Mwy o Newyddion

RSS Icon
22 Chwefror 2016

Cyhoeddi “ffordd Gymreig” newydd o weithio yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol

Mae Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cyhoeddi set newydd o egwyddorion ar gyfer yr holl staff sy’n cael eu cyflogi gan GIG Cymru, sy’n ffurfio sail y “ffordd Gymreig” o weithio.

Egwyddorion craidd y GIG, sydd wedi’u datblygu mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, Cyflogwyr y GIG ac undebau llafur, yw sylfaen sut y dylai staff weithio ar hyd a lled GIG Cymru.

Mae’r egwyddorion craidd yn rhoi’r cyhoedd a’r cleifion yn gyntaf ac maent wedi’u datblygu i sicrhau bod y gwasanaeth iechyd yn darparu’r gofal gorau posibl i’r rheini sydd â’r angen iechyd mwyaf yn gyntaf. Maent hefyd yn rhoi pwyslais ar lesiant a gofal iechyd ataliol a chefnogi datblygiad proffesiynol parhaus gweithwyr y gwasanaeth.

Maent yn nodi:

  • Rydym yn rhoi ein cleifion a defnyddwyr ein gwasanaethau yn gyntaf
  • Rydym yn ceisio gwella’n gofal
  • Rydym yn canolbwyntio ar lesiant ac atal
  • Rydym yn ystyried ein profiadau ac yn dysgu oddi wrthynt
  • Rydym yn gweithio mewn partneriaeth ac fel tîm
  • Rydym yn gwerthfawrogi pawb sy'n gweithio i'r GIG.

?Dywedodd yr Athro Drakeford: “Mae gennym gymaint i fod yn falch ohono yng Nghymru. I mi, mae’r gwasanaeth iechyd yn cyfleu ysbryd ac ymdrech ein cenedl. Mae gennym wasanaeth sy’n cael ei ddarparu ddydd ar ôl dydd gan staff ymroddgar a phroffesiynol dros ben.

“Mae mwy o bobl yn gweithio i’r gwasanaeth iechyd heddiw na 10 mlynedd yn ôl. Mae pob aelod o staff yn allweddol i sicrhau bod y gwasanaeth iechyd yn parhau i fod yn un o’r sefydliadau y mae pobl yn ymddiried fwyaf ynddo ac sy’n cael ei werthfawrogi fwyaf yng Nghymru. Mae’r ymroddiad hwn tuag at ofal cleifion bob amser yn fy ysbrydoli.

“Rwy’n falch iawn o lansio’r Egwyddorion Craidd ar gyfer GIG Cymru. Gwirioneddau sylfaenol sy’n gweithredu fel sylfaen ar gyfer system o ddaliadau yw egwyddorion. Rwy’n gobeithio ei bod yn glir i bawb mai dyma’r gwirioneddau sylfaenol y mae pawb yn dymuno gweld ein gwasanaeth iechyd yn eu datblygu. Rwy’n benderfynol y bydd yr egwyddorion hyn yn dod yn rhan annatod o’r ffordd rydyn ni’n gweithio yn GIG Cymru.

“Bydd yr egwyddorion hyn yn eiddo i bawb sy’n ymwneud â’r gwasanaeth iechyd, yn enwedig y staff sydd eisoes yn eu gweithredu - boed hynny’n drwy roi’r cleifion yn gyntaf, drwy ddysgu o’u profiadau neu drwy gydweithio fel timau.”

Dywedodd Richard Tompkins, Cyfarwyddwr Cyflogwyr GIG Cymru: “Mae’r egwyddorion craidd wedi’u datblygu o ganlyniad i weithio mewn partneriaeth gyda chydweithwyr o bob rhan o GIG Cymru, ynghyd â chynrychiolwyr undebau llafur. Maen nhw’n dangos yn amlwg ein hymrwymiad parhaus i uno i greu gwahanol ffyrdd o weithio yn y gwasanaeth iechyd.

“Mae’r egwyddorion yn cynrychioli ein hagwedd newydd at wella safonau a gofal yn GIG Cymru er mwyn cefnogi’r gwaith da sy’n cael ei wneud yn barod ar draws pob bwrdd ac ymddiriedolaeth iechyd i ddatblygu diwylliant yn y gweithle sy’n seiliedig ar werthoedd ac ymddygiadau cyffredin ar gyfer pob aelod o staff. Byddan nhw’n helpu i wella cyfathrebu rhwng cydweithwyr, yn ogystal â sicrhau bod polisïau cyflogaeth gwell yn cael eu datblygu a bod sefyllfaoedd a allai godi yn y gweithle yn cael ymateb prydlon.

“Rhain fydd y prif egwyddorion ar gyfer penderfynu sut fyddwn ni’n gweithio gyda’n gilydd ar draws y gwasanaeth iechyd a byddan nhw’n sylfaen ar gyfer sefydliadau wrth iddyn nhw ddatblygu eu fframweithiau eu hunain.”

Dywedodd Dawn Bowden, Pennaeth Iechyd yn Unison Cymru Wales: “Mae gan Unison aelodau sy’n gweithio ar drws y GIG cyfan yng Nghymru, ar bob gradd ac ym mhob lleoliad. Rydyn ni’n croesawu’r egwyddorion craidd o waelod calon. 

“Maen nhw’n amlinellu’n glir beth gall cleifion, perthnasau a staff ei ddisgwyl gan GIG Cymru. Bydd y safonau hyn yn gymwys ar draws pob bwrdd ac ymddiriedolaeth iechyd a byddan nhw’n dangos sut gall pawb sy’n gweithio yn y gwasanaeth, neu sy’n ei ddefnyddio, fod ar eu hennill yn sgil y ‘ffordd Gymreig’ o weithio mewn partneriaeth."

Dywedodd Dr Phil Banfield, Cadeirydd BMA Cymru Wales:

“Mae’r egwyddorion hyn yn cynrychioli dechrau rhywbeth sylfaenol a chyffrous i GIG Cymru. Gall pawb sy’n arwain ac yn ymarfer yn y gwasanaeth iechyd, a phawb sy’n defnyddio’r gwasanaeth gyflwyno a gweithredu’r egwyddorion hyn, a byw yn unol â nhw. Maen nhw’n grymuso cleifion, staff a’r rheini sy’n rhedeg ein gwasanaeth iechyd.

“Mae’r egwyddorion yn sicrhau bod undod rhwng y gwaith rhagorol sydd ar y gweill yn barod gan sawl bwrdd iechyd. Maen nhw hefyd yn arwydd bod y sefydliad yn dysgu gwrando a gwerthfawrogi sylwadau, adborth a beirniadaeth oherwydd ei fod yn eiddo i’r cleifion y mae’n eu gwasanaethu, y rheini sy’n gweithio ynddo a’r rheini sy’n byw gerllaw.  

“Mae BMA Cymru Wales wedi ymrwymo i weithio gyda phartneriaid i wneud yn siŵr bod newidiadau go iawn yn cael eu gwneud a bod staff a chleifion yn gallu gweld a theimlo’r gwahaniaeth. Os allwn ni wneud hyn, bydd gennym ni wasanaeth iechyd y gallwn ni fod hyd yn oed yn fwy balch ohono. Ond yn bwysicach oll, bydd gennym wasanaeth iechyd y bydd gweithwyr proffesiynol eisiau gweithio ynddo ac yn parhau i weithio ynddo. Allwn ni ddim â phwysleisio digon pa mor bwysig yw hyn.”

Dywedodd Tina Donnelly, Cyfarwyddwr Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru: “Mae Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru yn falch o gefnogi’r egwyddorion craidd newydd. Rydyn ni wedi bod yn gysylltiedig â’r gwaith hwn o’r dechrau ac rydyn ni’n falch o’u gweld yn cael eu gwireddu gyda set o werthoedd sylfaenol sy’n sail i waith ein gwasanaeth iechyd yng Nghymru.”

“Dylai gofal iechyd o ansawdd uchel gael ei gryfhau gan safonau llywodraethu rhagorol i sicrhau bod iechyd a diogelwch cleifion a staff yn cael eu gwarchod. Dylai’r egwyddorion hyn barhau wrth galon GIG Cymru o ddydd i ddydd os ydyn ni am sicrhau gwasanaeth y gall gweithwyr iechyd fod yn falch ohono a gofal y mae cleifion yn ddiolchgar o’i dderbyn.” 

Rhannu |