Mwy o Newyddion
Plant yn stopio 22 o yrwyr am oryrru y tu allan i ysgol
Cafodd oddeutu 22 o yrwyr eu stopio gan blant o Ysgol Nantgaredig am oryrru y tu allan i'w hysgol.
Yn ogystal cafodd pedwar gyrrwr a chwe chyd-deithiwr arall eu stopio am beidio â gwisgo gwregys diogelwch.
Cafodd y disgyblion gwmni swyddogion o Uned Diogelwch Ffyrdd y Cyngor yn ogystal â swyddogion o Heddlu Dyfed-Powys a Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Cafodd y gyrwyr a gafodd eu dal ddewis o un ai esbonio wrth y disgyblion pam yr oedden nhw'n gyrru'n rhy gyflym y tu allan i'w hysgol neu dderbyn dirwy a phwyntiau ar eu trwydded.
Bu'n rhaid i'r rhai a gafodd eu dal heb wregys diogelwch fynd i gyflwyniad diflewyn ar dafod yn yr orsaf dân ynghylch canlyniadau dinistriol peidio â gwisgo gwregys diogelwch.
Cafodd un gyrrwr ei stopio am yrru ar gyflymder o fwy na 40mya mewn parth 30mya a pheidio â gwisgo gwregys diogelwch ynghyd â 4 cyd-deithiwr (roedd e'n gyrru cerbyd gwaith). Trwy ddewis siarad â'r plant a mynd i gyflwyniad yn yr orsaf dân, llwyddodd i osgoi cael o leiaf 3 phwynt ar ei drwydded yrru a dirwy sylweddol.
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Drafnidiaeth: "Mae'r fenter hon yn tynnu sylw at y peryglon ac yn cynyddu ymwybyddiaeth, ymysg gyrwyr a phlant, o beryglon gyrru'n rhy gyflym ger ysgolion.
“Mae diogelwch yn hollbwysig ac mae gorfod wynebu'r plant ac ateb eu cwestiynau yn gallu bod yn brofiad sy'n sobreiddio’r gyrwyr.
“Ein gobaith yw y bydd y mathau hyn o fentrau yn gwneud i bobl feddwl am eu cyflymder wrth deithio, yn enwedig y tu allan i ysgolion ynghyd â phwysigrwydd gwisgo gwregys diogelwch. Gallai gwregys diogelwch achub eich bywyd mewn damwain ffordd."
Dywedodd Dylan Evans, Rheolwr Diogelwch Cymunedol Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru: “Fel diffoddwyr tân, rydym yn gweld canlyniadau goryrru a pheidio â gwisgo gwregysau diogelwch yn rhy aml o lawer. Mae cydweithio â'n partneriaid yn y modd hwn yn hanfodol er mwyn cyfleu'r neges i ddefnyddwyr ffordd er mwyn i ni allu gwneud gwahaniaeth a lleihau nifer y bobl sy'n cael eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol ar ein ffyrdd.
“Mae'r gwaith rydym ni'n ei wneud yn Sir Gaerfyrddin yn rhan o'n Cynllun Strategol Diogelwch ar y Ffyrdd. Rydym ni eisiau i'r holl ddefnyddwyr ffordd leihau eu cyflymder a chofio gwisgo'u gwregysau diogelwch ar bob siwrnai. Rydym yn gweithio gyda'r heddlu a thimau diogelwch ffyrdd y Cynghorau er mwyn cyfleu'r neges hon.
“Mae pob damwain ffordd sy'n achosi marwolaeth neu anafiadau difrifol yn effeithio ar deulu a ffrindiau'r rhai sy'n rhan o'r ddamwain yn ogystal â'r gymdeithas yn ei chyfanrwydd. Gall unrhyw un sydd eisiau rhagor o wybodaeth ynghylch bod yn yrrwr mwy diogel neu ein helpu ni i leihau nifer y bobl sy'n cael eu lladd neu eu hanafu ar ein ffyrdd gysylltu â Neil Evans, ein Rheolwr Diogelwch Ffyrdd drwy ffonio 0370 60 60 699.”