Mwy o Newyddion

RSS Icon
22 Chwefror 2016

Canolfan ddementia flaenllaw yn cyflogi 27 aelod o staff newydd

Mae canolfan ragoriaeth ddementia newydd gwerth £7 miliwn yng Nghaernarfon wedi cyflogi 27 aelod o staff newydd gan roi hwb i economi’r ardal ar ddechrau’r Flwyddyn Newydd.

Yn ystod ei ymweliad â’r cartref gofal modern, croesawodd yr Arglwydd Dafydd Wigley y newyddion bod cyfanswm y gweithlu ym Mryn Seiont Newydd bellach wedi cynyddu i 90.

Dywedodd yr Arglwydd Wigley, a ymwelodd â’r ganolfan gyda’i wraig, yr Arglwyddes Elinor, bod sefydliad gofal arobryn Parc Pendine ar gyrion y dref yn cyflawni rôl bwysig iawn yn y gymuned.

Syniad a ddatblygwyd gan berchnogion Parc Pendine, Mario Kreft MBE a’i wraig Gill, yw’r ganolfan ddwyieithog, a enwyd i goffáu’r hen ysbyty cymunedol, Ysbyty Bryn Seiont, a arferai sefyll ar y safle.

Erbyn hyn mae llawr gwaelod y datblygiad arobryn, sy’n darparu llety i 35 o bobl, wedi agor yn llawn.

Mae cynlluniau ar y gweill hefyd ar gyfer 16 o fflatiau lle gall cyplau fyw gyda’i gilydd, fel rhan o ail gam y datblygiad, a fydd yn creu mwy na 100 o swyddi yn y pen draw.

Roedd y recriwtiaid diweddaraf wedi cyrraedd camau olaf eu rhaglen hyfforddiant ddwys o bythefnos yn y ganolfan pan alwodd yr Arglwydd Wigley heibio i’w cyfarfod yn ystod taith dywys gyda Mr a Mrs Kreft.

Yn gyn Aelod Seneddol ac Aelod Cynulliad Caernarfon, yr Arglwydd Wigley hefyd oedd arweinydd Plaid Cymru o 1991 i 2000 a chafodd ei wneud yn arglwydd yn 2010.

Mae ganddo ddiddordeb mawr mewn gofal ar ôl gwasanaethu fel dirprwy gadeirydd y Grŵp Seneddol Amlbleidiol ar Anabledd, dirprwy lywydd Anabledd Cymru a dirprwy lywydd Mencap (Cymru).

Dywedodd yr Arglwydd Wigley: “Mae’n wych gweld y prosiect yma ym Mryn Seiont Newydd yn dwyn ffrwyth fel hyn. Mi wnes i ddod draw yn ystod y cam adeiladu a chlywais am uchelgais Mario a Gill ar gyfer y ganolfan bryd hynny.

“Nid oes unrhyw amheuaeth y bydd y ganolfan hon yn ateb i angen pwysig yn yr ardal.  Mae’n mynd i roi hwb mawr i’r economi leol hefyd.

“Rwy’n falch o weld bod y staff yn cael eu recriwtio o’r gymuned a’r hyfforddiant y maent yn ei gael.  Mae pawb yn teimlo’n gadarnhaol iawn am y prosiect.

“Mae hefyd yn dda clywed bod y mwyafrif helaeth o’r staff yn ddwyieithog sy’n golygu y gallant ymateb i bobl yn yr iaith y maent yn ei defnyddio.”

Ychwanegodd: “Mae’r adeilad yn drawiadol iawn.  Mae’n olau ac yn hwyliog ac rwy’n siŵr y bydd yn cyflawni rôl bwysig iawn yn y gymuned.”

Dywedodd rheolwr y ganolfan, Sandra Evans: "Mae’r 27 aelod o staff newydd yn cael eu hyfforddi yn awr o dan arweiniad Ann Farr, rheolwr sefydliad hyfforddiant Smartcare Parc Pendine, sy’n cynnwys amser yn yr ystafell ddosbarth a gweithio gyda phreswylwyr.

“Yn y grŵp, sy’n cynnwys dynion a merched, o 18 oed i’w pumdegau hwyr, mae gennym ymarferwyr gofal, uwch ymarferwyr gofal, staff cymorth gofal a staff arlwyo.

“Rydym yn gweithio yn awr i baratoi llawr uchaf y ganolfan, sy’n gallu darparu llety i 36 o bobl.

“Rwy’n falch o ddweud ein bod wedi llwyddo i recriwtio pobl wych, pob un ohonynt yn byw yn yr ardal leol a’r mwyafrif ohonynt yn siaradwyr Cymraeg.

“Mae nifer o berthnasau’r preswylwyr wedi dod draw i’n gweld yn barod ac mae’r adeilad a lefel y gofal yr ydym yn ei darparu wedi creu argraff arnynt."

Dywedodd y perchennog, Mario Kreft: “Roedd yn bleser mawr croesawu’r Arglwydd Wigley i Bryn Seiont Newydd a rhoi cyfle iddo gyfarfod â’r grŵp diweddaraf o staff wrth iddynt gyflawni eu hyfforddiant.

“Roedd yn arbennig o briodol bod yr Arglwydd Wigley, sydd wedi bod yn gefnogwr brwd ers dechrau’r prosiect, wedi gallu dod i weld y ganolfan yn dwyn ffrwyth, gyda’r preswylwyr a’r staff yma, ac rwyf wrth fy modd bod ein hymdrechion wedi creu argraff dda.”

Mae Mr a Mrs Kreft eisoes yn rhedeg saith cartref gofal, cwmni gofal cartref a chanolfan gofal addysgu yn ardal Wrecsam, ac mae Mr Kreft yn ŵr blaenllaw yn sector gofal y DU.

Ef yw Cadeirydd Fforwm Gofal Cymru, y prif gorff sy’n cynrychioli’r sector gofal yng Nghymru, ac mae wedi derbyn MBE am ei gyfraniad i ofal cymdeithasol yng Nghymru.

Rhannu |