Mwy o Newyddion
Hwb i ymdrechion effeithlonrwydd ynni
Heddiw mae'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol, Carl Sargeant, wedi lansio Strategaeth Effeithlonrwydd Ynni newydd. Bydd yn chwarae rôl fawr mewn sbarduno twf economaidd, mynd i'r afael â thlodi tanwydd a gwella effeithlonrwydd ynni.
Mae'r strategaeth newydd yn pennu cyfeiriad clir ar gyfer y 10 mlynedd nesaf a sut y gallwn helpu pob sector i weithredu.
Gan lansio'r strategaeth, dywedodd Carl Sargeant: "Mae defnyddio ynni'n fwy effeithlon yn gynnig cyfle mawr i sicrhau twf gwyrdd, drwy swyddi a sgiliau newydd a chadwyn gyflenwi sy'n ffynnu. Dyma'r ffordd fwyaf costeffeithiol o wireddu'n hymrwymiadau i leihau allyriadau carbon tra'n gostwng pris ynni i fusnesau a'r sector cyhoeddus. Mae'n delio hefyd yn uniongyrchol â thlodi tanwydd drwy leihau costau gwresogi cartrefi pobl sy'n agored i niwed.
“Mae Cymru wedi arwain y ffordd wrth wireddu gweledigaeth ar gyfer effeithlonrwydd ynni a fydd yn creu manteision amryfal ar draws y nodau a nodwyd yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Bydd yn lleihau'r defnydd o ynni ac allyriadau carbon, yn creu swyddi, ac yn trechu tlodi a'i holl sgileffeithiau.
“Mae'r farchnad ynni'n gweddnewid yma yng Nghymru a thu hwnt. Mae sicrhau bod pob sector, cartref, busnes a'n sector cyhoeddus yn defnyddio llai o ynni'n hanfodol er mwyn inni allu ymateb i'r newidiadau hyn.
“Mae'r strategaeth yn cydnabod bod dulliau gweithredu gwahanol yn briodol ar gyfer grwpiau gwahanol ac mae'n ceisio sicrhau bod ystod o gymorth ariannol ar gael.
“Mae'r strategaeth hon yn nodi'r camau y mae angen i bob un ohonom eu cymryd i greu manteision go iawn i'n cymdeithas, ein heconomi a'n hamgylchedd. Mae'n hollbwysig i les hirdymor pobl yng Nghymru, a bydd yn cadarnhau bod Cymru'n fodel o arfer gorau mewn datblygu cynaliadwy."
I gefnogi lansiad y strategaeth effeithlonrwydd ynni, mae'r Gweinidog Cyllid, Jane Hutt, wedi cyhoeddi y bydd Cronfa Twf Gwyrdd Buddsoddi i Arbed newydd yn cael ei chreu ac yn buddsoddi dros £9m mewn prosiectau i helpu i leihau allyriadau carbon.
Bydd y fenter genedlaethol newydd yn adeiladu ar lwyddiant y cynllun Buddsoddi i Arbed ac yn cynnig grantiau ad-daladwy i sector cyhoeddus Cymru i greu arbedion effeithlonrwydd o ran ynni ac arian.
Bydd y prosiectau canlynol yn elwa o'r buddsoddiad newydd gwerth £9m drwy Gronfa Twf Gwyrdd Buddsoddi i Arbed:
- £2.7 miliwn i osod goleuadau stryd LED yng Nghyngor Sir Fynwy, Cyngor Gwynedd a Chyngor Wrecsam;
- £333,000 er mwyn i Cyfoeth Naturiol Cymru weithredu amrywiaeth o fesurau effeithlonrwydd ynni;
- £4 miliwn i osod goleuadau LED ar rannau o rwydwaith cefnffyrdd Llywodraeth Cymru; a
- £2.1 miliwn i helpu prosiectau effeithlonrwydd ynni mewn amrywiaeth o safleoedd Cyngor Dinas Caerdydd.
Mae'r prosiectau newydd hyn, ynghyd â phrosiectau Buddsoddi i Arbed blaenorol, yn golygu bod £13 miliwn wedi'u buddsoddi mewn prosiectau effeithlonrwydd ynni dros y 12 mis diwethaf. Bydd y buddsoddiad hwn yn creu gwerth £2.4 miliwn o arbedion ariannol y flwyddyn ac yn arbed dros 8,000 tunnell y flwyddyn o allyriadau carbon.
Dywedodd y Gweinidog Cyllid: “Mae'n bleser gennyf gyhoeddi Cronfa Twf Gwyrdd Buddsoddi i Arbed newydd gyda thros £9m ar gyfer prosiectau i helpu sector cyhoeddus Cymru i gyrraedd ei thargedau i leihau allyriadau carbon. Gan adeiladu ar lwyddiant y cynllun Buddsoddi i Arbed, bydd y fenter genedlaethol newydd hon o fantais i bawb yn sector cyhoeddus Cymru - drwy leihau allyriadau carbon a chreu arbedion effeithlonrwydd arian parod."