Mwy o Newyddion

RSS Icon
22 Chwefror 2016

Horizon yn gwahodd prentisiaid a graddedigion newydd i ymuno â'r genhedlaeth nesaf o weithwyr niwclear

Mae’r genhedlaeth nesaf o weithwyr niwclear yn cael eu gwahodd i ddechrau taith eu gyrfa wrth i Pŵer Niwclear Horizon groesawu ei brentisiaethau newydd a lansio ei raglen graddedigion ar gyfer 2016.

Bydd y ddau gynllun newydd yn cael eu lansio ddiwedd mis Chwefror ac maent yn nodi cychwyn gweledigaeth hirdymor Horizon i recriwtio pobl ddawnus ac egnïol i weithio ar Brosiect Wylfa Newydd.

Mae'r cwmni’n gwahodd ceisiadau ar gyfer pum lle i raddedigion a hyd at ddeuddeg o brentisiaid, a bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn dechrau yn eu gyrfaoedd newydd mewn ychydig dros chwe mis. Wrth i’r cwmni dyfu, bydd llawer mwy o gyfleoedd swyddi yn dilyn ar bob lefel yn sgil anghenion datblygu, adeiladu a gweithredu Wylfa Newydd.

Meddai Greg Evans, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Horizon: “Rhaid cael pobl ddawnus i ymuno â'r diwydiant niwclear a bod yn rhan o Wylfa Newydd. Dyma ddechrau'r daith honno, ac mae’r rhain yn swyddi da ar gyfer pobl sydd â'r cymhelliant a'r sgiliau cywir.

"Mae darpar weithwyr Wylfa Newydd yn yr ysgol, y coleg neu’r brifysgol ar hyn o bryd, gan mwyaf, ac rydym am roi cyfle i bobl ifanc - a’r rheini sy’n awyddus i ail-hyfforddi - i chwarae rhan yn un o brosiectau ynni mwyaf Ewrop.”

Mae Cynllun Prentisiaeth Dechnegol Horizon yn cael ei lansio ar y cyd â Choleg Menai ac mae’n agored i dderbyn geisiadau o ddydd Llun 22 Chwefror ymlaen. Bydd y grŵp cyntaf yn cychwyn ym mis Medi. Bydd posteri a thaflenni’n cael eu dosbarthu i ysgolion lleol, a bydd hysbysebion yn ymddangos mewn papurau newydd rhanbarthol. Bydd gwybodaeth ar gael drwy wefan Horizon a’i sianelau cyfryngau cymdeithasol.

Un nodyn pwysig yw nad oes dim cyfyngiad oed o ran pwy all wneud cais, a gwahoddir ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n awyddus i ail-hyfforddi yn ogystal â chan bobl ifanc sydd am ddechrau gyrfa werth chweil, ar garreg eu drws.

Gall prentisiaid y dyfodol wneud cais ar-lein drwy wefan Horizon a bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael lle ar gynllun tair blynedd. Yn ystod y flwyddyn gyntaf, byddant yn astudio ym Mangor ac yn Llangefni i ennill cymwysterau Lefel 1 a 2, a byddant hefyd yn dysgu'r sgiliau, yr hyfforddiant a’r wybodaeth sylfaenol a fydd yn eu paratoi ar gyfer eu hail flwyddyn.

Yn ystod yr ail flwyddyn, byddant yn astudio at Lefel 2 NVQ mewn Perfformio Gweithrediadau Peirianneg a BTEC Lefel 2.

Yn y drydedd flwyddyn ymlaen bydd ymgeiswyr wedi symud at gyflawni Diploma BTEC Lefel 3 ac NVQ Lefel 3 yn y ddisgyblaeth peirianneg o’u dewis. Erbyn hyn, bydd y prentisiaid hefyd yn cael llawer o gyfle i ddysgu yn y gwaith gyda pheth hyfforddiant yn safleoedd Coleg Menai a safleoedd niwclear eraill.

Mae Rhaglen Datblygu Graddedigion 2016 yn agored i geisiadau ddydd Llun 29 Chwefror. Eleni, bydd Horizon yn targedu myfyrwyr sydd â'r sgiliau a’r cymwysterau priodol i ymuno â’i dimau gweithredu a pheirianneg. Bydd y rolau eleni yn gweddu orau i fyfyrwyr sy’n cwblhau cyrsiau gradd ym maes peirianneg niwclear a sifil, peirianneg fecanyddol, peirianneg drydanol, a pheirianneg Rheoli ac Offer, a hefyd y rheini sy’n astudio ffiseg, cemeg a chyrsiau amgylcheddol. Mae’n bosib y pwyslais ar feysydd eraill yn y blynyddoedd i ddod.

Yn ogystal â rhoi hysbysebion am swyddi i raddedigion mewn papurau newydd ar draws gogledd Cymru, bydd Horizon yn trafod y cynllun gyda’r prifysgolion blaenllaw ledled y DU.  Gall ymgeiswyr posib wneud cais yn uniongyrchol drwy wefan Horizon.

Mae rhagor o wybodaeth a manylion ynghylch gwneud cais ar gyfer y ddau gynllun ar gael ar hafan gwefan Horizon www.horizonnuclearpower.com/hafan

Rhannu |