoi ffermwyr Cymru mewn sefyllfa ansicr iawn.
“Mae'r pris llaeth a delir i ffermwyr llaeth wedi gostwng yn sylweddol dros y deuddeg mis diwethaf, er y bu ychydig iawn o newid yn y prisiau ar-y-silff i ddefnyddwyr yn ein harchfarchnadoedd.
“Os yw’r sector llaeth yng Nghymru am ffynnu a datblygu, yna mae angen i'r gadwyn gyflenwi weithio ar gyfer cynhyrchwyr a phroseswyr, nid dim ond yr archfarchnadoedd.
“Dylai'r Llywodraeth fod yn gwneud popeth o fewn eu gallu i helpu ein diwydiant llaeth sydd dan bwysau a thrin y sefyllfa hon gyda'r difrifoldeb y mae'n ei haeddu.”