Mwy o Newyddion

RSS Icon
26 Mai 2011

Cynllun iaith newydd

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cyhoeddi ei bedwerydd Cynllun Iaith Gymraeg. Derbyniwyd y Cynllun gan y Cyngor llawn a chymeradwywyd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg yn ddiweddar.


Datblygwyd y Cynllun yn unol â Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 sy’n nodi ei bod hi’n ofynnol i gyrff cyhoeddus yng Nghymru fabwysiadu a gweithredu Cynlluniau Iaith Gymraeg.


Dywedodd y Cyng. Clive Scourfield, yr aelod o’r bwrdd gweithredol gyda chyfrifoldeb dros yr iaith Gymraeg: “Mae’r Cynllun yn disgrifio sut y bydd y Cyngor yn trin y Gymraeg a’r Saesneg ar sail gyfartal wrth gynnig a darparu gwasanaethau a chyfathrebu gyda’r cyhoedd yn Sir Gaerfyrddin.


“Mae’r Cynllun hwn yn gosod her a sialens newydd i’r Awdurdod, wrth sicrhau ei fod yn darparu gwasanaethau o safon yn y Gymraeg.”


Lluniwyd Rhaglen Weithredu i gyd fynd gyda’r Cynllun sy’n amlinellu’r hyn y mae’n bwriadu gwneud i hyrwyddo’r iaith Gymraeg am y dair blynedd nesaf. Mae’r Rhaglen yn cynnwys cynyddu nifer y staff sy’n gweithio’n ddwyieithog trwy amryw brosiectau, sefydlu rhwydwaith o lysgenhadon iaith ac ehangu’r nifer o fentoriaid ar gyfer y dysgwyr.


Bydd y Cyngor yn gweithio’n benodol gyda rhai adrannau megis y Canolfannau Hamdden sy’n darparu gwasanaethau cymunedol i blant a phobl ifanc.


Os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth neu os ydych chi eisiau copi o’r Cynllun Iaith, cysylltwch â’r Cyngor ar 01267 224008 neu e-bostiwch IaithGymraeg@sirgar.gov.uk

Rhannu |