Mwy o Newyddion
Llond bag o gefnogaeth i faes chwarae Lan Môr Y Felinheli
Mae Cyngor Cymuned Y Felinheli wedi llwyddo i ennill arian o gynllun ‘Bags of Help’ cwmni siopau Tesco. Roedd yna gystadleuaeth brwd am yr arian gyda bron i 5,000 o geisiadau ar gyfer 1,200 o brosiectau.
Prosiect i wella ansawdd ardal y cae chwarae ar Lan y Môr, Y Felinheli oedd dan sylw yn y cais am arian. Mae ennill yr arian yn galluogi datblygiadau sydd yn cynnwys
- prynu offer sydd yn addas ar gyfer plant mewn cadeiriau olwyn i fedru chwarae gyda’u cyfoedion
- prynu a phlannu planhigion yn yr ardal.
Mi fydd y prosiect felly, nid yn unig yn rhoi cyfle i blant anabl gael defnyddio yr ardal chwarae ond hefyd yn harddu yr ardal.
Dywedodd cynghorydd Nerys John ar ran y Cyngor Cymuned: “Mae Lan y Môr yn adnodd arbennig iawn i’r pentref ac felly, mae unrhyw welliannau i’w croesawu.
"Rhywbeth gwerth chweil ar gyfer trigolion y pentref ac i’r bobl sydd yn ymweld mewn car, ar droed, ar feic neu ar gwch!”
Mae ‘Bags of Help’ Tesco yn cael ei redeg ar y cyd a Groundwork yn Lloegr ac yng Nghymru.
Dewisir 3 prosiect i’w cefnogi mewn gwahanol ardaloedd ac yna fe roddir cyfle i’r cyhoedd bleidleisio am ba un o’r prosiectau sydd mwyaf haeddiannol.
Rhoddir £12,000 i’r prosiect sydd yn dod i’r brig, yna £10,000 i’r ail ac £8,000 i’r trydydd.
Meddai Sian Gwenllian, Cynghorydd Sir Y Felinheli: “Rwyf yn gefnogol iawn i’r cynllun hwn ac yn llongyfarch y Cyngor Cymuned am eu hymdrechion.
"Rwyf yn annog pawb i bleidleisio dros prosiect Lan y Môr Y Felinheli ac yn edrych ymlaen yn fawr at gael gweld y datblygiadau yn cael eu gwireddu.”
Bydd cyfle i bawb bleidleisio eu cefnogaeth i brosiect Lan y Môr Y Felinheli yn siopau Tesco Bethesda, Bangor, Caernarfon neu Porthmadog rhwng 27ain Chwefror a 6ed o Fawrth.
Dyma gyfle i bawb dangos eu cefnogaeth gan greu adnodd ar gyfer plant anabl a’u cyfoedion a harddu’r llecyn arbennig hwn ar lan y Fenai.