Mwy o Newyddion

RSS Icon
23 Chwefror 2016

Her Llywodraeth Cymru i'w Safonau Iaith eu hunain, 'yn groes i hawliau dynol' medd Cymdeithas

Mae Llywodraeth Cymru wedi herio eu dyletswyddau statudol eu hunain i ddarparu hawliau i'r Gymraeg a gafodd eu pasio'n unfrydol yn y Cynulliad flwyddyn yn ôl.   

Mae wedi dod i'r amlwg heddiw bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud cais i herio'r Safonau, rheoliadau sy'n gosod allan dyletswyddau i greu hawliau i'r cyhoedd a gweithwyr i ddefnyddio'r Gymraeg. Cafodd y rheoliadau eu llunio gan weision sifil Llywodraeth Cymru a chafodd eu cyflwyno i'r Cynulliad ganddyn nhw.  

Mewn hysbysiad sydd wedi ei gyhoeddi ar wefan Comisiynydd y Gymraeg, datgelir bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud cais i herio dau o'r dyletswyddau iaith newydd – un i ddarparu dogfennau at ddefnydd y cyhoedd yn Gymraeg a'r llall i wneud cyhoeddiadau sain yn y gweithle yn Gymraeg. 

Heddiw, mae Cymdeithas yr Iaith wedi anfon llythyr at y Prif Weinidog a Chomisiynydd y Gymraeg heddiw gan ofyn am esboniad. 

Wrth ymateb i'r newyddion, meddai Manon Elin, Cadeirydd grŵp hawl Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:  "Mae hyn yn amlygu'r newid sydd ar droed.

"Ers degawdau, mae cyrff wedi bod yn defnyddio'r rhethreg iawn pan ddaw hi at drin y Gymraeg yn deg a pharchu hawliau pobl i'r Gymraeg, ond yn gwrthod cyflawni hyn pan ddaw hi at y mater o weithredu hawliau ymarferol ar lawr gwlad.

"Mae'r gwirionedd yn dod i'r amlwg nawr. O dan yr hen gyfundrefn o gynlluniau iaith mae'r cyrff hyn wedi addo trin y Gymraeg yn gyfartal a'r Saesneg, ond, mewn gwirionedd, wedi bod yn ffafrio'r Saesneg ac amddifadu pobl o'u hawliau i'r Gymraeg.    

"Yn amlwg, dylai fod yn destun cywilydd bod y Llywodraeth yn herio dyletswyddau y cafodd eu llunio a'u cyflwyno ganddyn nhw eu hunain i'r Cynulliad.

Os nad ydy'r Llywodraeth yn barod i fodloni hawliau sylfaenol i'r Gymraeg, pwy sydd?

"Doedd pawb ddim o blaid creu hawliau ym meysydd eraill fel hawliau plant, ond cyflawnwyd newid er gwaethaf gwrthwynebiad sefydliadau.

"Dyna'r gobaith fan hyn. Os ydy cyrff yn gweithredu'r Safonau maen nhw'n mynd tuag at gyflawni hawliau dynol pobl. Dyna'r hyn rydyn ni eisiau, hawliau dynol, i'r cyhoedd a gweithwyr.

"Byddwn ni'n gwrthwynebu'r ceisiadau hyn i wanhau hawliau iaith pobl, ac yn ystyried ein hawliau i ymyrryd yn gyfreithiol yn erbyn Llywodraeth Cymru a chyrff eraill.

"Byddwn ni'n sefyll lan dros bobl er mwyn sicrhau eu hawliau dynol, eu hawliau i'r Gymraeg."  

Bydd Comisiynydd y Gymraeg nawr yn dyfarnu ar yr her gan y Llywodraeth a nifer o gyrff eraill. Hyd yn hyn, mae chwe chorff wedi gwneud cais i herio'r Safonau.   

Mewn llythyr at Gomisiynydd y Gymraeg, ysgrifennodd Manon Elin:  "Rydym yn erfyn arnoch chi i beidio ag ildio i'r heriau hyn. Eich swyddogaeth yw amddiffyn hawliau pobl i'r Gymraeg, nid ildio i'r swyddogion sy'n gwrthwynebu newid ac eisiau amddifadu pobl o'u hawliau dynol." 

Llun: Manon Elin

Rhannu |